Swyddog Digwyddiadau

Cancer Research Wales

Cardiff

On-site

GBP 28,000 - 32,000

Full time

13 days ago

A complete application in a minute

Tailored resume and cover letter, ready to send.

Get past ATS filters

Job summary

Ymchwil Canser Cymru Estynedig (Cancer Research Wales Breast Group) yng Nghymru yn chwilio am Swyddog Digwyddiadau Codi Arian i ddarparu rhaglen gweithgareddau a threfnu digwyddiadau. Bydd y rôl yn cyfrannu at ehangu cefnogwyr a chynyddu rhoddion trwy ddigwyddiadau comedi, cerddoriaeth a heriau rannol.

Bydd y swydd yn gofyn am sgiliau rheoli prosiect a dealltwriaeth dda o ddata a CRM, ynghyd â gallu gweithio yn Gymraeg.

Qualifications

  • Mae sgiliau rheoli prosiect cadarn yn hanfodol.
  • Profiad o ddatblygu a gweithredu cynlluniau gweithredu i gefnogi digwyddiadau codi arian.
  • Hanes profedig o gyrraedd targedau recriwtio i ddigwyddiadau.
  • Hanes profedig o ddatblygu a gweithredu teithiau cefnogwyr i ennyn cefnogaeth.
  • Deall sut i ddefnyddio platfformau codi arian digidol
  • Profiad o ddefnyddio data a gwybodaeth i brosiectau ac i'w gwerthuso.
  • Profiad o weithio gyda phartneriaid digwyddiadau mawr.
  • Profiad o recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr.
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a rhyngbersonol cadarn.
  • Gallu i gyfathrebu yn Gymraeg.
  • Gwybodaeth ymarferol am systemau CRM.

Responsibilities

  • Arwain datblygu a chynyddu gwaith codi arian trwy ddigwyddiadau arloesol.
  • Rheoli cynllun recriwtio a chynnwys cynllun marchnata ar gyfer digwyddiadau.
  • Gwirfoddoli mewn teithiau cefnogwyr a thrails ymgysylltiad.
  • Cydweithio gyda chyd-benodol partneriaid cyflawni i roi profiad cadarnhaol.
  • Defnyddio data i fesur perfformiad a manteisio ar amsugno buddsoddiad.
  • Cydlynu gyda'r Rheolwr Digwyddiadau i fesur hyd a lled gweithgareddau newydd.

Skills

Prosiect rheoli
Dathlu digwyddiadau
Cyrraedd targedau recriwtio
Gwaith data
CRM
Cymraeg (Iaith)

Tools

Systemau CRM
Platfformau marchnata

Job description

Mae Ymchwil Canser Cymru wedi bod yn codi arian i ariannu ymchwil canser o’r radd flaenaf ers 60 mlynedd, gan ariannu mwy na £41m o ymchwil yn y cyfnod hwnnw. Ond mae angen i ni wneud gymaint yn fwy, ac fe allwn wneud hynny. Rydym eisiau i bawb yng Nghymru fod yn rhan o achub mwy o fywydau rhag canser trwy gyfrannu rhoddion, codi arian, ymweld â’n siopau, gwirfoddoli, a helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o Ymchwil Canser Cymru.

A oes gennych angerdd tuag at ddigwyddiadau?

Ydych chi am ein helpu i wneud gwahaniaeth i ymchwil sy’n helpu i ymestyn ac achub bywyd pobl rhag effaith dorcalonnus canser?

Dyma gyfle unigryw i ymuno â’n tîm Digwyddiadau Codi Arian llwyddianus, gan ein bod yn chwilio am rywun sy’n angerddol am redeg a digwyddiadau her.

Mae gan Ymchwil Canser Cymru gymuned fawr o gefnogwyr sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau rhedeg a her bob blwyddyn – gwelom dros 2000 o bobl yn codi arian fel hyn i’r elusen yn 2025! Cewch fanylion am ein portffolio blaenllaw yn y sector, o ddigwyddiadau rhedeg a her: https://www.cancerresearch.wales/cy/get-involved/our-events

Mae Swyddogion Digwyddiadau Ymchwil Canser Cymru yn gyfrifol am weithio gyda’n cymuned fawr o gefnogwyr sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau elusennol, sef cymuned sy’n tyfu. Yn ymhellach â rheoli digwyddiadau presennol i recriwtio cefnogwyr newydd a sicrhau eu bod yn cael profiad cadarnhaol, byddwch hefyd yn amlygu cyfleoedd newydd i ddatblygu digwyddiadau rhedeg a her eraill a allai gynyddu ymhellach ein cymuned o gefnogwyr.

