Enable job alerts via email!

Teaching Assistant Level 2 – Ysgol T.Llew Jones Primary School

Cyngor Sir Ceredigion County Council

Wales

On-site

GBP 18,000 - 22,000

Full time

2 days ago
Be an early applicant

Job summary

Mae Cyngor lleol yn chwilio am Gynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 i gefnogi dysgu yn Ysgol T Llew Jones. Mae gofyn am sgiliau cyfathrebu da, dealltwriaeth o’r Cwricwlwm i Gymru, a'r gallu i weithio’n hyblyg. Bydd y rôl yn cynnwys goruchwylio a darparu cefnogaeth i ddisgyblion, gan sicrhau eu diogelwch a'u hyfforddiant. Rydym yn cynnig amrediad o fuddion gan gynnwys cynllun pensiwn cyflogwr hael.

Benefits

Pensiwn cyflogwr hael
Cefnogaeth i ddatblygu sgiliau

Qualifications

  • Sgiliau rhifedd/llythrennedd da yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Gwaith hyblyg fel rhan o dîm.
  • Deall cyfrifoldebau'r ystafell ddosbarth.

Responsibilities

  • Goruchwyllo a darparu cefnogaeth neulltiol i ddisgyblion.
  • Sefydlu perthynas adeiladol gyda holl ddisgyblion.
  • Cynorthwyo gyda gweithgareddau dysgu penodol.

Skills

Sgiliau rhifedd/llythrennedd
Sgiliau cyfathrebu gwych
Dealltwriaeth gyffredinol o’r Cwricwlwm i Gymru

Education

CGC3 i Gynorthwyyr Dosbarth
Job description

‘Llwybr, llwyddiant lles a llawenydd’

Rydym am benodi Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 i’n cynorthwyo, i gefnogi a chyflwyno dysgu, ar gytundeb llawn amser yn Ysgol T Llew Jones.

Lleolir Ysgol T Llew Jones, ym mhentref Brynhoffnant, Ceredigion. Mae tua 167 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol. Mae’r ysgol yn sefydliad hapus a chyfeillgar, gyda’r disgyblion yn ganolog i holl weithgareddau’r ysgol. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig a egniol i ymuno a thîm llwyddiannus er mwyn sicrhau y cyfleoedd gorau ar gyfer disgyblion yr ardal.

Fe fydd gofyn i chi:

  • goruchwyllo a darparu cefnogaeth neulltiol i ddisgyblion, gan gynnwys y rheiny âg anghenion arbennig, gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at weithgareddau dysgu
  • sefydlu perthynas adeiladol gyda holl ddisgyblion, gan ryngweithio yn unol â’u hanghenion unigol
  • herio a symbylu disgyblion, hyrwyddo ac atgyfnerthuhunan-werth
  • annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan yr athro neu’r athrawes
  • cynorthwyo gyda’r gwaith o gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu penodol megis ymyrraethau fel Trandep a Chyfrif Ceredigion

Rydym am benodi unigolyn sydd â:

  • sgiliau rhifedd/llythrennedd da yn y Gymraeg a’r Saesneg
  • sgiliau cyfathrebu gwych ac yn meddu ar y gallu i adeiladu perthnasau dros ystod oedran a gallu
  • dealltwriaeth gyffredinol o’r Cwricwlwm i Gymru/ rhaglenni a strategaethau dysgu sylfaenol eraill e.e Trandep / Cyfrif Ceredigion
  • gweithio’n adeiladol a hyblyg yn rhan o dîm, deall cyfrifoldebau a swyddogaethau’r ystafell ddosbarth a’ch safle bersonol o fewn y swyddogaethau hynny
  • CGC3 i Gynorthwyyr Dosbarth, cymwysterau neu phrofiad gyffelyb

Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur, drwy defnyddio’u menter, gydag rhagolwg bositif a gwir ddiddordeb yn cefnogi anghenion dysgu’r disgyblion.

I gydnabod eich sgiliau a’ch ymrwymiad, fe fyddwn yn cynnig amrediad o fuddion gweithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn cyflogwr hael. Gallwch ddysgu mwy am ein buddion gweithwyr yma.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus.

Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Mrs Rhian Lloyd ar 01239 654553 neu e-bostiwch lloydm38@hwbcymru.net

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Get your free, confidential resume review.
or drag and drop a PDF, DOC, DOCX, ODT, or PAGES file up to 5MB.