Enable job alerts via email!
Mae Ysgol Gymraeg yn chwilio am Uwch Arweinydd i arwain adran mathemateg a rhifedd. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle i gyfrannu at ddatblygiad addysgol mewn amgylchedd cyffrous a chefnogol. Yn cynnig cyflog prif raddfa athrawon plus TLR, mae'r ymgeisydd yn gobeithio bod â phrofiad o arwain a chymwysterau da. Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer 10fed o Hydref, 2025.
Uwch Arweinydd
Arweinydd Maes Dysgu a Phrofiad: Mathemateg a Rhifedd
Cyflog: Prif Raddfa Athrawon + TLR 1.1 (£9,955)
Dymuniad Corff Llywodraethol Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun yw penodi arweinydd ymroddedig a chymwys i ymgymryd â swydd llawn amser fel Arweinydd MDaPh Mathemateg a Rhifedd yr ysgol o fis Ionawr 2026.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion egnïol â chymwysterau da i ymuno â'n hadran mathemateg brofiadol a sefydlog a’r Tîm Arwain Llawn ymroddedig, uchelgeisiol a llwyddiannus.
Rydym am benodi:
Disgwylir i'r ymgeisydd fod yn angerddol dros addysg gyfrwng Cymraeg ac yn barod i gyfrannu at ethos a gweledigaeth ysgol flaengar ac uchelgeisiol.
Ysgol hapus a llwyddiannus a sefydlwyd ym 1995 yw hon sy’n darparu addysg gyfrwng Cymraeg i ieuenctid ardal Merthyr Tudful a Chwm Cynon. Fe'i lleolir ar gyrion tref Aberdâr ar gampws gwych sydd wedi datblygu’n ddiweddar i gynnwys neuadd chwaraeon, cae 3G, bloc ystafelloedd addysgu newydd a darlithfa.
Mae dros 1050 o ddisgyblion yn yr ysgol erbyn hyn sy’n cynnwys 6ed Dosbarth. Yn Arolwg Estyn diweddar yr ysgol (Mawrth 2025), nodwyd Mae disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun yn elwa’n fawr o brofiadau dysgu ysgogol mewn amgylchedd ofalgar lle mae perthnasoedd gwaith cynhaliol rhwng staff a disgyblion yn sail i ddysgu effeithiol. Mae arweinyddiaeth o ansawdd uchel yn graidd i lwyddiant yr ysgol. Mae’r pennaeth a’r uwch dîm arwain yn cynnig cyfeiriad clir a chefnogol, ac mae ganddynt weledigaeth bwrpasol sydd wedi’i gwreiddio’n gadarn yn lles a dyheadau disgyblion.
Gyda thwf yn yr ysgol dros y blynyddoedd nesaf a natur ddeinamig a datblygol yr ysgol, ceir ystod o gyfleoedd datblygu gyrfa’n fewnol yn y meysydd academaidd, cwricwlwm, lles ac arweinyddiaeth.
Os ydych am ymuno â ni, lawr-lwythwch ffurflen gais oddi ar wefan E-teach.
Gellir cael manylion pellach drwy gysylltu yn uniongyrchol â'r Brifathrawes – Miss Lisa Williams. Mae’r manylion cyswllt ar y ffurflen gais.
Dyddiad cau ceisiadau – 9.00yb ddydd Gwener 10fed o Hydref, 2025.