Enable job alerts via email!
Boost your interview chances
Create a job specific, tailored resume for higher success rate.
An established industry player is seeking a passionate and conscientious educator to join their dedicated team as a Welsh and English teacher. This role, focused on teaching students in years 7 to 9, offers the opportunity to inspire young minds and ensure every pupil reaches their potential. With a commitment to creating engaging and valuable learning experiences, the successful candidate will play a crucial role in fostering a supportive and inclusive environment. If you are enthusiastic about education and ready to make a difference, this role is perfect for you.
Math o gytundeb: Rhan Amser (0.8), Dros-Dro – Cyfnod Mamolaeth
Dyddiad Dechrau: 1af o Fedi 2025
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi addysgwr blaengar a chydwybodol i ymuno a’r ysgol fel athro/athrawes Cymraeg a Saesneg oed Uwchradd ar gytundeb mamolaeth, rhan amser (Tymor yr Hydref 2025). Rydym yn awyddus iawn i glywed wrth athrawon profiadol neu newydd gymhwyso a fyddai’n dymuno ymuno gyda’n tîm ymroddgar o athrawon. Bydd mwyafrif y gwaith wedi ei ffocysu ar ddysgu disgyblion blynyddoedd 7 i 9 o fewn y pynciau Cymraeg a Saesneg ond ceir cyfleoedd i ymgeiswyr i ddysgu rhai dosbarthiadau TGAU hefyd os yn addas.
Byddyr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Ysgol gydol oed 3-19 yw Ysgol Bro Teifi wedi ei lleoli y tu allan i dref Llandysul yn ne-ddwyrain Ceredigion. Mae rhyw 45 munud o daith o ddiwedd yr M4 a 30 munud o dref Caerfyrddin. Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal wledig, Gymreig gyda thua 79% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl a bron i 64% yn siarad Cymraeg yn y cartref.
Agorwyd yr ysgol ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy’r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o’r lleiaf i’r hynaf.
Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu’n sylweddol ac ar hyn o bryd, mae oddeutu 850 o ddisgyblion yn yr ysgol gan gynnwys tua 85 yn y chweched dosbarth.
Arolygwyd yr ysgol gan Estyn yn Nhachwedd 2024 ac adroddwyd bod:
“…staff a disgyblion Ysgol Bro Teifi yn cydweithio’n agos i greu awyrgylch deuluol a chynnal ethos cynhwysol a gofalgar. Mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn sicrhau bod popeth sydd eu hangen arnynt o ran gofal a chefnogaeth ar gael yn ddi-rwystr. O’r dysgu sylfaen i’r chweched dosbarth, mae’r disgyblion yn gwireddu arwyddair yr ysgol, ‘Oni heuir, ni fedir’, yn llwyddiannus, gan fanteisio ar y cyfleoedd i ddatblygu’n ddinasyddion cyfrifol, parchus a charedig. y Gymraeg.”
Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda yn eu gwersi ac o gwmpas yr ysgol. Maent yn dangos parch at ei gilydd ac at staff ac maent yn annwyl a chroesawgar gydag ymwelwyr.
Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.