Join to apply for the Maintenance Supervisor (Residential Estate) role at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd
2 days ago Be among the first 25 applicants
Join to apply for the Maintenance Supervisor (Residential Estate) role at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd
Get AI-powered advice on this job and more exclusive features.
Goruchwyliwr Cynnal a Chadw (Ystad Breswyl)
Rydym yn dymuno penodi goruchwyliwr cynnal a chadw i ymuno â thîm y Sefydliad Llafur Uniongyrchol (DLO) yn yr adran Ystadau. Byddwch chi’n gweithio mewn gweithle prysur lle na fydd dau ddiwrnod yr un fath, gan helpu i ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw rhagorol yn uniongyrchol i'n cwsmeriaid.
Yn y Swydd Hon, Byddwch Yn Gwneud y Canlynol
- Bod yn gyfrifol am reoli tîm bach amlddisgyblaethol o ddydd i ddydd
- Bod yn berson awdurdodedig (AP) yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau statudol a thechnegol cymeradwy Prifysgol Caerdydd.
- Rhoi cyngor ac arweiniad manwl ar yr holl waith cynnal a chadw.
- Sicrhau bod yr holl waith cynnal a chadw wedi'i gynllunio, ymatebol a’r tu allan i oriau yn cael ei gwblhau’n ddiogel ac yn gost effeithiol, ac yn unol â’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol a’r Cytundebau Lefel Gwasanaeth y cytunwyd arnynt.
- Sicrhau bod gweithwyr a chontractwyr yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau perthnasol o ran iechyd a diogelwch.
- Sefydlu tueddiadau a phatrymau sylfaenol yng nghyd-destun y gwaith cynnal a chadw, gan helpu i greu gwaith ar y gweill ac adroddiadau eraill, fel y bo'n briodol.
- Archwilio a defnyddio systemau cynnal a chadw ystadau i gynorthwyo i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch gwaith atgyweirio.
- Casglu amcangyfrifon gan gontractwyr fframwaith at ddibenion cynnal a chadw a chyflawni mân brosiectau penodol o'r dechrau i'r diwedd.
- Meithrin perthynas waith â chwsmeriaid allweddol i helpu i wella’r gwasanaeth
- Rheoli lefelau stoc y deunydd critigol a hanfodol. Cynnal a chadw offer, cyfarpar a cherbydau, a bod yn gyfrifol am gynnal cofrestrau asedau.
Hoffem glywed gennych os ydych yn meddu ar y canlynol:
- Prentisiaeth gydnabyddedig City and Guilds/NVQ lefel 3 neu’r hyn sy’n gyfwerth iddo ym maes plymio neu ddisgyblaeth fecanyddol / Gwresogi, awyru ac aerdymheru (HVAC)
- Profiad a gwybodaeth helaeth am systemau mewn gweithleoedd tebyg sy'n gysylltiedig â chrefft benodol.
- Dealltwriaeth dda o Iechyd a Diogelwch Cyffredinol yn y gweithle sy’n benodol i’r swydd, gan gynnwys asesiadau risg a datganiadau dull
- Profiad o reoli llwythi gwaith, gan roi blaenoriaeth i Gytundebau Lefel Gwasanaeth gosod a boddhad cwsmeriaid
- Profiad o reoli llwyth gwaith eraill.
- Profiad o ymdrin â materion sy’n ymwneud â pherfformiad a lles.
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth fanwl yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod eang o bobl
Gallwn gynnig y cyfle ichi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa. Rydym yn falch o gefnogi'r Cyflog Byw.
Ymhlith y manteision y mae:-
- Wythnos waith 35 awr, gan weithio rhwng 8am a 4pm.
- 37 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc.
- Cynllun pensiwn â chyfraniadau cyflogwr hael.
- Talu wrth gyflawni dyletswyddau rota Ar Alwad.
- Enillion goramser posibl (gan ddibynnu ar fodolaeth anghenion busnes).
- Hyfforddiant pwrpasol yn eich crefft neu hyfforddiant arall a all eich cefnogi yn y swydd.
- Cael defnyddio cerbyd cwmni i deithio rhwng safleoedd yn ddyddiol ac ‘ar alw’ i fynd ag ef adref gyda’r hwyr/penwythnos at ddefnydd busnes yn unig ac nid at ddefnydd personol yn ystod y cyfnod hwn.
- Gwisg cwmni/cyfarpar diogelu personol (PPE).
- Tâl salwch.
- Gostyngiadau a bargeinion i’r staff (hyrwyddiadau tymor byr, cynigion a gostyngiadau arbennig)
- Mae’r cynllun beicio i'r gwaith yn galluogi gweithwyr i hurio beiciau ac offer diogelwch cysylltiedig gwerth hyd at £3,000 drwy law cynllun Aberthu Cyflog.
- Cynllun cynilo a benthyca i’r staff
- Mynediad at aelodaeth o Glwb CUFoods
Lleolir y swydd hon ar y safle. Mae hyn yn golygu y byddwch yn treulio eich holl amser yn gweithio ar y campws. Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig hyblygrwydd lle bynnag bydd anghenion y swydd a’r busnes yn caniatáu hynny, a hynny er mwyn cefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Mae angen trwydded yrru ddilys gan ei bod yn amod cyflogaeth bod yr holl bersonél yn gallu defnyddio cerbydau fflyd y Brifysgol i gyrraedd holl safleoedd y Brifysgol.
Cysylltwch â David Brown (brownd17@caerdydd.ac.uk) i gael sgwrs anffurfiol a chyfrinachol am y swydd.
Dyma swydd amser llawn a phenagored.
Cyflog: £33,482 - £36,130 y flwyddyn (Gradd 5)
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mawrth, 3 Mehefin 2025
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 1 Gorffennaf 2025
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.
Diben y Swydd
Mae'r Goruchwyliwr Cynnal a Chadw yn chwarae rhan hanfodol mewn tîm cynnal a chadw brwdfrydig ac arloesol. Goruchwylio a threfnu tîm o beirianwyr a thechnegwyr medrus sy'n gwneud gweithgareddau cynnal a chadw ymatebol, gwaith cynnal a chadw ataliol wedi'i gynllunio, canfod gwallau a chymorth y tu allan i oriau ar gyfer yr holl weithrediadau a systemau cynnal a chadw yn ei barth cynnal a chadw dynodedig ac weithiau’n rhoi cymorth ar draws pob parth.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau Prif Ddyletswyddau
- Yn gyfrifol am reoli gweithredol tîm bach o ddydd i ddydd, gan arwain a chyfarwyddo gwaith atgyweirio wedi'i gynllunio, ymatebol a brys mewn parth cynnal a chadw dynodedig.
- Bod yn berson awdurdodedig (AP) yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau statudol a thechnegol cymeradwy.
- Rhoi cyngor ac arweiniad manwl ar yr holl waith atgyweirio cynnal a chadw i gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan ddefnyddio eich crebwyll a’ch creadigrwydd wrth awgrymu'r camau gweithredu gorau pan fo'n briodol, a chyfrannu at ddatrys materion mwy cymhleth.
- Rheoli gwaith drwy optimeiddio adnoddau gan ddefnyddio system electronig cynorthwyydd digidol personol (PDA) "amser real", gan sicrhau bod yr holl waith cynnal a chadw wedi'i gynllunio, ymatebol a’r tu allan i oriau yn cael ei gwblhau’n ddiogel ac yn gost effeithiol, ac yn unol â Dangosyddion Perfformiad Allweddol a Chytundebau Lefel Gwasanaeth y cytunwyd arnynt.
- Sicrhau bod gweithwyr a chontractwyr yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth, polisïau a gweithdrefnau perthnasol o ran iechyd a diogelwch. Llunio asesiadau risg a datganiadau dull a’u gwirio, cyn gwneud gwaith cynnal a chadw ac addasu, gan roi gwybod am unrhyw amodau gwaith a allai fod yn anniogel.
- Rheoli a dadansoddi data system Rheoli Cyfleusterau â Chymorth Cyfrifiadur (CAFM) i lywio penderfyniadau, gan sefydlu tueddiadau a phatrymau sylfaenol o ran gweithgareddau cynnal a chadw, gan gynorthwyo gwaith ar y gweill ac adroddiadau eraill fel y bo’n briodol.
- Archwilio a defnyddio'r systemau cynnal a chadw ystadau eraill i gynorthwyo wrth wneud penderfyniadau cytbwys o ran gwaith atgyweirio, gan gynnwys dadansoddi data, newid gosodiadau tymheredd a gosod amseroedd i wirio swyddogaethau'r systemau.
- Casglu amcangyfrifon gan gontractwyr fframwaith at ddibenion gwaith cynnal a chadw, yn ogystal â chynllunio a chyflawni mân brosiectau penodol o'r dechrau i'r diwedd.
- Rheoli perfformiad, cyfnod ymsefydlu a datblygiad y tîm, e.e. cynnal ADPau, gan sicrhau bod staff yn cwblhau hyfforddiant gorfodol a statudol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth. Awdurdodi/cymeradwyo gwaith papur y gweithiwr, gan gynnwys taflenni amser, gwyliau blynyddol ac absenoldeb salwch yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau. Mewn cydweithrediad â Goruchwylwyr eraill, creu'r rota galw allan flynyddol. Sicrhau y caiff lles y staff ei gynnal ac y cedwir at hyn,
- Datblygu, llunio a chyflwyno hyfforddiant i’r tîm. Meithrin perthynas waith â chwsmeriaid allweddol er mwyn helpu i wella’r gwasanaeth, gan gynnwys cyfathrebu’n briodol â rheolwyr adeiladau, Ysgolion/Adrannau a chyrff allanol yn ôl yr angen.
- Rheoli lefelau stoc y deunydd critigol a hanfodol. Cynnal a chadw offer, cyfarpar a cherbydau, a bod yn gyfrifol am gynnal cofrestrau asedau.
Dyletswyddau Cyffredinol
- Gofalu eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'ch holl ddyletswyddau.
