A complete application in a minute
Tailored resume and cover letter, ready to send.
Conwy County Borough Council is seeking a Team Manager to lead the Integrated Disability Services, overseeing a staff team and ensuring high-quality care, with emphasis on Active Support, Positive Behaviour Support and reducing restrictive practices.
You will promote person-centred planning, empower service users, manage operations, ensure RISCA compliance, and drive continuous improvement. Welsh language skills desirable.
As the Team Manager you will be accountable for leading the management and development of a team for the Integrated Disability Services.
One of the key areas of responsibility will be to ensure that you promote, and value ‘Active Support’, ‘Positive Behaviour Support’ and the ‘Reduction of Restrictive Practices’ approaches as a central method of enabling individuals to engage more in their daily lives; building strong relationships with those surrounding them, developing independent living skills and becoming active members within their communities through delivering high quality care.
As the Team Manager you will demonstrate practical, visible, and compassionate leadership and will be required to:
The post is currently managing and leading a staff team to provide support for children and young people who have complex needs and behaviour that challenges.
Company: Conwy County Borough Council Salary: Meets national minimum wage Hours: Full-time Location: LL30 1TL Working pattern: Hybrid - 2 days remote Job type: Permanent Posting date: 12 Nov 2026 Closing date: 26 Nov 2026
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable.
Fel rheolwr tîm, byddwch yn gyfrifol am arwain gwaith rheoli a datblygu tîm ar ran y Gwasanaethau Anabledd Integredig.
Un o’r prif feysydd cyfrifoldeb fydd sicrhau eich bod chi’n hyrwyddo ac yn gwerthfawrogi ‘Cefnogaeth Weithredol’, ‘Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol’ a ‘Lleihau Arferion sy’n Cyfyngu’ fel dull canolog o alluogi unigolion i ymgysylltu mwy yn eu bywydau bob dydd; meithrin perthnasoedd cadarn gyda’r rhai o’u cwmpas nhw, datblygu sgiliau byw’n annibynnol a dod yn aelodau gweithredol o’u cymunedau drwy ddarparu gofal o ansawdd uchel.
Fel Rheolwr Tîm, byddwch yn dangos arweinyddiaeth ymarferol, amlwg a thosturiol, a bydd gofyn i chi:
• Reoli darpariaeth cyfrifoldebau gweithredol.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â’r safonau yn y gwasanaeth rheoledig.
• Sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu yn unol â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
• Darparu data / gwybodaeth am berfformiad a’r gweithlu.
Bydd angen i’r rheolwr tîm ddangos, bod yn fodel rôl a grymuso staff hefyd er mwyn sicrhau:
• Eu bod nhw’n rhoi anghenion yr unigolyn yn ganolog i’w gofal, a sicrhau bod ganddyn nhw lais a rheolaeth dros gyrraedd canlyniadau sy’n eu helpu nhw i sicrhau lles.
• Bod pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn cael eu grymuso i gymryd mwy o ran yn y gwaith o ddylunio a darparu’r gwasanaeth drwy roi systemau cyfathrebu ar waith sy’n benodol i’r unigolyn, a fydd yn rhoi llais amlwg iddyn nhw ar yr hyn sy’n bwysig iddynt.
Bydd disgwyl i chi:
• Gymryd cyfrifoldeb dros ddarparu’r gwasanaeth wrth sicrhau bod y cyfleuster seibiant yn cydymffurfio’n llawn â Rheoliadau RISCA 2016.
• Gweithio gyda’r Rheolwr Adain i weithredu cyfleoedd ar gyfer gwelliannau gwasanaeth sy’n darparu effeithlonrwydd a chynaliadwyedd wrth ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys casglu adborth gan rai sy’n defnyddio’r service, eu teulu a’u ffrindiau a budd-ddeiliaid perthnasol eraill.
• Hyrwyddo safon ymddygiad personol a phroffesiynol uchel iawn wrth gefnogi diwylliant ar draws y gwasanaeth sy’n wirioneddol gynnes, dilys, llawn ymddiriedaeth, gonest, dibynadwy, cyson a gofalgar.
• Goruchwylio a chynnig arweiniad yn y gweithle i gydlynwyr a gweithwyr cefnogi a sicrhau eu bod nhw’n gweithio’n ddiogel ac mewn modd sy’n bodloni’r safonau sy’n ofynnol gan Weithiwr Gofal Cymdeithasol dan God Ymddygiad Gofal Cymdeithasol Cymru.
• Sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gynnal o ddydd i ddydd mewn modd sy’n arwain at welliant parhaus yn y gwasanaeth, fel bod ‘pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni popeth y gallan nhw; eu bod yn derbyn y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir; eu bod yn ddiogel ac yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth’
• Llunio a datblygu prosesau goruchwylio ac adolygu sy’n atgyfnerthu ethos gwelliant parhaus yn gyson gan bob aelod o staff.
Ar hyn o bryd, mae deiliad y swydd yn rheoli ac yn arwain tîm o staff i gynnig cefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth ac ymddygiad heriol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Fiona Dennison, Rheolwr Adain (fiona.dennison@conwy.gov.uk / 01492 577772)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol.
Proud member of the Disability Confident employer scheme