Turn this role into an interview — a resume and cover letter built around what this employer wants.
Senedd yn Cardiff yn chwilio am dystiolaeth Cysylltiadau Cwsmeriaid сafl i ddarparu gwasanaeth gwybodaeth proffesiynol a chyfathredu ym welar y cyhoedd. Bydd y swydd yn gofalu am dderbynfa croesawgar, mynediad i'r adeilad, ac ymholiadau ar ymweliadau ac ymateb i geisiadau gwybodaeth.
Bydd ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o fewn tîm gwybodaeth aml-iaith, yn cysylltu â staff a’elodau, ac yn darparu cefnogaeth i gynlluniau ymweliadau a digwyddiadau.
Mae'r swydd hon yn y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid, sy'n sicrhau bod ein cynulleidfa’n cael y profiad gorau posibl o'r Senedd. Mae'r tîm yn darparu gwasanaeth gwybodaeth dwyieithog a diduedd i'r cyhoedd.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth gwybodaeth proffesiynol ac effeithlon, ar-lein ac wyneb yn wyneb, ac yn darparu cymorth i'r rhai sy'n ymweld i gymryd rhan ym musnes y Senedd neu ei wylio.
Gan adrodd i Reolwr y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gohebu â'r cyhoedd ac Aelodau o'r Senedd, ynghylch ceisiadau am wybodaeth am ymweliadau a chanfod y ffordd, agenda busnes y Senedd, digwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu amrywiol a drefnir gan y Senedd.
Mae'r rôl hon yn gofyn am allu i roi sylw i fanylion, a sgiliau cryf o ran cyfathrebu a gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'r gallu i gyfathrebu'n hyderus â phobl ar bob lefel yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae hyfforddiant a chymorth ardderchog ar gael i'ch helpu yn eich rôl.
Penodol i'r swydd:
Meini prawf o ran y Gymraeg:
Mae'r sgiliau ieithyddol ar gyfer y swydd hon wedi'u hasesu fel a ganlyn:
Caiff y sgiliau hyn eu hasesu fel rhan o’r broses ddethol.
I gael rhagor o wybodaeth am y lefelau gallu o ran y Gymraeg, ewch i'n gwefan.