Get a reply from this employer
Your resume and cover letter, tailored to exactly what they’re hiring for.
South Wales Fire and Rescue Service yn chwilio am ymgeisydd i gefnogi ei strategaeth Cynllunio Busnes a Rheoli Perfformiad. Bydd y rôl yn darparu adroddiadau, mesur perfformiad a chefnogi archwiliadau risg i sicrhau bod achosion statudol yn cael eu cyflawni.
Bydd gennych brofiad mewn cynllunio strategol a rheoli prosiectau, gyda gallu gweithio'n dda mewn partneriaeth â rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn cyflawni canlyniadau mesuradwy i'r gwasanaeth.
Fel rhan o'r Tîm Cynllunio, Perfformiad a Risg, mae’s rol yn gyfrifol am ddatblygiad a gwelliant parhaus ein prosesau a'n strategaethau sefydliadol sy'n ymwneud â Chynllunio Busnes, Rheoli Perfformiad, Risg ag Archwilio.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar fframwaith cynllunio busnes y Gwasanaeth i sicrhau bod yr holl amcanion gwella a chamau ategol yn cael eu datblygu, mesur ac adrodd yn effeithiol er mwyn bodloni gofynion deddfwriaethol. Bydd hwn yn cynnwys gweithio’n agos gyda’r Tîm Ystadegau a Risg i ddyfeisio Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRMP) ar gyfer y sefydliad. Bydd yr unigolyn yn drafftio’r adroddiad Cynllun Rheoli Risg Cymunedol terfynol ac yn gweithio i sicrhau y gellir monitro cynnydd parhaus y Gwasanaeth yn erbyn yr holl flaenoriaethau a nodwyd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu i un o flaenoriaethau y Gwasanaeth sef cyflwyno system fwy cadarn ar gyfer adnabod, asesu a lliniaru risg i’r sefydliad – mae’r Gwasanaeth wrthi yn gweithredu System Rheoli Risg a dull o gofnodi a dogfennu risgiau a sut maent yn cael eu rheoli o fewn meysydd cyfrifoldeb. Bydd System Rheoli Risg yn galluogi'r Gwasanaeth i adnabod yn glir berchnogaeth risg, lliniaru, cyflymder a llwybrau uwchgyfeirio/isgyfeirio.
Byddwch yn rhagweithiol ac yn llawn cymhelliant, yn gallu meithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol ill ddau ar bob lefel i roi cyngor a chymorth. Bydd gennych brofiad o gynllunio strategol a rheoli prosiectau/newid er mwyn sicrhau gwelliant mesuradwy yn y gwasanaeth, gan weithio gyda'r Rheolwr Ymgysylltu a'r Cyhoedd (PPR) i nodi a gweithredu atebion. Byddwch yn helpu i ddatblygu ein fframweithiau a systemau i sicrhau ein bod yn cyflawni yn erbyn ein blaenoriaethau statudol a chynlluniau’r Gwasanaeth.