Cyfrifoldebau allweddol

  • Byddwch yn arwain ar ddatblygu a chynyddu ein gwaith codi arian trwy ddigwyddiadau comedi, cerddoriaeth a digwyddiadau arbennig rhedeg, yn ogystal a datblygu ein sialensau nofio, seiclo, nenblymio a Zip.
  • Byddwch yn rheolwr prosiect ar ein digwyddiadau – gan gynnwys y cynllun recriwtio a’r cynllun marchnata, cynllunio taith y cefnogwr, a gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid cyflawni allanol i gynnig profiad cadarnhaol a chofiadwy.
  • Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o ddata a gwybodaeth i wneud y mwyaf o berfformiad ac adenillion ar fuddsoddiad trwy’r portffolio presennol o weithgareddau – er enghraifft, defnyddio data i gael dealltwriaeth lawn o gymhellion, diddordebau ac anghenion ein cymuned digwyddiadau rhedeg a her.
  • Byddwch yn gweithio gyda’r Rheolwr Digwyddiadau i fesur hyd a lled y potensial am ddigwyddiadau pwrpasol newydd a/neu ddigwyddiadau trydydd parti newydd y gallem eu hychwanegu at ein portffolio.
  • Byddwch yn gweithio ar y cyd â thimau eraill, fel y timau cyfathrebu a marchnata, adwerthu a chyfathrebu, i gyflawni digwyddiadau yn effeithiol ac amlygu cyfleoedd ar y cyd.
  • Byddwch yn cefnogi’r elusen trwy ateb galwadau ffôn a negeseuon e-bost gan gefnogwyr, monitro blwch negeseuon e-bost yr Elusen, a diweddaru’r CRM.
  • Byddwch yn cefnogi ethos a gwerthoedd cyffredinol Ymchwil Canser Cymru, gan hyrwyddo cenhadaeth a gweithgareddau’r elusen bob amser.
  • Yn achlysurol, gallech ymgymryd â thasgau eraill sy’n gyson â natur a chwmpas y swydd hon.
Sgiliau a phrofiad hanfodol
  • Mae sgiliau rheoli prosiect cadarn yn hanfodol.
  • Profiad o ddatblygu a rhoi cynlluniau gweithredu ar waith i gefnogi’r gwaith o gyflwyno a thyfu digwyddiadau codi arian.
  • Hanes profedig o gyrraedd targedau recriwtio i ddigwyddiadau, a rhagori ar y targedau hynny.
  • Hanes profedig o ddatblygu a gweithredu teithiau cyflawn cefnogwyr i ennyn sylw cymaint â phosibl o roddwyr a darparu gofal rhagorol i gwsmeriaid.
  • Deall sut i ddefnyddio platfformau codi arian digidol yn llwyddiannus.
  • Profiad o ddefnyddio data a gwybodaeth fel sylfaen i brosiectau ac i’w gwerthuso.
  • Profiad o weithio gyda phartneriaid digwyddiadau mawr.
  • Profiad o recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr.
  • Byddwch yn gallu gweithio’n annibynnol i reoli eich llwyth gwaith eich hun, gyda gweithgareddau lluosog, gosod blaenoriaethau a chyflawni targedau heriol.
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a rhyngbersonol cadarn.
  • Byddwch yn meddu ar wybodaeth gyfredol am yr arfer gorau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau codi arian, gan gynnwys gofynion y Rheoleiddiwr Codi Arian, yr HSE a gofynion yswiriant.
  • Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg.
  • Gwybodaeth ymarferol am systemau Rheoli’r Berthynas â Chleientiaid (CRM).

Mae’r swydd hon yn amodol ar archwiliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a fydd yn cael ei gynnal gan Ymchwil Canser Cymru cyn dechrau cyflogaeth.

Mae Ymchwil Canser Cymru wedi ymrwymo i cyfle cyfartal i bob aelod presennol o staff a darpar aelod o staff. Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn amgylchedd cynnes a chroesawgar i weithio a chroesawn geisiadau gan bob rhan o’r gymuned.

Mae’n ofynnol bod holl weithwyr Ymchwil Canser Cymru yn cynnal cyfrinachedd rhanddeiliaid ac aelodau staff.

