Get a reply from this employer
Your resume and cover letter, tailored to exactly what they’re hiring for.
Dyfed-Powys Police yn chwilio am intern cynhwysfawr i ddarparu gwaith cyfryngau digidol a chefnogi ymgyrchoedd cymunedol. Bydd y rôl yn cynnwys llunio ymgyrchoedd a chynhyrchu fideos effeithiol, gyda chymorth a chefnogaeth tîm proffesiynol.
Yn ystod y 12 mis, byddwch yn dod i adnabod gweithio'n gyfannol mewn tîm a thenantiaeth i weithio dan arweiniad mentoriaid. Pwysig yw bod gan chi ddiddordeb yn y gymuned a gallu gweithio'n hyblyg mewn amgylchedd tîm.
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?
Dyddiad Cyfweliad
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Ydych chi'n chwilio am swydd sy'n mynd i roi boddhad i chi a'ch herio a lle mae eich gwaith yn wirioneddol bwysig?
Ydych chi am fod yn rhan o dîm anhygoel o bobl, sy'n gwneud gwahaniaeth i'n cymunedau?
Os hynny, efallai mai interniaeth â thâl gyda Heddlu Dyfed Powys yw'r lle i chi ddechrau eich gyrfa.
Fel yr Intern Cyfryngau Digidol, byddwch chi’n gwneud amryw o bethau, o lunio ymgyrchoedd trawiadol i greu fideos effeithiol. Byddwch chi ar flaen y gad o ran y ffordd yr ydym yn cysylltu â’r gymuned ac yn rhannu ein gwaith hanfodol.
Cyflog y swyddi hyn yw £27,204 a hynny am gyfnod penodol o 12 mis, i ddechrau ym mis Medi 2027.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Rhaglen Interniaeth Heddlu Dyfed Powys:
Rhaid i chi fod yn astudio ar gwrs gradd ar hyn o bryd neu wedi graddio o fewn y 12 mis diwethaf
Mae’n rhaid eich bod wedi byw yn y DU am dair blynedd barhaus yn y cyfnod yn union cyn ymgeisio. Mae’r cyfnod tair blynedd yn cael ei gyfrif o’r cyfnod yn union cyn y gwneir cais.
Heddlu Dyfed Powys yw'r ardal heddlu fwyaf yng Nghymru a Lloegr yn ddaearyddol. Mae'n cwmpasu 4,188 milltir sgwâr dros y pedair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith mai hon yw un o'r ardaloedd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddi yn y DU, a gellir dadlau mai hon hefyd yw'r fwyaf deniadol.
Mae ein hinterniaethau yn rhoi cyfle i israddedigion gael eu cyflogi gan Heddlu Dyfed Powys. Maent wedi'u cynllunio i roi cipolwg anhygoel i chi o sut rydym yn gweithio. Dyma gyfle i chi roi eich gwybodaeth academaidd ar brawf mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwn eich sicrhau y byddwch yn cael eich cefnogi gydol eich interniaeth gan dîm arbenigol a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.
Rydym yn chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig sydd am ennill sgiliau cyflogadwyedd rhagorol ochr yn ochr â'u hastudiaethau gradd. Rydym am benodi interniaid sy'n llawn syniadau arloesol, sydd ag etheg gwaith gwych ac sy'n gallu gweithio mewn amgylchedd tîm mewn sefydliad disgybledig.
Beth allwch chi ddisgwyl?
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â’r gwiriadau fetio, meddygol a geirda gofynnol gan Heddlu Dyfed-Powys.
Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin: 1 a 3 Rhagfyr 2026.