Get a reply from this employer
Your resume and cover letter, tailored to exactly what they’re hiring for.
Addysg Oedolion Cymru yn chwilio am Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol i weithio yn y tîm rhanbarth yng ngogledd Cymru. Byddwch yn cefnogi gwaith y tîm cyflenwi trwy ddyletswyddau gweinyddol sy’n hanfodol i ddarparu gwasanaethau dysgu i oedolion.
Mae rôl yn cynnwys cofrestru cyrsiau ar MIS, casglu a chyflwyno ffioedd dosbarthiadau, monitro arian traul, prosesu hawliadau tiwtoriaid a chyfrannu at ddatblygu data ac adroddiadau.
Ymunwch gyda Ni yn Addysg Oedolion Cymru – Lle Mae Dysgu’n Trawsnewid Bywydau
Yn Addysg Oedolion Cymru, credwn fod addysg yn arf pwerus ar gyfer trawsnewid personol a chymunedol. Fel prif ddarparwr Cymru ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch o ansawdd uchel sy’n grymuso unigolion i wireddu eu potensial a chyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo dysgu gydol oes ac ehangu mynediad at ddysgu a sgiliau, gan feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle gall pawb ffynnu.
Rydym yn falch o'n gwerthoedd a'n hethos, sydd wedi'u gwreiddio mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a pharch. Gwerthfawrogwn ein staff fel ein hased mwyaf ac rydym yn ymroddedig i greu gweithle cadarnhaol, cydweithredol a deinamig lle mae pob aelod o'r tîm yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi a'i ysgogi i gyflawni ei orau.
Mae gan Addysg Oedolion Cymru gyfle gwych i unigolyn weithio mewn rôl amrywiol fel Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol o fewn tim rhanbarth Y Gogledd ag i ymuno â sefydliad Cymru gyfan sydd wedi ymrwymo i wasanaethu poblogaeth oedolion Cymru gyda chyfleoedd ysbrydoledig sy'n newid bywydau.
Mae rôl Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol yn rôl amrywiol ac allweddol o fewn y sefydliad, byddwch yn cefnogi ac ategu gwaith y tîm cyflenwi trwy ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol, gan gynnwys cofrestru cyrsiau ar y Systemau Gwybodaeth Reoli (MIS), casglu a chyflwyno ffioedd dosbarthiadau, monitro arian traul, prosesu hawliadau tiwtoriaid am dâl, a chofnodi holl fanylion a gofynion cymorth dysgwyr.
Mae hon yn rôl ymarferol lle byddwch chi'n gweithredu'n gyflym, yn annibynnol a gyda chefnogaeth gan dîm sefydledig.
Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):
Os ydych yn mwynhau amgylchedd gwaith cyflym, amrywiol a gwerth chweil a bod gennych y sgiliau gofynnol, dyma'r cyfle perffaith i ymuno â ni.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.
Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.