Eine vollständige Bewerbung in einer Minute
Maßgeschneiderter Lebenslauf und Anschreiben – versandbereit.
South Wales Fire and Rescue Service yn chwilio am Swyddog Amlgyfrwng ac Ymgysylltu i gynhyrchu cynnwys gan ddefnyddio delweddau, fideos a graffeg ar sianeli digidol.
Bydd y rôl yn gofalu am ddatblygu cynnwys Cymraeg ac ar gyfer y cyfryngau cymunedol, gan gydweithio mewn tîm ac ar draws y gwasanaeth, i gefnogi cyfathrebu gyda phobl a chydweithwyr ledled Cymru.
Dylech chi gyflwyno eich cais erbyn: Dydd Gwener, 4ydd Rhagfyr 2026 am 12:00, canol dydd
Disgwylir i'r rhestr fer gael ei llunio: w.y.d 7fed Rhagfyr 2026
Disgwylir I’r cyfweliadau gael eu cynhaliaeth: w.y.d 16eg Rhagfyr 2026
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu blaengar, gan helpu i lunio'r ffordd yr ydym yn cysylltu â'n cymunedau a'n cydweithwyr drwy gynnwys amlgyfrwng creadigol a deniadol.
Rydym yn chwilio am Swyddog Amlgyfrwng ac Ymgysylltu newydd a fydd yn dod â'n Gwasanaeth a'i flaenoriaethau'n fyw drwy ffotograffiaeth, fideo, animeiddio, dylunio digidol ac adrodd storïau gweledol gafaelgar. Gan weithio ar draws ein Gwasanaeth, byddwch yn creu cynnwys o ansawdd uchel ar gyfer ymgyrchoedd a sianeli digidol, gan ddod o hyd i ffyrdd creadigol o adrodd straeon ein pobl, ein gwaith a'r gwahaniaeth yr ydym yn ei wneud yn ein cymunedau.
Mae hwn yn rôl amrywiol lle bydd pob dydd yn wahanol. Gallech fod yn creu cynnwys ar gyfer ymgyrch fawr, tynnu lluniau neu ffilmio fideo yn un o'n lleoliadau, datblygu graffeg ar gyfer ein sianeli digidol, neu gefnogi gweithgareddau cyfathrebu yn ystod digwyddiad gweithredol. Ni fyddwch yn ymateb i friffiau yn unig. Rydym eisiau rhywun a fydd yn gweld cyfleoedd, yn cynnig syniadau ac yn ein helpu i ddod o boslynnau a deniadol o gyrraedd ein cynulleidfaoedd.
Byddwch yn rhan o dîm cefnogol sy'n gwerthfawrogi creadigrwydd, cydweithio a gwelliant parhaus. Os ydych yn adroddwr straeon creadigol sy'n mwynhau troi syniadau yn cynnwys deniadol, yn ffynnu mewn amgylchedd prysur ac eisiau defnyddio eich sgiliau mewn rôl sy'n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hynod ddymunol, ac mae’r angen i ddatblygu cynnwys sy’n cofleidio’r iaith Gymraeg yn allweddol.Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio mewn modd hyblyg, a gallai fod angen gweithio rhai oriau gyda'r nos neu ar benwythnosau, er mwyn cyflawni'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau a nodir yn y disgrifiad swydd hwn yn effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi cyfathrebu ymateb ar gyfer Gwasanaeth Argyfwng sy'n gweithredu 24 awr y dydd.Mae cyfle i ymuno â Rota Ar Alwad i ddarparu cymorth i dimau gweithredol y tu allan i oriau gwaith arferol.Mae'r rôl hon yn golygu teithio'n aml rhwng safleoedd ar draws ardal De Cymru. Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio'n annibynnol.