Get a reply from this recruiter
Your resume and cover letter, tailored to exactly what they’re hiring for.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn recriwtio Swyddog Symudedd y Prosiect ar rôl rhan-amser i gydweithio gyda chorffau lleol er mwyn gwneud mynediad at y Parc yn fwy hygyrch. Bydd y swydd yn cynnwys cydlynu defnydd o offer i bobl ag anghenion symudedd ac ymholiadau cynhyrchiol.
Gellir datblygu gwybodaeth hygyrch, hyrwyddo�r prosiect, ac ystyried risgiau wrth storio a chludiant offer. Gellir gweithio ar draws y safleoedd a chydweithio gyda gwirfoddolwyr a phartneriaid i sicrhau
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Swyddog Symudedd y Prosiect Ewch Allan i’r Awyr Agored
Rhan-amser (12 awr yr wythnos / 0.32 CALl), oriau hyblyg gydol yr wythnos
Swydd yw hon i helpu i wneud traethau a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn fwy hygyrch. Byddwch yn cydlynu’r defnydd o gadeiriau olwyn traeth ac offer symudedd arall, gan alluogi pobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd i fwynhau ymweliadau yn yr awyr agored.
Gan weithio o swyddfa’r Parc yn Llanion ac mewn lleoliadau ar hyd a lled Sir Benfro, byddwch yn cysylltu â busnesau, cymunedau a safleoedd partner i ehangu mynediad at offer. Byddwch hefyd yn rheoli archebion ac ymholiadau, yn datblygu gwybodaeth hygyrch, yn hyrwyddo’r prosiect, yn monitro’r defnydd, yn cynnal asesiadau risg ac yn helpu i sicrhau bod offer yn cael ei storio a’i gynnal yn ddiogel.
Byddwch yn cynorthwyo gwirfoddolwyr ac yn cydweithredu â chydweithwyr a phartneriaid, gan gynnwys Castell Henllys, Oriel y Parc a Chastell Caeriw. Mae’r swydd yn cyfuno gwaith ymarferol ar y safle â gwaith cydlynu wrth y ddesg a gwaith achlysurol ar benwythnosau yn ystod cyfnodau prysur.
Cyfeirier at y disgrifiad swydd (sydd ar gael i’w lawrlwytho) am ragor o wybodaeth.
Cyflog o £29,542-£31,015, pro rata, y flwyddyn, lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy’n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein proses recriwtio yn hygyrch i bawb. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch ar unrhyw gam o’ch cais, anfonwch e-bost at personnel@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffoniwch 01646 624800. Rydym yn croesawu ymgeiswyr sy’n defnyddio cwn cymorth a byddwn yn sicrhau y gallant fod gyda chi drwy gydol y broses recriwtio. Os oes angen unrhyw drefniadau penodol neu gymorth ychwanegol arnoch, rhowch wybod i ni a byddwn yn gwneud ein gorau i ddiwallu eich anghenion. Gellir darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen, gan gynnwys Word, PDF hygyrch, print bras, sain a fformatau eraill ar gais.
Nid y swydd iawn i chi? Cofiwch gael golwg ar ein gwefan am ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli amrywiol a diddorol ar draws y Parc.
Dyddiad Cau: 22/11/2026
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar.