Enable job alerts via email!
Boost your interview chances
Create a job specific, tailored resume for higher success rate.
Mae Ysgol Bro Teifi yn chwilio am Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 1, gan weithio yn Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd y deiliad yn gweithio i gefnogi disgyblion uwchradd gyda'u hanghenion dysgu. Mae disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus weithio fel rhan o dîm cynhwysiant yr ysgol ac i gefnogi egwyddorion craidd yr ysgol.
Dyddiad Dechrau: 1af o Fedi 2025.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 1 i ymuno ag Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio cefnogi disgybl / disgyblion oed uwchradd er mwyn eu cefnogi i wneud cynnydd. Mae Ysgol Bro Teifi yn ymfalchïo yn ei hethos gynhwysol a bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus i gefnogi ein egwyddorion craidd a gweithio yn effeithiol fel rhan o dîm cynhwysiant yr ysgol.
Manylion y swydd:
Agorwyd Ysgol Bro Teifi yn Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy’r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o’r lleiaf i’r hynaf.
Mewn arolwg Estyn diweddar (Tachwedd 2024) nodwyd fod …’y ddarpariaeth ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn gryfder. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion ADY yn gwneud cynnydd cryf yn erbyn eu targedau..’ Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu’n sylweddol ac ar hyn o bryd, mae 362 o ddisgyblion o oedran cynradd a 512 o oedran uwchradd, gyda 90 o’r rhain yn y chweched dosbarth.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiadhwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.