Get a reply from this employer
Your resume and cover letter, tailored to exactly what they’re hiring for.
Swn yn chwilio am Syrfëwr Ystadau i ddarparu cyngor a gwasanaethau rheoli ystadau proffesiynol ar draws portffolio tir ac eiddo Dŵr Cymru Welsh Water, gan weithio'n agos gyda chwsmeriaid, contractwyr a rhanddeiliaid allanol.
Bydd yr ymgeisio'n cynnig cyngor a chymorth arbenigol ar ystod o faterion eiddo, rhagweithiol ac yn canolbwyntio ar y cwsmer. Profiad o reoli portffolios a systemau rheoli eiddo yn bwyntiau allweddol i mewn i'r rol.
Rhif Cais y Swydd 9179
Math o Waith Parhaol
Swyddogaeth y Swydd Caffael
Cwmpas Cyflog £47,492.00 -£54,618.00
Lleoliad Clydach
Dyddiad cau ceisiadau Dydd Sul, 18 Hydref 2026
Fel Syrfëwr Ystadau, bydd gennych rôl allweddol wrth ddarparu gwasanaethau rheoli ystadau proffesiynol ar draws portffolio tir ac eiddo Dŵr Cymru. Gan weithio'n agos gyda chydweithwyr, cwsmeriaid, contractwyr a rhanddeiliaid allanol, byddwch yn darparu cyngor a chymorth arbenigol ar ystod o faterion eiddo.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n mwynhau creu perthnasoedd, datrys problemau a darparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych. Byddwch yn drefnus, yn addasadwy ac yn gyfforddus yn rheoli llwyth gwaith amrywiol.
Bydd gennych:
Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu i ddatblygu'n broffesiynol. Mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer cymwysterau proffesiynol a gydnabyddir gan y diwydiant, gan gynnwys RICS a CAAV, gan eich helpu i symud ymlaen â'ch gyrfa a chyflawni eich nodau proffesiynol.
Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy’n ymuno â'r busnes.
Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.
Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i’w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.
Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy’n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a’n amgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy’n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a’n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy’n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.
Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i’n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo’n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda’n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni’n ei wasanaethu.
Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.
Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY
© Dŵr Cymru Cyf 2019.