Get a reply from this employer
Your resume and cover letter, tailored to exactly what they’re hiring for.
Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn gosod swydd dros dro i ddarparu gwasanaeth cwsmer effeithiol yn y tîm tai, wrth absenoldeb mamolaeth. Lleoliad yw Gaerwen Depot Building & Maintenance Unit, ac mae'r contract dros dro dros 37 o oriau yr wythnos.
Rydym yn edrych am ymgeisydd sy'n ymrwymo i ddarparu profiad gwasanaeth rhagorol, a fydd yn manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant a chynnydd yn y rôl.
Dilynwch gadarnhad neu gyswllt i gael mwy o wybodaeth am y swydd a'r fanyleb person.
Bydd y dolenni hyn yn agor tab newydd yn eich porwr.
Rhif swydd CORP100876 Prif leoliad Gaerwen Depot Building & Maintenance Unit Sail cytundeb Dros dro Oriau gwaith 37 Oriau Fesul Wythnos Ystod cyflog £29,071 - £32,046 fesul blwyddyn Dyddiad cau swydd 19 Hydref 2026
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Bod yn rhan o dîm sy’n gyfrifol am gyflwyno gwasanaeth cwsmer effeithiol o’r radd flaenaf gan sicrhau bod y tîm yn ymdrin ag ymholiadau cyffredinol ynghylch tai mewn modd amserol ac effeithlon gan ddarparu’r profiad gorau posib i’r cwsmer.
Mae'r penodiad hwn ar gyfer cyflenwi dros dro yn ystod cyfnod o absenoldeb mamolaeth a bydd yn dod i ben pan fydd deilydd y swydd yn dychwelyd.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth agofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Mae'r dogfennu atodedig ar gael yn y linciau. Bydd clicio ar linc dogfen yn cychwyn ei lawrlwytho.