
Enable job alerts via email!
Generate a tailored resume in minutes
Land an interview and earn more. Learn more
Sefydliad darlledu blaenllaw sy'n chwilio am unigolion angerddol i ymuno â thîm Radio Cymru yn Bangor. Mae'r rôl hon yn cynnig profiadau ymarferol sy'n helpu i ddatblygu sgiliau yn y diwydiant darlledu. Mae gofynion allweddol yn cynnwys siarad Cymraeg a thosturi dros ddarlledu. Mae'r cyfle yn cynnig datblygiad personol a phrofiad o'r broses ddarlledu, yn ogystal â'r cychwyn ar lwybr gyrfa llwyddiannus.
BAND Y SWYDD: TRN
MATH O GONTRACT: Tymor Penodol, Llawn amser am 8 wythnos
ADRAN: Radio Cymru
LLEOLIAD: Caerdydd neu Fangor
YSTOD CYFLOG: £24,552 y flwyddyn - mae’r amrediad cyflog disgwyliedig ar gyfer y swydd hon yn adlewyrchu meincnodi mewnol a gwybodaeth am y farchnad allanol.
Mae’r swydd hon yn cael ei hysbysebu fel rhan o raglen BBC Extend ar gyfer pobl anabl. I wneud cais am y rôl hon dylech ystyried eich hun yn byddar, yn anabl neu’n niwrowahanol a rhaid i chi fodloni naill ai: y diffiniad o anabledd yn Neddf Cydraddoldeb (2010), neu'r diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (1995) os ydych yn ymgeisio yng Ngogledd Iwerddon. Cewch eich diffinio’n fras fel unigolyn anabl o dan y ddwy ddeddf os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol ac andwyol hirdymor a sylweddol ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys cyflyrau a namau amlwg a heb fod yn rhai amlwg, a chyflyrau meddygol fel Canser, HIV neu Sglerosis Ymledol.
Rydym wedi ymrwymo i wneud y broses o wneud cais am y swydd hon mor hygyrch â phosibl. Os oes angen i chi drafod addasiadau neu ofynion mynediad ar gyfer y broses ymgeisio, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen Extend, cysylltwch â thîm BBC Extend drwy flwch derbyn Amrywiaeth a Chynhwysiant y BBC.
Mae’r BBC wedi ymrwymo’n llwyr i ddarparu addasiadau i’r gweithle i helpu i gael gwared ar rwystrau yn y gweithle sy’n wynebu pobl anabl. I wneud hyn, mae gennym ein Gwasanaeth Mynediad ac Anabledd pwrpasol ein hunain ar gyfer y BBC sy’n darparu asesiadau a chymorth drwy gydol ein cyflogaeth gyda ni. Os byddwch yn llwyddo yn eich cais am y rôl hon a bod angen addasiadau yn y gweithle arnoch, byddwn yn gweithio gyda chi i roi addasiadau ar waith.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am BBC Extend, ewch i dudalen we BBC Extend.
Dyma eich cyfle i brofi sut beth yw gweithio i Radio Cymru, cartref radio Cymraeg. Byddwch yn derbyn profiad ymarferol, dysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, gan ddatblygu eich sgiliau mewn amgylchedd creadigol a chyflym ei rythm.
Mae hyn yn fwy na phrofiad gwaith yn unig – mae’n gyfle i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn maes rydych chi’n angerddol amdano. Os ydych chi’n barod i adael eich marc ar ddarlledu, dyma eich cyfle.
Ymunwch â thîm sy’n gwerthfawrogi positifrwydd, creadigrwydd a chydweithio. Mae’r cyfle unigryw hwn yn rhoi cipolwg i chi y tu ôl i’r llen ar ddarlledu Cymraeg, lle byddwch yn dysgu sut mae rhaglenni’n dod yn fyw gan gyfrannu at ddiwylliant cynhwysol a chefnogol. Cewch brofiad ymarferol gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol angerddol drwy ddatblygu sgiliau a fydd yn siapio’ch dyfodol.
This job description is a written statement of the essential characteristics of the job, with its principal accountabilities, incorporating a note of the skills, knowledge and experience required for a satisfactory level of performance. This is not intended to be a complete, detailed account of all aspects of the duties involved.
Please note: If you were to be offered this role, the BBC will conduct Employment screening checks which include Reference checks; Eligibility to work checks; and if applicable to the role, Safeguarding and Adverse media/Social media checks. Any offer made is conditional on these checks being satisfactory.
For any general queries, please contact: bbchr@bbc.co.uk
The BBC is committed to redeploying employees seeking suitable alternative employment within the BBC and they will be given priority consideration ahead of other applicants. Priority consideration means for those employees seeking redeployment their application will be considered alongside anyone else at risk of redundancy, prior to any individuals being considered who are not at risk.