Chi sy’n gyfrifol am gyfyngu eich gweithredoedd i’r gweithredoedd hynny rydych chi’n teimlo’n gymwys i ymgymryd â nhw. Os oes gennych unrhyw amheuon am eich cymhwysedd wrth gyflawni eich dyletswyddau, siaradwch a’ch rheolwr llinell ar unwaith.

DATGANIAD HYBLYGRWYDD
Mae cynnwys y Swydd-ddisgrifiad hwn yn cynrychioli amlinelliad o’r swydd yn unig ac, felly, nid yw’n gatalog manwl o ddyletswyddau a chyfrifoldebau. Felly, bwriedir i’r Swydd-ddisgrifiad fod yn hyblyg a bydd yn cael ei adolygu a’i ddiwygio yn sgil amgylchiadau sy’n newid, yn dilyn ymgynghoriad â deiliad y swydd.

Pan fydd y sefydliad proffesiynol priodol yn nodi gofyniad yn gysylltiedig â goruchwylio, cyfrifoldeb deiliad y swydd yw sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gofyniad hwn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth am fodolaeth gofyniad o’r fath, siaradwch â’ch Rheolwr.

Fel gweithiwr gydag Ymchwil Canser Cymru, rydych yn gyfrifol yn gyfreithiol am yr holl gofnodion rydych chi’n eu casglu, eu creu neu eu defnyddio fel rhan o’ch gwaith o fewn yr elusen, boed hynny ar bapur neu ar gyfrifiadur. Mae hyn yn gais o’r gyth? ...

Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: Dydd Llun 16 Tachwedd (12 canol dydd)

£28,000 - £32,000 gros y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad)

Get your free, confidential resume review.

or drag and drop your file here.

Similar jobs

Similar jobs worth comparing

Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol
Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol

North Wales Fire and Rescue Service • St Asaph

On-site
GBP 37,000 - 39,000
Administrative Officer
Administrative Officer

Cardiff University • Cardiff

On-site
GBP 29,000 - 32,000
40 days annual leave
Local pension scheme
Cycle to work scheme
+2
Head of Democratic Services / Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
Head of Democratic Services / Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

Cardiff Council • Cardiff

Hybrid
GBP 60,000 - 80,000
LGPS pension scheme
Generous annual leave 28–33 days
Discounted leisure and travel options
+1
Rheolwr Cartref Gofal Preswyl - Plas Crigyll
Rheolwr Cartref Gofal Preswyl - Plas Crigyll

Isle of Anglesey County Council • Bryngwran

On-site
GBP 32,000 - 45,000
Research Associate
Research Associate

Cardiff University • Cardiff

Hybrid
GBP 42,000 - 47,000
Blended working arrangements
45 days annual leave
Living Wage employer
Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa Dan Hyfforddiant, Cymraeg Dymunol (Dyddiad Cau 08/11/26)
Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa Dan Hyfforddiant, Cymraeg Dymunol (Dyddiad Cau 08/11/26)

Careers Wales • Caerphilly

On-site
GBP 32,000 - 37,000
Tiwtor Cyswllt mewn Amgylcheddau Wedi'u Dylunio ac Adeiledig (2627135)
Tiwtor Cyswllt mewn Amgylcheddau Wedi'u Dylunio ac Adeiledig (2627135)

Cardiff Metropolitan University • Cardiff

On-site
GBP 46,000 - 52,000
Achlysurol
Gwyddonydd Labordy
Gwyddonydd Labordy

Severn Trent • Oswestry

On-site
GBP 26,000 - 38,000
Diwrnodau gwyliau 25
Bonws i £1,500 y flwyddyn
Pensiwn gwych
+3
Cydlynydd Iechyd Meddwl, Hunanladdiad a Hunan-niwed
Cydlynydd Iechyd Meddwl, Hunanladdiad a Hunan-niwed

Dyfed-Powys Police • Carmarthen

Hybrid
GBP 42,000 - 54,000
Gweithio hybride
Pensiwn
Ceir manteision eraill a gwiriadau llo
Swyddog Cymorth Addysgol
Swyddog Cymorth Addysgol

Gower College Swansea • Swansea

On-site
GBP 23,000 - 29,000
Llywodraeth Pensiwn Schemes
2 ddiwrnod lles i staff
Disgowntiau cwrs