Enable job alerts via email!
Awdurdod lleol yn Cymru yn chwilio am athro/athrawes cyfnod dysgu sylfaen i ymuno â thîm ymroddgar. Mae angen gallu Cymraeg a phrofiad o ddysgu. Y rôl hwn yn cynnwys sicrhau bod disgyblion yn derbyn profiadau dysgu da a llwyddiannus.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi addysgwr blaengar a chydwybodol i ymuno a’r ysgol fel athro/athrawes cyfnod dysgu sylfaen ar gytundeb llawn amser dros gyfnod mamolaeth deiliaid presennol y swydd. Rydym yn awyddus iawn i glywed wrth athrawon profiadol neu newydd gymhwyso i ymuno gyda’n tîm ymroddgar o athrawon oed cynradd.
Byddyr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Ysgol gydol oed 3-19 yw Ysgol Bro Teifi wedi ei lleoli y tu allan i dref Llandysul yn ne-ddwyrain Ceredigion. Mae rhyw 45 munud o daith o ddiwedd yr M4 a 30 munud o dref Caerfyrddin. Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal wledig, Gymreig gyda thua 79% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl a bron i 64% yn siarad Cymraeg yn y cartref.
Agorwyd yr ysgol ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy’r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o’r lleiaf i’r hynaf.
Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu ac ar hyn o bryd mae 850 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda thua 320 o oedran cynradd.
Arolygwyd yr ysgol gan Estyn yn Nhachwedd 2024 ac adroddwyd bod:
“Mae staff a disgyblion Ysgol Bro Teifi yn cydweithio’n agos i greu awyrgylch deuluol a chynnal ethos cynhwysol a gofalgar. Mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn sicrhau bod popeth sydd eu hangen arnynt o ran gofal a chefnogaeth ar gael yn ddi-rwystr. O’r dysgu sylfaen i’r chweched dosbarth, mae’r disgyblion yn gwireddu arwyddair yr ysgol, ‘Oni heuir, ni fedir’, yn llwyddiannus, gan fanteisio ar y cyfleoedd i ddatblygu’n ddinasyddion cyfrifol, parchus a charedig. y Gymraeg.”
“Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda yn eu gwersi ac o gwmpas yr ysgol. Maent yn dangos parch at ei gilydd ac at staff ac maent yn annwyl a chroesawgar gydag ymwelwyr”
Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl. Fel rhan o’r ymrwymiad, mae roles o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.