Uma candidatura completa num minuto
Currículo e carta de apresentação personalizados, prontos a enviar.
Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales yn chwilio am dwtora cymwysedig a medrus i ddarparu cyrsiau Gwaith Ieuenctid i ddysgwyr yng Ngogledd Cymru. Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu rhaglenni dysgu yn unol â phroffil dysgwyr a rheoleiddio Addysg Oedolion Cymru.
Rôl amrywiol a thebyg i weithio’n annibynnol gyda thîm y rhanbarth, ac yn cynnwys tasgau gweinyddol a chyfrifoldeb i sicrhau dysgu o ansawdd uchel.
Mae gennym gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid cymwysedig a medrus i ddarparu cyrsiau Gwaith Ieuenctid i ddysgwyr yng Ngogledd Cymru. Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr a Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru, er mwyn cefnogi cyflwyno dysgu o ansawdd uchel.
Mae rôl Tiwtor yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.
Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.