
Enable job alerts via email!
Generate a tailored resume in minutes
Land an interview and earn more. Learn more
Gweithredwr yn y sector amgylcheddol yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â thîm monitro data morol. Byddwch yn gyfrifol am reoli a sicrhau ansawdd data morol, gan gynnwys cofrestru biolegol a dilysu data. Mae hefyd yn hanfodol i chydweithio gyda thimau i gyflawni gofynion data. Mae'r rôl hon yn cynnig cyflog £32,544 yn codi i £35,377, gyda buddion rhagorol megis 28 diwrnod o wyliau blynyddol a mwy.
Cyflog cychwynnol : £32,544 yn codi i £35,377 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb : Penodiad Tymor Penodol am 12 mis gyda'r posibilrwydd o barhaolrwydd.
Patrwm gwaith : Llawn amser, 37 awr yr wythnos(Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Rhif swydd : 203972
Y rôl
A ydych chi’n angerddol dros ecosystemau morol a gwneud gwir effaith drwy ddata? Rydym yn chwilio am unigolyn rhagweithiol sy’n ystyriol o fanylion i gefnogi ein Tîm Monitro, Asesu ac Adrodd Morol.
Yn y rôl hon, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o reoli ein data morol a sicrhau eu hansawdd - o gofnodi biolegol a dilysu data i weithio ar draws systemau sy’n cefnogi gwaith tystiolaeth forol hanfodol CNC. Byddwch yn cydweithio’n agos â thimau morol eraill, gan gynnwys ein Grŵp Ecosystemau Arfordirol Morol a Dŵr Croyw, gan helpu i ddarparu data cywir a dibynadwy sy’n sail i’r broses o wneud penderfyniadau amgylcheddol ledled Cymru.
Byddwch yn rhan o dîm mawr, cyfeillgar a chefnogol iawn o 18 o arbenigwyr sy’n monitro ac yn adrodd ar bopeth o riffau islanwol i barthau rhynglanwol. Mae ein tîm yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Gweithrediadau Morol, ac yn cwmpasu arfordir cyfan Cymru. Felly, bydd eich gwaith yn cefnogi’n uniongyrchol y gwaith o ddiogelu ac adfer ein amgylcheddau morol unigryw.
Os ydych yn drefnus, yn frwdfrydig dros wyddoniaeth forol, ac yn barod i weithio mewn tîm sy’n gwerthfawrogi cydweithio a chael effaith, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Lucie Haines at .
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, penodir o fewn pedwar i wyth wythnos i’r dyddiad cau.
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol.
Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i’w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.