Partner Busnes Adnoddau Dynol – Projectau, Pob Safle Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru – Museum Wales

Wales

Presencial

GBP 35.000 - 45.000

Jornada completa

14 días+

Consigue una respuesta de este empleador

Tu currículum y tu carta de presentación, adaptados exactamente a lo que buscan contratar.

Supera los filtros ATS

Descripción de la vacante

Sefydliad cenedlaethol yn y Deyrnas Unedig yn chwilio am weithiwr proffesiynol ym maes Adnoddau Dynol am rol Partner Busnes Adnoddau Dynol am dymor penodol o 2 flynedd. Bydd y swydd yn cynnwys darparu cefnogaeth i brosiectau pwysig a sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gofynion cyfreithiol. Mae sgiliau rheoli newid a chysylltiad â rhanddeiliaid yn hanfodol i lwyddiant y swydd.

Formación

  • Profiadau o weithio ym maes Adnoddau Dynol ar lefel gynghorol.
  • Gwybodaeth am gyfraith cyflogaeth y DU.
  • Gallu datblygu a chyflwyno adroddiadau i uwch reolwyr.

Responsabilidades

  • Darparu cefnogaeth i dîm project a rhanddeiliaid.
  • Cynnal dangosfyrddau ar gyfer Mesurau Adnoddau Dynol.
  • Sicrhau cydymffurfiad â pholisïau mewnol.

Conocimientos

Gallu cyfathrebu'n hyderus
Sgiliau rheoli project
Sgiliau ym maes rheoli rhanddeiliaid
Sgiliau sgwrsio yn y Gymraeg

Descripción del empleo

Partner Busnes Adnoddau Dynol – Projectau, Pob Safle Amgueddfa Cymru

Gofyniad lefel iaith Gymraeg

Rydyn ni'n chwilio am weithiwr proffesiynol rhagweithiol a phrofiadol ym maes Adnoddau Dynol i ymgymryd â rôl Partner Busnes Adnoddau Dynol – Projectau am dymor penodol o 2 flynedd. Bydd y rôl allweddol hon yn darparu cefnogaeth bwrpasol ar draws tair menter effaith uchel o fewn y sefydliad: Project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 100 , a Project Ffyrdd o Weithio.

Prif ddiben y swydd

Fel cynghorydd dibynadwy, bydd deiliad y rôl yn sicrhau bod pob elfen o'r mentrau hyn sy'n ymwneud â phobl wedi'u halinio â'n polisïau Adnoddau Dynol, gofynion cyfreithiol, a blaenoriaethau’r sefydliad. Gan weithio'n agos â rhanddeiliaid uwch – gan gynnwys aelodau'r Uwch Dîm Gweithredol ac Arweinwyr Project, byddwch chi'n cefnogi prosesau penderfynu gydag arweiniad Adnoddau Dynol amserol a strategol, ac adroddiadau strwythuredig. Bydd gofyn i chi lywio materion cymhleth yn ymwneud â phobl, a chofnodi cerrig milltir allweddol, a bydd rheoli cyfathrebu ar draws swyddogaethau yn ganolog i lwyddiant eich gwaith.

Mae sgiliau ym maes rheoli newid yn hanfodol er mwyn hwyluso hyfforddi’r rheiny sydd yn arwain ac yn cefnogi’r gwaith o gyflawni projectau.

Ymgysylltu Strategol Adnoddau Dynol a Rhanddeiliaid

  • Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Adnoddau Dynol o fewn timau project, gan ddarparu cyngor o safon uchel ar gyfraith cyflogaeth, rhoi polisïau ar waith, a newid sefydliadol.
  • Cysylltu â'r Pennaeth Adnoddau Dynol i sicrhau bod ein gwaith yn alinio â pholisïau ac amcanion mewnol, gan ddarparu diweddariadau rheolaidd.
  • Gweithio gyda'r tîm Adnoddau Dynol i sicrhau bod unrhyw fentrau Ffyrdd o Weithio sy'n rhan o'n gwaith arferol yn parhau ac yn cael eu rhoi ar waith o fewn amserlenni cymeradwy, a sicrhau bod mentrau y tu hwnt i’n gwaith arferol yn cael eu cwblhau.
  • Cefnogi arweinwyr project i sicrhau bod gwasanaeth Adnoddau Dynol proffesiynol yn cael ei ddarparu ar draws y projectau – bydd hyn yn cynnwys cynllunio sefydliadol a gweithio gyda'r Partner Busnes Adnoddau Dynol lleol i recriwtio staff yn y strwythurau newydd a'r rhai sy'n egino.
  • Adeiladu perthynas waith gref â rhanddeiliaid uwch ar draws y sefydliad er mwyn sbarduno’r gwaith o gyflawni amcanion projectau.
  • Paratoi a chyflwyno adroddiadau, briffiau a diweddariadau ysgrifenedig o safon uchel i'r Uwch Dîm Gweithredol a Phwyllgorau, a chyfrannu at adroddiadau ar lefel y Bwrdd.
  • Cyfrannu at lywodraethu projectau drwy gyfrannu at gyfarfodydd project uwch, a sicrhau bod diweddariadau a risgiau sy'n ymwneud â phobl yn cael eu cofnodi'n gywir.

Adrodd ar Brojectau a Dadansoddeg y Gweithlu

  • Cynnal dangosfyrddau pobl y projectau i gofnodi darpariaethau Adnoddau Dynol, metrigau'r gweithlu, goblygiadau ariannol, ac amserlenni.
  • Monitro ac adrodd ar niferoedd staff, newidiadau staffio, tueddiadau trosiant, a rhagolygon cyllidebau staffio ar gyfer y projectau, gan weithio gyda chefnogaeth Gwybodaeth Reoli Adnoddau Dynol.
  • Cynhyrchu adroddiadau pwrpasol i lywio’r broses o wneud penderfyniadau gweithredol a sicrhau tryloywder ar draws cerrig milltir projectau.

