Obtenez une réponse de cet employeur
Votre CV et votre lettre de motivation, adaptés exactement à ce que l’employeur recherche.
Amgueddfa Cymru – Museum Wales yn recriwtio Pennaeth Adnoddau Dynol i arwain cynllun strategol Adnoddau Dynol, Datblygu Pobl a Chydraddoldeb ar draws y sefydliad, gan sicrhau bod gennym y staff cywir, gyda8r sgiliau a\u00a0phrofiad iawn.
Bydd y swydd yn rhoi cyngor a arweiniad i y Uwch Dîm Gweithredol a bydd yn gyfrifol am weithrediadau adnoddau dynol ar gyfer dros 600 o staff mewn wyth safle ledled Cymru, gan hyrwyddo prosesau effeithiol a defnyddio adnoddau quickly.
Yn rhinwedd eich swydd fel gweithiwr proffesiynol adnoddau dynol uchaf Amgueddfa Cymru, byddwch yn arwain y gwaith o lunio cyfeiriad strategol a chyflawni gwaith adnoddau dynol sy'n canolbwyntio ar y cyflogeion ar draws y sefydliad. Byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni’n strategaethau Adnoddau Dynol, Datblygu Pobl a Chydraddoldeb, yn ogystal â gwella’n prosesau pobl yn barhaus, er mwyn sicrhau bod gennym y nifer cywir o bobl, gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad cywir i gyflawni Gweledigaeth Amgueddfa Cymru.
Byddwch yn rhoi cyngor ac arweiniad dibynadwy i'r Uwch Dîm Gweithredol (SET) ar yr ystod lawn o faterion adnoddau dynol a datblygu sefydliadol cymhleth a rheolaidd. Byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth helpu i ddarparu gwasanaethau adnoddau dynol arloesol yn llwyddiannus, a’r rheiny'n canolbwyntio ar y defnyddwyr ac yn gost-effeithiol.
Mae'r swydd hon yn rôl strategol allweddol o fewn Amgueddfa Cymru, a byddwch yn gweithio fel rhan o Fforwm Arweinwyr yr Amgueddfa i gyfrannu at ddatblygiadau ar draws y sefydliad.
Byddwch hefyd yn arwain yr holl weithrediadau adnoddau dynol ar gyfer gweithlu o dros 600, mewn wyth safle ledled Cymru. I gyflawni hyn, byddwch yn rheoli tîm o Bartneriaid Busnes a gweinyddwyr adnoddau dynol sy'n cefnogi holl safleoedd a holl feysydd gweithgarwch yr Amgueddfa.