Enable job alerts via email!

Athro Gwyddoniaeth (cyfnod mamolaeth)

Eteach

Wales

On-site

GBP 30,000 - 40,000

Full time

Today
Be an early applicant

Job summary

Ysgol a addysgu yn arloesol yng Nghymru yn chwilio am Athro Gwyddoniaeth ar gyfer cyfnod mamolaeth llawn amser. Bydd yn gyfrifol am ddarparu addysg ar lefel TGAU, datblygu cwricwlwm yn unol ag egwyddorion Cwricwlwm i Gymru, a chael gweledigaeth gadarn yn y broses. Mae'r ysgol yn cynnig amgylchedd cyfoethog ar gyfer datblygiad proffesiynol a chyfleoedd i ddisgyblion.

Qualifications

  • Galluoedd i addysgu hyd at lefel TGAU o fewn y Bioleg.
  • Gwybodaeth a brwdfrydedd i ddatblygu cwricwlwm.
  • Sgiliau rhyngbersonol effeithiol.

Responsibilities

  • Darpariaeth o addysgu ar lefel Wyddoniaeth i ddisgyblion hyd at TGAU.
  • Cyfrannu at ddatblygu cwricwlwm yn seiliedig ar egwyddorion Cwricwlwm i Gymru.
  • Gweithio i gynyddu cyfranogiad Gwyddoniaeth.

Skills

Addysgu hyd at lefel TGAU
Sgiliau rhyngbersonol
Datblygu cwricwlwm

Education

Diploma Addysg
Job description
Overview

Swydd Ddisgrifiad: Athro Gwyddoniaeth (Cyfnod Mamolaeth)

Math o gontract: Contract Blwyddyn (Mamolaeth)

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi athro ymroddgar a brwdfrydig i swydd llawn amser (cyfnod mamolaeth) yn yr Adran Wyddoniaeth. Mae’r gallu i addysgu hyd at lefel TGAU o fewn y Bioleg yn ddymunol.

Mae’r Adran yn hynod lwyddiannus yn TGAU a Safon Uwch gan ddenu niferoedd da i astudio o fewn y pwnc yn U2, ble mae’r canlyniadau dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn dda iawn. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gweledigaeth glir o egwyddorion Dysgu ac Addysgu dynamig a blaengar a’r sgiliau rhyngbersonol i gydweithio fel aelod o dîm effeithiol a brwdfrydig.

Mae brwdfrydedd a gweledigaeth gadarn i gyfrannu at ddatblygu cwricwlwm yn seiliedig ar egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn flaenoriaeth glir i’r ysgol. Mae’r adran yn flaengar iawn ac wedi arloesi yn y gwaith o ddatblygu cwricwlwm MDaPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg a hynny ar hyd y continwwm dysgu. Nodwedd arbennig o’r adran yw’r disgwyldiadau a’r safonau cyson uchel o ran gweithgaredd allgyrsiol a chyfleoedd i ddisgyblion. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o athrawon ymroddgar dros ben sydd yn cynnig cyfleoedd amrywiol mewn sawl maes i ddisgyblion sy’n cyflawni ar lefel uchel iawn. Yn benodol mae bechgyn a merched yr ysgol wedi cystadlu mewn sialensiau cenedlaethol sydd wedi dyfnhau a chyfoethogi eu deall o berthnasedd Gwyddoniaeth i fywyd cyfoes.

Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn ysgol 3-18 oed sydd wedi'i lleoli yng Nghwm Tawe ac mae ein harlwy addysgol yn seiliedig ar ethos bugeiliol a theuluol cryf. Mae Ysgol Gymraeg Ystalyfera yn ysgol boblogaidd a ffyniannus, mae gennym hanes ardderchog o sicrhau llwyddiant academaidd, gan ddarparu ystod eang o gyfleoedd cyfoethogi a sicrhau addysg gyffredinol ragorol. Fel rhan o brosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif, mae’r ysgol wedi gweld byuddsoddiad o dros £30miliwn yn ei hadeiladau a'i chyfleusterau; gan ddarparu labordai gwych, ystafelloedd TGCh arbenigol, ystafelloedd addysgu eand a braf, theatr bendigedig, ardal fwyta, adain gelfyddydol perfformio, llain 2G a chyrtiau tennis.

Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth, Mrs Laurel Davies neu os am becyn ymgeisio a ffurflen gais cysylltwch â Mrs Ann Llewellyn, Bwrsar yn yr ysgol.

Responsibilities
  • Darpariaeth o addysgu ar lefel Wyddoniaeth i ddisgyblion hyd at TGAU, gyda chyfleoedd i gyfrannu at ddulliau dysgu dynamig a chydweithio fel aelod o dîm.
  • Cyfrannu at ddatblygu cwricwlwm yn seiliedig ar egwyddorion Cwricwlwm i Gymru a mheithlu arloesedd cwricwlwm MDaPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar hyd y continwwm dysgu.
  • Gweithredu fel gweinyddwr tîm ymroddgar a dysgwyr o lefel uchel, gan dyrannu cyfleoedd amrywiol i ddisgyblion sy’n cyflawni ar lefel uchel.
  • Gweithio i gynyddu cyfranogiad a chydnabyddiaeth rôl Gwyddoniaeth yng nghyfleoedd bywyd a thystiolaeth gwyddonol mewn bywyd modern.
Qualifications and qualities
  • Galluoedd i addysgu hyd at lefel TGAU o fewn y Bioleg (presenoldeb o fewn y gofynion y gofynir ar gyfer y swydd).
  • Gwybodaeth a brwdfrydedd i ddatblygu cwricwlwm yn unol â egwyddorion Cwricwlwm i Gymru.
  • Effeithiolrwydd mewn sgiliau rhyngbersonol ac ymdrech i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm.
  • Yr gallu i gyfuno gweledigaeth addysgu gyda dechnegau dysgu amrywiol a gweithgareddau allgyrsiol.
Application process

Proses Ymgeisio

Gellid ymgeisio am y swydd hon drwy ffurflen a llythyr cais yn mynegi diddordeb am ymgymryd a’r swydd. Gellir sôn am brofiad perthnasol ar gyfer y swydd hon, ynghŷd â’r weledigaeth ar sut y gellir cyfrannu ymhellach yng nghyd destun cymuned yr ysgol.

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 10fed Hydref 12.00p.m.

Dyddiad dechrau y swydd: Ionawr 2026

Get your free, confidential resume review.
or drag and drop a PDF, DOC, DOCX, ODT, or PAGES file up to 5MB.