Eine vollständige Bewerbung in einer Minute
Maßgeschneiderter Lebenslauf und Anschreiben – versandbereit.
Mae Cygnet Group yn awyddus am Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol i ymuno â'n tîm yng Nghorwen. Byddwch yn asesu anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu (SCLN) ac yn gweithio'n uniongyrchol â phresennol arbenigol.
Byddwch yn gweithio mewn gwasanaeth niwroseiciatreg neu niwroadsefydlol, gyda chyfle i weithio mewn team aml-ddisgyblaethol, llwyth achos arbenigol a chymorth DPP. Bydd digon o gyfleoedd traws-waith a goruchwyliaeth o ansawdd uchel.
Helping others improve and turn their lives around - there's no better feeling. It's what we do for thousands of people at more than 150 sites across the UK. Be a part of it.
Yn sgil agor gwasanaeth newydd, mae cyfle cyffrous ar gael i Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol ymuno â'n tîm!
Mae Cygnet Afon Las yn wasanaeth newydd sbon a fydd yn agor ym mis Ebrill 2027. Mae'r ysbyty 15 gwely hwn wedi'i leoli yng Nghorwen, Sir Ddinbych, a bydd yn darparu gwasanaeth niwrowybyddol a gofal a chymorth arbenigol i ddynion â chyflyrau niwrolegol cymhleth ochr yn ochr â chanlyniadau seiciatrig. Bydd y gwasanaeth yn derbyn atgyfeiriadau gan y gymuned yn ogystal â gwasanaethau niwrolawfeddygol a niwroadsefydlol, gan gynnig llwybr ar gyfer asesu, rhoi triniaeth ac adfer yn unol â Model Gofal Cygnet. Efallai y bydd unigolion yn cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ac efallai y bydd gan rai ohonynt hanes fforensig.
Fel Therapydd Iaith a Lleferydd yn y gwasanaeth hwn, byddwch yn gweithio'n uniongyrchol â llwyth achosion arbenigol o gleifion ag anghenion cymhleth, gan asesu eu hanghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu (SCLN), yn ogystal â'u hanghenion bwyta, yfed a llyncu (EDS). Byddwch yn gweithio ac yn rhoi mewnbwn yn unol â Llwybr SLT Cygnet ar gyfer gwasanaethau niwroseiciatreg. Fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ary safle, byddwch hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y gwasanaeth i gefnogi'r gwaith o roi dulliau rheoli ar waith a gwella sgiliau'r gweithlu yn ôl yr angen.
Byddwch yn rhan o wasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd ehangach sy'n gweithredu ar draws y cwmni, ac felly byddwch yn cael cyfle i gyfrannu at prosiectau ar raddfa fawr. Byddwch yn cael goruchwyliaeth o ansawdd uchel a bydd digonedd o gyfleoedd DPP i'ch cefnogi.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gael archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a darparu geirda, a bydd unrhyw gynnig yn amodol ar basio'r rhain yn llwyddiannus.
What next?