Cyflawni gwaith Adnoddau Dynol Gweithredol

  • Sicrhau cydymffurfiad â safonau cyfreithiol a pholisïau mewnol yn holl weithgarwch Adnoddau Dynol sy’n gysylltiedig â chyflawni projectau.
  • Cefnogi gwaith recriwtio, cynllunio sefydliadol, gweithgarwch ymgynghori ac ymgysylltiad staff sy'n gysylltiedig â phrojectau, ar draws camau project.
  • Darparu mentora, hyfforddiant a chefnogaeth uniongyrchol i reolwyr sy'n rhoi newidiadau ar waith o fewn eu timau.

Penodol i’r swydd

Sgiliau a Phrofiad Hanfodol

  • Profiad profadwy o weithio ym maes Adnoddau Dynol ar lefel gynghorol neu bartner busnes, yng nghyd-destun project neu drawsnewidiad yn ddelfrydol.
  • Gwybodaeth weithredol ragorol o gyfraith cyflogaeth y DU a fframweithiau polisi Adnoddau Dynol.
  • Gallu datblygu a chyflawni adroddiadau a chyflwyniadau i staff arwain uwch.
  • Sgiliau ym maes rheoli rhanddeiliaid, gan gynnwys profiad o weithio ag uwch reolwyr, byrddau a chyrff llywodraethu.
  • Gallu cyfathrebu'n hyderus gyda meddylfryd dadansoddol, a’r gallu i wneud penderfyniadau doeth.
  • Sgiliau rheoli project a threfnu cryf, gyda'r gallu i gydbwyso nifer o flaenoriaethau'n effeithiol.

Sgiliau Dymunol ac Ychwanegol

  • Sgiliau sgwrsio yn y Gymraeg (ar lafar ac ar bapur) i gefnogi ymgysylltu ar draws safleoedd, neu barodrwydd i ddysgu.
  • Profiad yn y sector cyhoeddus neu’r sector nid-er-elw, gan gynnwys projectau iechyd, projectau addysg neu brojectau llywodraeth leol.

Gofynion Ychwanegol

  • Parodrwydd a hyblygrwydd i deithio'n rheolaidd i safleoedd, yn enwedig Llanberis.
  • Gallu gweithio’n annibynnol ac yn rhan o dimau project traws-swyddogaethol.
Consigue la evaluación confidencial y gratuita de tu currículum.

o arrastra y suelta tu archivo aquí

Similar jobs

Puestos de trabajo similares que vale la pena comparar

Commercial Sales & Strategy Manager
Commercial Sales & Strategy Manager

WRU - Welsh Rugby Union • Cardiff

Presencial
GBP 55.000 - 85.000
Salary Sacrifice Pension (5% employee)
Life assurance scheme
WRU Group Ticket Allocation
+8
Sponsorship Programme Manager | Rheolwr y Rhaglen Nawdd
Sponsorship Programme Manager | Rheolwr y Rhaglen Nawdd

Transport for Wales • Pontypridd

Presencial
GBP 45.000 - 60.000
Assistant Commercial Manager | Rheolwr Masnachol Cynorthwyol
Assistant Commercial Manager | Rheolwr Masnachol Cynorthwyol

Transport for Wales • Pontypridd

Presencial
GBP 30.000 - 40.000
Cefnogaeth i datblygu sgiliau Iaith Gymraeg
Amgylchedd gwaith cynhwysol
Asesydd Gofal Cymdeithasol - Llesiant Meddwl Môn
Asesydd Gofal Cymdeithasol - Llesiant Meddwl Môn

Isle of Anglesey County Council • Llangefni

Presencial
GBP 30.000 - 42.000
Buddion staff
PENNAETH STRYDLUN – GWASANAETHAU AILGYLCHU A CHYMDOGAETH
PENNAETH STRYDLUN – GWASANAETHAU AILGYLCHU A CHYMDOGAETH

Cyngor Caerdydd/Cardiff Council • Cardiff

Presencial
GBP 90.000 - 120.000
Asesydd Gofal Cymdeithasol - Tîm Anabledd Dysgu
Asesydd Gofal Cymdeithasol - Tîm Anabledd Dysgu

Isle of Anglesey County Council • Llangefni

Presencial
GBP 32.000 - 42.000
Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu - Caerdydd, Casnewydd, Pontypridd ac Abertawe
Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu - Caerdydd, Casnewydd, Pontypridd ac Abertawe

British Transport Police • Pontypridd

Presencial
GBP 29.000 - 32.000
Travel benefits
Professional development
Career development opportunities
+1
Social Media Manager
Social Media Manager

Welsh Rugby Union Group • Cardiff

Híbrido
GBP 30.000 - 35.000
Pension scheme
Life assurance
Ticket allocation
+6
Swyddog Gweinyddol, Cymraeg Hanfodol (Dyddiad Cau 21/10/26)
Swyddog Gweinyddol, Cymraeg Hanfodol (Dyddiad Cau 21/10/26)

Careers Wales • Llanelli

Presencial
GBP 26.000 - 27.000
Gweithio hyblyg
31 diwrnod o wyliau blynyddol
Cynllun pensiwn cyfrannol
+1
Accounting Manager Finance · Principality Stadium ·
Accounting Manager Finance · Principality Stadium ·

Welsh Rugby Union Group • Cardiff

Híbrido
GBP 30.000 - 50.000
Pension scheme
Life assurance
Group ticket allocation
+7