Rheolwr Cyllid Allanol

Pembrokeshire Coast National Park Authority

Pembroke Dock

Hybrid

GBP 40,000 - 43,000

Full time

4 days ago
Be an early applicant

A complete application in a minute

Tailored resume and cover letter, ready to send.

Get past ATS filters

Benefits offered by this job

Cyflog a pheinsiwn Llywodraeth Leol
Gwaith hyblyg a chyfleoedd datblygu g 

Job summary

Rheolwr Cyllid Allanol yn rheoli a chyflawni ein strategaeth codi arian, gan sicrhau incwm o ddarpariaethau cronfa a rhoddion i gyflenwi gwaith cadwraeth a dyheadau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Byddwch yn arwain tîm, yn gweithio'n agos gyda'r Ymddiriedolwyr a chyflwyno adroddiadau i�r Bwrdd Ymddiriedolwyr. Trefniadau gweithio hyblyg a hybrid fydd cael eu hystyried wrth ddewis ymgeisydd llwyddiannus.

Job description

Rheolwr Cyllid Allanol

Helpu i ddiogelu Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Ydych chi'n weithiwr proffesiynol profiadol ym maes codi arian sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth go iawn? Rydym yn chwilio am Reolwr Cyllid Allanol deinamig, arloesol, a ysgogir gan ganlyniadau i arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni ein strategaeth codi arian, a sbarduno twf incwm cynaliadwy ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol ar adeg arwyddocaol yn ein datblygiad, gan helpu i sicrhau cyllid hanfodol i gynnal y gwaith cadwraeth, gwelliannau a mwynhad pobl o un o dirweddau gwarchodedig mwyaf ysblennydd y DU.

Yn gweithio mewn lleoliad arfordirol godidog, byddwch yn ymuno â sefydliad cefnogol a blaengar sydd wedi ymrwymo i gyflawni canlyniadau o ansawdd uchel tra’n hyrwyddo cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith. Bydd trefniadau gweithio hyblyg a hybrid yn cael eu hystyried ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Ynglŷn â'r Swydd
  • Yn arwain y gwaith o gyflawni'r strategaeth codi arian ar gyfer yr Awdurdod a'r Ymddiriedolaeth, gan sicrhau bod y targedau uchelgeisiol o gynhyrchu incwm yn cael eu diwallu.
  • Rhoi arweinyddiaeth strategol a rheolaeth ddyddiol i Ymddiriedolwyr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
  • Paratoi a chyflwyno adroddiadau i'r Bwrdd Ymddiriedolwyr, rheoli cyllidebau a rhoi diweddariad cyson ar faterion ariannol a pherfformiad.
  • Goruchwylio’r cynlluniau cyfathrebu a marchnata i gynorthwyo’r gweithgareddau codi arian ac ymgysylltu â’r rhanddeiliaid.
  • Gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolwyr i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau ac arfer gorau y Comisiwn Elusennau, CThEF a'r sector codi arian.
  • Cynhyrchu incwm cyfyngedig a heb gyfyngiadau drwy bortffolio amrywiol o ffrydiau ariannu, gan gynnwys ymddiriedolaethau a sefydliadau, partneriaethau corfforaethol, rhoddwyr mawr, rhoddion unigol a chodi arian drwy fesurau etifeddiaeth.
  • Meithrin a chynnal perthnasoedd cadarn gyda chyllidwyr, rhoddwyr, partneriaid a rhanddeiliaid i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd cyllido a mentrau cydweithredol.
Amdanoch Chi
  • Profiad sylweddol mewn swydd uwch ym maes codi arian, datblygu neu gynhyrchu incwm.
  • Hanes profedig o sicrhau cyllid a chyrraedd neu ragori ar dargedau incwm yn gyson o amrywiaeth o ffynonellau.
  • Sgiliau cadarn o drefnu a rheoli prosiectau, gyda'r gallu i reoli blaenoriaethau a therfynau amser cystadleuol yn effeithiol.
  • Profiad o reoli cyllidebau a chynhyrchu adroddiadau o ansawdd uchel ar gyfer uwch arweinwyr, byrddau neu ymddiriedolwyr.
  • Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a dylanwadu rhagorol, gyda'r gallu i feithrin perthnasoedd cynhyrchiol ag ystod eang o randdeiliaid.
  • Ymagwedd rhagweithiol, arloesol a strategol at godi arian a datblygu partneriaethau.

Mae Disgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ar gael i'w lawrlwytho.

Cyflog a Buddion:

Cyflog o £40,444-43,146 y flwyddyn, lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.

Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein proses recriwtio yn hygyrch i bawb. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch ar unrhyw gam o’ch cais, anfonwch e-bost at personnel@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffoniwch 01646 624800. Rydym yn croesawu ymgeiswyr sy’n defnyddio cwn cymorth a byddwn yn sicrhau y gallant fod gyda chi drwy gydol y broses recriwtio. Os oes angen unrhyw drefniadau penodol neu gymorth ychwanegol arnoch, rhowch wybod i ni a byddwn yn gwneud ein gorau i ddiwallu eich anghenion. Gellir darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen, gan gynnwys Word, PDF hygyrch, print bras, sain a fformatau eraill ar gais.

Dyddiad Cau:

13/12/2026

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar.

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Deallwn y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer megis deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i gynorthwyo’r gwaith o baratoi eu cais. Er y caniateir defnyddio’r cyfryw offer, cyfrifoldeb llwyr yr ymgeisydd yw sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn cynrychioli eu sgiliau, eu profiadau a'u cymwysterau hwy eu hunain.
  • Gall cyflwyno gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu wedi'i gorliwio, p'un a gafodd y wybodaeth ei chynhyrchu gan Ddeallusridd Artiffisial ai peidio, olygu eich bod yn anghymwys i fod yn rhan o'r broses recriwtio neu olygu eich diswyddo os caiff hynny ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Get your free, confidential resume review.

or drag and drop your file here.

Similar jobs

Similar jobs worth comparing

Swyddog Symudedd y Prosiect Ewch Allan i’r Awyr Agored
Swyddog Symudedd y Prosiect Ewch Allan i’r Awyr Agored

Pembrokeshire Coast National Park Authority • Pembroke Dock

On-site
GBP 30,000 - 31,000
Pensiwn Llywodraeth leol
Gweithio oriau hyblyg
Datblygu gyrfa
Intern Caffael
Intern Caffael

Dyfed-Powys Police • Carmarthen

Hybrid
GBP 24,000 - 30,000
23 diwrnod o wyliau blynyddol + 8 diwy
Gosod work-life balans - gwaith hybrid
Mentoria a chefnogi tîm
+7
Swyddog Cymorth Cudd-wybodaeth - Desg Gudd-wybodaeth Fyw
Swyddog Cymorth Cudd-wybodaeth - Desg Gudd-wybodaeth Fyw

Dyfed-Powys Police • Carmarthen

Hybrid
GBP 28,000 - 34,000
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth Iechyd a Lles
Pensiwn
+2
Cymorth Trwyddedu Arfau Saethu
Cymorth Trwyddedu Arfau Saethu

Dyfed-Powys Police • Carmarthen

Hybrid
GBP 24,000 - 30,000
Mentor a chefnogaeth prentis
Gwyliau blynyddol 24 dydd + 8 diwrnod.
Gwasanaethau iechyd a lles
Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa Dan Hyfforddiant, Cymraeg Dymunol (Dyddiad Cau 08/11/26)
Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa Dan Hyfforddiant, Cymraeg Dymunol (Dyddiad Cau 08/11/26)

Careers Wales • Caerphilly

On-site
GBP 32,000 - 37,000
Swyddog Achos Ymholiadau Arfau Saethu
Swyddog Achos Ymholiadau Arfau Saethu

Dyfed-Powys Police • Carmarthen

Hybrid
GBP 36,000 - 48,000
24 diwrnod o wyliau blynyddol (29 diar
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau 
+9
Intern Cyfryngau Digidol
Intern Cyfryngau Digidol

Dyfed-Powys Police • Carmarthen

Hybrid
GBP 24,000 - 30,000
Mentor support
Hybrid work pattern
Pension scheme
+1
Head of Democratic Services / Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
Head of Democratic Services / Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

Cardiff Council • Cardiff

Hybrid
GBP 60,000 - 80,000
LGPS pension scheme
Generous annual leave 28–33 days
Discounted leisure and travel options
+1
Cydlynydd Iechyd Meddwl, Hunanladdiad a Hunan-niwed
Cydlynydd Iechyd Meddwl, Hunanladdiad a Hunan-niwed

Dyfed-Powys Police • Carmarthen

Hybrid
GBP 42,000 - 54,000
Gweithio hybride
Pensiwn
Ceir manteision eraill a gwiriadau llo
Cymorth Rheoli Eiddo/Tystiolaeth
Cymorth Rheoli Eiddo/Tystiolaeth

Dyfed-Powys Police • Carmarthen

Hybrid
GBP 24,000 - 30,000
24 diwrnod o wyliau blynyddol (29 diyd
8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg
+5