Get a reply from this employer
Your resume and cover letter, tailored to exactly what they’re hiring for.
Cardiff University is seeking an Administrative Assistant for the Department of Population Medicine. Based at Heath Park, the role provides essential administrative support to a NIHR-funded study team, coordinating meetings, producing and distributing agendas, and maintaining a project email inbox.
You will assist with processing paperwork and support stakeholder and dissemination activities. Experience in research administration and good IT literacy are desirable; Welsh language applications
This is an exciting opportunity to be a member of a National Institute for Health and Care Research-funded study team working aims to understand safety, risks and the balance of harms and benefits arising from care received by patients within their own homes. The study is led by Professor Andrew-Carson Stevens, Professor of Patient Safety, at Cardiff University.
The successful candidate will work with the study team and will provide administrative support. This will include, but is not limited to, co-ordinating meetings, producing and distributing agendas, minuting meetings and managing a project email inbox. There will also be focus on supporting processing and paperwork, and assistance at stakeholder and dissemination activities.
Applicants should have experience of administrative processes and the ability to support the study team to achieve its objectives. It is essential that you can communicate in writing clearly, concisely and effectively to provide detailed notes during meetings, have a good standard of IT literacy.
Experience of administration on research projects is desirable.
This role will be based at Heath Park.
This is a fixed term, part-time (21 hours per week) post and is available immediately until 31st August 2027.
Salary: £25,754 - £26,615 per annum, pro rata for hours worked (Grade 3).
Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances. This role is eligible to be offered on a blended working basis, meaning that as well as spending time working on campus you can also choose to spend some time working from another location, e.g. your home. The University is committed to offering this flexibility, wherever the role and business need allows, supporting work-life balance.
Cardiff University offers many excellent benefits, including 40 days annual leave (incl bank holidays) pro rata, local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more.
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Date advert posted: Wednesday. 04 November 2026
Dyma gyfle cyffrous i fod yn aelod o dîm astudio a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal sy’n gweithio i ddeall diogelwch, risgiau a chydbwysedd y niwed a’r manteision sy’n deillio o ofal i gleifion yn eu cartrefi eu hunain. Arweinir yr astudiaeth hon gan yr Athro Andrew Carson-Stevens, Athro Diogelwch Cleifion, Prifysgol Caerdydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda'r tîm astudio ac yn cynnig cymorth gweinyddol. Bydd hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gydlynu cyfarfodydd, cynhyrchu a dosbarthu agendâu, cofnodi cyfarfodydd a rheoli mewnflwch e-bost y prosiect. Bydd ffocws hefyd ar gefnogi gwaith prosesu a gwaith papur, a chymorth gyda gweithgarwch sy’n ymwneud â rhanddeiliaid a lledaenu gwybodaeth.
Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o brosesau gweinyddol a'r gallu i gefnogi'r tîm astudio i gyflawni ei amcanion. Mae'n hanfodol eich bod chi'n gallu cyfathrebu'n ysgrifenedig yn glir, yn gryno ac yn effeithiol er mwyn llunio nodiadau manwl yn ystod cyfarfodydd, a bod â safon dda o lythrennedd TG.
Mae profiad o weinyddu ar brosiectau ymchwil yn ddymunol.
Lleolir y rôl hon ym Mharc y Mynydd Bychan.
Swydd ran-amser yw hon (21 awr yr wythnos) am gyfnod penodol tan 31 Awst 2027, ac mae ar gael ar unwaith.
Cyflog: £25,754 - £26,615y flwyddynm pro-rata (Gradd 3).
Ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.
Mae’r swydd hon yn gymwys i’w chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny’n golygu, yn ogystal â gweithio ar y campws, y cewch weithio o leoliad arall (e.e. eich cartref) rywfaint o’r amser. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo’r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu, a hynny er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng y gwaith a’ch bywyd personol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 40 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan pobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 04 Tachwedd 2026