- Glynu wrth bolisïau’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth (gan gynnwys hyrwyddo’r arferion gorau o fewn y tîm)
- Mynd ar gyrsiau hyfforddi yn ôl yr angen er mwyn parhau i allu gwneud y swydd.
- Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â gofynion y swydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) a phenagored yw hon. Yr oriau gwaith arferol yw 08:00 tan 16:00, ac awr i ginio.
- Mae gweithio goramser yn un o’r amodau cyflogaeth, a bydd angen gwneud hynny pan fydd cais rhesymol yn dod i law. Ni warentir goramser rheolaidd.
- Mae gan yr adran Ystadau a Chyfleusterau’r Campws rota ar alw ffurfiol, ac yn rhan o’ch dyletswyddau, bydd gofyn ichi fod yn rhan o’r cynllun hwn. Cewch eich talu pan fyddwch ar ddyletswydd o’r fath.
- Gellir gofyn ichi gyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd sy’n gyson â gradd y swydd.
- Bydd gofyn ichi fod ar gael i fynd i asesiadau Goruchwylio Iechyd blynyddol.
Meini Prawf Hanfodol
- City and Guilds/NVQ lefel 3 neu’r hyn sy’n cyfateb iddo mewn cymhwyster/Safon Uwch byd adeiladu neu’r hyn sy’n cyfateb iddi
- Profiad helaeth o gynnal a chadw ymatebol mewn gweithle tebyg, er enghraifft ymgymryd â gwaith atgyweirio amrywiol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a'r gallu i gyflawni ystod o weithgareddau cynnal a chadw.
- Dealltwriaeth dda o Iechyd a Diogelwch sy’n benodol i’r swydd yn y gweithle, gan gynnwys asesiadau risg a datganiadau dull.
- Profiad o reoli llwyth gwaith tîm bach, blaenoriaethu cytundebau lefel gwasanaeth (SLA) gosod a boddhad cwsmeriaid
- Meddu ar wybodaeth ymarferol o systemau rheoli cynnal a chadw/cyfleusterau (CAFM) a'r defnydd o gynorthwywyr digidol personol i reoli llwythi gwaith.
- Profiad o ymdrin â materion sy’n ymwneud â pherfformiad a lles
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth fanwl yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod eang o bobl
- Profiad o ddefnyddio cyfrifiaduron personol a meddalwedd gysylltiedig (e.e., e-bost, Microsoft Word, ac ati)
- Y gallu i ymchwilio, diagnosio a datrys problemau gan ddefnyddio eich crebwyll a’ch creadigrwydd, gan uwchgyfeirio pan fo’n briodol.
- Meddu ar drwydded yrru ddilys a chyfredol
Meini Prawf Dymunol
- Profiad o oruchwylio neu reoli mewn gweithle tebyg
- Gwybodaeth sylfaenol a chryn brofiad o wahanol fathau o weithgareddau cynnal a chadw
- Profiad o ddefnyddio Systemau Rheoli Ynni Adeiladau (BeMS) neu systemau tebyg
- Medru’r Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Seniority level
Seniority level
Mid-Senior level
Employment type
Job function
Job function
Management and ManufacturingIndustries
Higher Education
Referrals increase your chances of interviewing at Cardiff University / Prifysgol Caerdydd by 2x
Sign in to set job alerts for “Maintenance Supervisor” roles.
Hayes, England, United Kingdom 2 weeks ago
Stratford, England, United Kingdom 2 months ago
Kensington, England, United Kingdom 2 months ago
Bethnal Green, England, United Kingdom 3 months ago
Chessington, England, United Kingdom 2 weeks ago
Hackney, England, United Kingdom 1 week ago
London, England, United Kingdom 12 hours ago
Greater London, England, United Kingdom 1 month ago
London, England, United Kingdom 3 weeks ago
London, England, United Kingdom 6 days ago
Facilities Management Supervisor Level 3
London, England, United Kingdom 2 months ago
London, England, United Kingdom 1 month ago
Greater London, England, United Kingdom 3 days ago
Hayes, England, United Kingdom 4 days ago
London, England, United Kingdom 4 weeks ago
City Of London, England, United Kingdom 22 hours ago
Hounslow, England, United Kingdom 2 weeks ago
Hayes, England, United Kingdom 2 weeks ago
London, England, United Kingdom 2 weeks ago
Storage and Distribution Operations Manager - 6 to 12 Months Fixed Term Contract
Hounslow, England, United Kingdom 2 days ago
London, England, United Kingdom 2 months ago
City Of London, England, United Kingdom 1 week ago
Ealing, England, United Kingdom 1 week ago
Ealing, England, United Kingdom 3 weeks ago
Lifting Operations Supervisor [A5196], SEARCHLIGHT
London, England, United Kingdom 1 week ago
Hayes, England, United Kingdom 2 months ago
London, England, United Kingdom 2 days ago
London, England, United Kingdom 1 month ago
Carshalton, England, United Kingdom 1 month ago
Romford, England, United Kingdom 3 days ago
City Of London, England, United Kingdom 1 month ago
London, England, United Kingdom £60,000.00-£63,000.00 1 month ago
We’re unlocking community knowledge in a new way. Experts add insights directly into each article, started with the help of AI.