Enable job alerts via email!

TGCh – Dadansoddwr Prosiectau Digidol – Prosesau Awtomeiddio Robotig (RPA)

Dyfed-Powys Police

Wales

Hybrid

GBP 31,000 - 40,000

Full time

2 days ago
Be an early applicant

Job summary

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am Dadansoddwr Prosiectau Digidol i gefnogi gweledigaeth strategol ac i alluogi effeithlonrwydd drwy dechnoleg. Bydd y swydd yn cynnwys arwain gwaith dadansoddi, casglu gofynion, a chydweithio â datblygwyr. Mae hyn yn cynnig cyfle cyffrous i ymwneud â thrawsnewid busnesau lleol.

Benefits

24 diwrnod o wyliau blynyddol
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr

Qualifications

  • Hyder yn y Gymraeg, safon 1 yn ofynnol.
  • Gallu dadansoddi prosesau a chydweithio â datblygwyr.
  • Gallu arwain gwaith adolygu a chynllunio.

Responsibilities

  • Arwain gwaith adolygu a dadansoddi prosesau i nodi anghenion.
  • Casglu gofynion a chydweithio â datblygwyr.
  • Gweithredu fel rheolwr prosesau ar gyfer yr awtomeiddio a gyflwynir.
Job description
Overview

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel TGCh – Dadansoddwr Prosiectau Digidol – Prosesau Awtomeiddio Robotig (RPA) yn Newid Busnes TGCh.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Cefnogi a gyrru gweledigaeth strategol Heddlu Dyfed-Powys, gyda’r nod o optimeiddio prosesau busnes a galluogi effeithlonrwydd gweithredol drwy dechnolegau robotig. Bydd hyn yn cynnwys arwain y gwaith o ddadansoddi prosesau, casglu gofynion, a chydweithio â datblygwyr, gan ddylunio atebion awtomeiddio arloesol sy’n cyd-fynd ag amcanion sefydliadol Heddlu Dyfed-Powys. Bydd deiliad y rôl hefyd yn gweithredu fel rheolwr prosesau ar gyfer yr holl awtomeiddio a gyflwynir.

Rôl a chyfrifoldebau
  • Arwain gwaith adolygu a dadansoddi prosesau i nodi anghenion a chyfleoedd awtomeiddio.
  • Casglu gofynion a chomasi cydweithio gyda datblygwyr i ddylunio atebion RPA arloesol.
  • Gweithio i gyd-fynd â chynlluniau sefydliadol a sicrhau bod datrysiadau yn cynorthwyo effeithlonrwydd gweithredol.
  • Gweithredu fel rheolwr prosesau ar gyfer yr awtomeiddio a gyflwynir.
What you can expect / Beth allwch chi ddisgwyl
  • Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno.
  • 24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus.
  • 24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd).
  • Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle.
  • Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd).
  • Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas.
  • Cynllun Beicio i’r Gwaith, a chefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles (Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi).
  • Cynllun pensiwn, rhwydweithiau staff a chyfleoedd gweithio hyblyg.
  • Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael a darpariaethau tâl salwch.
Gwybodaeth allweddol

Cyflog: £31,296 - £39,813
Rhan/Llawn Amser Llawn Amser: Rhan/Llawn Amser
Oriau'r Wythnos: 37
Math o gytundeb: Parhaol
Lefel o allu yn y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1

Cyfweliad a dyddiadau

Dyddiad Cyfweliad: 17 Hydref 2025
Dyddiad cau ceisiadau: 01/10/25 23:55

Cyflwyno cais

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

https://www.dyfed-powys.police.uk/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/careers/guidance-Documents/police-staff-attainments-welsh-.pdf

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefydd.

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio. Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:
Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

Get your free, confidential resume review.
or drag and drop a PDF, DOC, DOCX, ODT, or PAGES file up to 5MB.