Get a reply from this employer
Your resume and cover letter, tailored to exactly what they’re hiring for.
Cardiff University is seeking an Administrative Officer to provide essential administrative support to the Wales Cancer Biobank Operations Manager in the Department of Cancer & Genetics. The role focuses on managing shared inboxes, records, paperwork, and data management to enable smooth operations within a busy academic environment.
The post requires meticulous attention to detail, independence in day-to-day work, strong organisational skills, and handling confidential information
Job Advert
We are seeking a highly organised and proactive Administrative Officer to provide essential administrative support to the Wales Cancer Biobank Operations Manager. This is an excellent opportunity for an individual with strong administrative skills who enjoys working in a busy and varied environment.
The successful candidate will be responsible for managing shared e-mail inboxes, maintaining accurate records and documentation, processing paperwork, and supporting data management activities using spreadsheets and databases. The role requires excellent attention to detail, ability to work independently at a day-to-day level, strong organisational skills, and the ability to handle confidential information appropriately.
This role will require the postholder to communicate efficiently with both internal and external academics and commercial partners and disseminate information from the application and approval process of the biobank sample release.
As the biggest university in Wales - and a major employer, with more than 7,000 staff - we are an ambitious and innovative university located in a beautiful and thriving capital city. We can offer you the chance to work in a vibrant organisation, with great benefits and opportunities for progression.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 40 days annual leave (incl bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.
For informal enquiries, please contact Dr Lisa Spary, Wales Cancer Biobank Operations Manager – SparyLK@cardiff.ac.uk
This post is full-time (35 hours per week), fixed term until 31 March 2030 and available immediately.
Salary: £28,592 - £31,861 per annum (Grade 4). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Hysbyseb Swydd
Rydym yn chwilio am Swyddog Gweinyddol hynod drefnus a rhagweithiol i ddarparu cefnogaeth weinyddol hanfodol i Reolwr Gweithrediadau Biofanc Canser Cymru. Mae hwn yn gyfle ardderchog i unigolyn sydd â sgiliau gweinyddol cryf sy'n mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur ac amrywiol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am reoli mewnflwch e-bost a rennir, cynnal cofnodion a dogfennaeth gywir, prosesu gwaith papur, a chefnogi gweithgareddau rheoli data gan ddefnyddio taenlenni a chronfeydd data. Mae'r rôl yn gofyn am sylw rhagorol i fanylion, y gallu i weithio'n annibynnol o ddydd i ddydd, sgiliau trefnu cryf, a'r gallu i drin gwybodaeth gyfrinachol yn briodol.
Bydd y rôl hon yn gofyn i ddeiliad y swydd gyfathrebu'n effeithlon ag academyddion mewnol ac allanol a phartneriaid masnachol a lledaenu gwybodaeth o'r broses ymgeisio a chymeradwyo ar gyfer rhyddhau samplau biofanc.
Fel y brifysgol fwyaf yng Nghymru - a chyflogwr mawr sy'n cyflogi dros 7,000 o staff - rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol sydd wedi'i lleoli mewn prifddinas hardd a ffyniannus. Gallwn gynnig cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog, gyda buddion gwych a chyfleoedd i ddatblygu yn eich gyrfa.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddiadau cyflog blynyddol o fewn y raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau amrywiol, ac mae'r Brifysgol yn falch o gefnogi'r Cyflog Byw.
Ar gyfer ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Dr Lisa Spary, Rheolwr Gweithrediadau Banc Biolegol Canser Cymru – SparyLK@cardiff.ac.uk.
Mae'r swydd hon yn un amser llawn (35 awr yr wythnos), am gyfnod penodol tan 31 Mawrth 2030 ac ar gael ar unwaith.
Cyflog: £28,592 - £31,861 y flwyddyn (Gradd 4). Fel arfer, gwneir penodiadau i swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd ar waelod y raddfa, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.