Get a reply from this employer
Your resume and cover letter, tailored to exactly what they’re hiring for.
Severn Trent yn chwilio am Technegydd Gwasanaeth Dosbarthu Sirol i weithredu a chynnal systemau rhwydwaith tanddaearol. Byddwch yn rhan o dîm sy'n gweithio y tu mewn ac y tu allan, yn rheoli gwaith dyddiol a chydweithio ag adrannau eraill i gynnal a datblygu gwasanaeth dosbarthu effeithiol.
Gellir disgwyl gwaith 7 wythnos 24/7 a chynllun noddir drwyddi draw. Bydd safonau diogelwch ac amgylcheddol yn cael eu dilyn yn rigol, gyda phrofiadau SIG a thrafnidiaeth i deithio i ganolfannau.
Yn Hafren Dyfrdwy, rydym yn angerddol am ddarparu dŵr glân a diogel a gofalu am yr amgylchedd ledled Cymru.Rydym yn fwy na chwmni dŵr – rymys yn tîm sydd wedi ymrwymo i gynaliadwyedd, arloesedd, a chefnogi'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Os ydych chi'n chwilio am rôl lle gallwch chi wneud gwir effaith a bod yn rhan o sefydliad sy'n cael ei yrru gan bwrpas, byddem wrth ein bodd yn clywd gennych chi.
Gan weithio yn ein hadran Gweithrediadau Rhwydwaith Cwsmeriaid adweithiol, cewch y cyfle i ymuno â'r tîm Cyflenwi Gwasanaeth Dosbarthu fel Technegydd Gwasanaeth Dosbarthu Sirol, lle byddwch yn gyfrifol am weithredu a chynnal a chadw Seilwaith Rhwydwaith Tanddaearol Severn Trent.
Noder bod y rôl hon yn cynnwys gwaith dan do ac awyr agored ym mhob tywydd. Bydd angen Trwydded yrru lawn y Deyrnas Unedig arnoch gan y bydd gofyn i chi deithio i ddepos/canolfannau. Ar ben hynny, fel rhan o'r rôl hon byddwch hefyd yn rhan o batrwm sifftiau 7 wythnos (24/7, 365).
Mae sgiliau a phrofiad yn bwysig, ond mae cymeriad, positifrwydd ac agwedd ofalgar yn bwysig hefyd. Rydym yn croesawu pobl o bob cefndir ac yn dathlu unigoliaeth gan ein bod yn gwybod bod meddyliau, profiadau a chefndiroedd amrywiol yn ein helpu i ddysgu a gwasanaethu ein cymunedau yn well.Rydym yn chwilio am bobl sy'n cymryd rhan, sydd eisiau bod yn rhan o rywbeth mwy, ac sy'n gwneud gwahaniaeth oherwydd eu bod nhw'n malio.
Nid swydd yn unig yw hon;mae'n yrfa. Rydym yn cynnig buddion sy'n gwobrwyo gwaith gwych a hyfforddiant arobryn i'ch helpu i gyflawni eich potensial. Hefyd, byddwch chi'n cyfrannu at yr amgylchedd a'r gymuned hefyd. Dyma rai o'n ffefrynnau ni: