Enable job alerts via email!

Senior Fundraising Manager

Wales Millennium Centre

Cardiff

Hybrid

GBP 39,000 - 42,000

Full time

4 days ago
Be an early applicant

Boost your interview chances

Create a job specific, tailored resume for higher success rate.

Job summary

Mae'r rôl Uwch Reolwr/wraig Codi Arian yn cynnig cyfle cyffrous i aelod o dîm creadigol. Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu strategaethau codi arian ar gyfer prosiectau celfyddydol, gan ddefnyddio eich sgiliau ymchwil a chyfathrebu i sicrhau cefnogaeth ariannol. Mae'r sefydliad yn ymroddedig i greu cyfleoedd i bobl ifanc a chymunedau, gan sicrhau bod y celfyddydau'n parhau i ffynnu. Os ydych chi'n frwdfrydig am greu newid a chymryd rhan mewn gwaith creadigol, dyma'r cyfle perffaith i chi.

Benefits

25 diwrnod o wyliau blynyddol
Cynllun pensiwn uwch
Gwell absenoldeb mamolaeth a thadolaeth
Cynllun arian iechyd
Aelodaeth Cymorth Feddygol
Rhaglenni cymorth i weithwyr
Yswiriant bywyd
Cyfle i wneud cais am docynnau
CLWB cymdeithasol
Gwersi Cymraeg am ddim

Qualifications

  • Profiad o ysgrifennu a sicrhau buddsoddiadau aml-flwyddyn o £100K+.
  • Sgiliau ymchwil a datblygu yn y codi arian.

Responsibilities

  • Cynllunio a gweithredu strategaethau codi arian.
  • Datblygu cysylltiadau gyda chymdeithasau a sefydliadau.

Skills

Codi Arian
Ysgrifennu Cymhellol
Ymgyrchoedd Ariannu
Gweithio dan Bwysau
Tîm Chwarae

Education

Tystysgrif neu Ddiploma mewn Cyllid neu Reolaeth

Job description

tNi yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y Rôl: Uwch Reolwr/wraig Codi Arian

Cyflog: £39,567 - £41,651

Oriau Gwaith: 35 awr (Llawn Amser)

Math o Gytundeb: Parhaol

Dyddiad Cau: 16/05/2025

Dyddiad Cyfweld: wythnos yn cychwyn 19 Mai

Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

Amdanom ni/Ein Hadran:
Mae'r adran codi arian yn gyfrifol am bob maes yn ymwneud â rhoddion dyngarol, gan sicrhau arian ar gyfer ein gwaith gyda phobl greadigol, pobl ifanc a chymunedau. Rydym newydd ddathlu ein pen-blwydd yn 20 oed ac yn edrych ymlaen at yr 20 mlynedd nesaf. Rydym yn chwilio am berson sy’n llawn syniadau creadigol ar gyfer ariannu i ymuno â’n tîm.

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau

Mae hwn yn gyfle cyffrous i Uwch Reolwr/wraig Codi Arian uchelgeisiol chwarae rhan ganolog yn nhwf yr adran codi arian. Bydd gennych hanes cryf o godi arian yn llwyddiannus gan Ymddiriedolaethau a Sefydliadau a byddwch yn rhannu angerdd CMC i arddangos pŵer trawsnewidiol y Celfyddydau.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sy'n gallu gweithio'n hyblyg, gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy lefel uchel mewn meysydd allweddol o ymchwil datblygu ac ysgrifennu cymhellol ynghyd â phrofiad amlwg o sicrhau cefnogaeth ariannol pump a chwe ffigwr aml-flwyddyn. Byddwch yn gweithio gyda'r Pennaeth Codi Arian i ddatblygu ffyrdd mwy creadigol o gyflwyno ein hachos dros gefnogaeth ac adrodd yn effeithiol i helpu i dynnu sylw at CMC.

Bydd yr Uwch Reolwr/wraig Codi Arian yn adrodd i’r Pennaeth Codi Arian a bydd yn cefnogi’r tîm ehangach ar draws pob maes dyngarwch, gan gynnwys Rhoddion Unigol, Aelodaeth, Cymynroddion a rhoddwyr mawr. Bydd y rôl hon yn cael ei chynnig ar sail gweithio hybrid.

Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.

Gofynion Allweddol

·Profiad o ysgrifennu, cyflwyno a sicrhau buddsoddiadau aml-flwyddyn o tua £100K+ gan Ymddiriedolaethau a Sefydliadau.

·Yn hunan-gymhellol gyda'r gallu i weithio dan bwysau a chwrdd â therfynau amser tynn.

·Chwaraewr tîm cryf sy'n gallu gweithio'n hyblyg ar draws prosiectau lluosog a chyda nifer o adrannau.

·Profiad helaeth o godi arian yn gyffredinol, gan gynnwys llywodraethu a GDPR.


Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.·Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
  • Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol ac anghenion gweithredol.

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

Get your free, confidential resume review.
or drag and drop a PDF, DOC, DOCX, ODT, or PAGES file up to 5MB.

Similar jobs

Senior Fundraising Manager

Welsh Centre For International Affairs (wcia)

Cardiff

On-site

GBP 25,000 - 45,000

3 days ago
Be an early applicant

Investment Fundraising Specialist

Aviamarket

Remote

GBP 30,000 - 60,000

3 days ago
Be an early applicant

Fundraising Manager

TN United Kingdom

Stroud

On-site

GBP 30,000 - 50,000

5 days ago
Be an early applicant

Fundraising and Philanthropy Manager

TN United Kingdom

Remote

GBP 35,000 - 65,000

11 days ago

Head of Fundraising

Wheels For All

Greater London

Remote

GBP 35,000 - 65,000

8 days ago

Trust and Statutory Fundraising Officer - Remote

TN United Kingdom

Lancaster

Remote

GBP 30,000 - 50,000

11 days ago

Regional Fundraising Manager (Midlands)

Action For Humanity - International

West Midlands Combined Authority

Remote

GBP 39,000 - 43,000

30+ days ago

Charity Fundraiser - Breast Cancer Now

Premier Christian Communications Ltd

Cardiff

On-site

GBP 25,000 - 45,000

2 days ago
Be an early applicant

Charity Fundraiser - Breast Cancer Now

Charity Link

Cardiff

On-site

GBP 25,000 - 45,000

4 days ago
Be an early applicant