Enable job alerts via email!

Rheolwr Prosiect - Project Manager

ZipRecruiter

Cardiff

Hybrid

GBP 48,000 - 53,000

Full time

Yesterday
Be an early applicant

Boost your interview chances

Create a job specific, tailored resume for higher success rate.

Job summary

An established industry player is seeking a Project Manager to join their innovative team in Cardiff or Llandudno. This hybrid role offers the chance to lead high-impact projects that shape the future of social care regulation in Wales. With a focus on collaboration, flexibility, and personal growth, you will manage complex projects while supporting a small team. Enjoy generous annual leave, a strong work-life balance, and the opportunity to influence meaningful change at a national level. If you are passionate about social care and project management, this role is perfect for you.

Benefits

28 diwrnod o wyliau blynyddol
Cynllun pensiwn llywodraeth leol
Polisi gwaith hyblyg
Gwyliau ychwanegol rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Qualifications

  • Profiad o reoli timau traws-swyddogaethol.
  • Dealltwriaeth o weithredwyr y sector cyhoeddus.

Responsibilities

  • Cyflawni prosiectau o fewn y Portffolio Rheoleiddio Proffesiynol.
  • Cydlynu a rheoli gwaith o gyflawni prosiectau.

Skills

Profiad o gyflawni prosiectau cymhleth
Gwybodaeth am egwyddorion rheoli prosiect
Sgiliau cyfathrebu rhagorol
Galluoedd profedig i weithio’n annibynnol

Education

Gradd berthnasol neu gymhwyster rheoli prosiect

Job description

Job Description

Rheolwr Prosiect

Caerdydd neu Gyffordd Llandudno (Hybrid)

Y Sefydliad

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, a data ac ymchwil i wella gofal. Trwy ein gwaith sicrhau ansawdd, rydym yn cefnogi addysgwyr gwaith cymdeithasol mewn lleoliadau addysg ac ymarfer, gan sicrhau'r lefel uchaf o hyfforddiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol.

Rydym nawr yn chwilio am Reolwr Prosiect i ymuno â ni ar gontract cyfnod penodol o ddwy flynedd, gan weithio 36 awr yr wythnos. Fodd bynnag, cynigir y rôl hon gyda gweithio hyblyg, a byddwn hefyd yn ystyried ymgeiswyr fel rhan o rannu swydd. Bydd y rôl hybrid hon wedi'i lleoli naill ai yn ein swyddfa yng Nghaerdydd neu yng Nghyffordd Llandudno, gydag opsiynau gweithio o bell.

Y Manteision

  • Cyflog o £48,134 - £52,966 y flwyddyn
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc (cynyddu gyda gwasanaeth)
  • Gwyliau ychwanegol rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
  • Cynllun pensiwn llywodraeth leol
  • Polisi gwaith hyblyg a darpariaethau absenoldeb teulu

Mae hwn yn gyfle gwych i reolwr prosiect profedig ymuno â'n sefydliad cefnogol, blaengar ac arwain prosiectau effaith uchel a fydd yn llywio dyfodol rheoleiddio gofal cymdeithasol yng Nghymru. Byddwch yn darganfod amgylchedd sy'n rhoi gwerth ar gydweithio, hyblygrwydd ac arloesedd, gan eich grymuso i reoli'ch gwaith mewn ffordd sy'n gweddu i'ch steil a rhoi'r llwyfan i chi ddylanwadu ar newid gwirioneddol ar lefel genedlaethol.

Ar ben hynny, gyda gwyliau blynyddol hael, a ffocws ar gydbwysedd bywyd a gwaith a thwf personol, bydd gennych gyfle i gymryd eich cam nesaf ac arwain gwelliant ar draws y sector.

Y Rôl

Fel Rheolwr Prosiect, byddwch yn cyflawni prosiectau o fewn ein Portffolio Rheoleiddio Proffesiynol, sy'n canolbwyntio ar wella sut rydym yn rheoleiddio ac yn cefnogi ymarfer gofal cymdeithasol. Gan ymgysylltu â chyflenwyr a rhanddeiliaid gofal cymdeithasol ar draws y diwydiant, byddwch yn diffinio, cynllunio a chyflawni prosiectau, tra hefyd yn cefnogi rheoli prosiectau ar gyfer prosiectau a ffrydiau gwaith perthnasol eraill. Byddwch yn cydlynu ac yn rheoli’r gwaith o gyflawni prosiectau o’r dechrau i’r diwedd, gan arwain tîm bach o staff prosiect a goruchwylio rheoli risg a dyrannu adnoddau.

Amdanoch Chi

Er mwyn i chi gael eich ystyried fel Rheolwr Prosiect, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Profiad o gyflawni prosiectau cymhleth a rheoli timau traws-swyddogaethol
  • Gwybodaeth am ystod o egwyddorion rheoli prosiect a dulliau gwerthuso
  • Dealltwriaeth gref o weithredwyr y sector cyhoeddus a deddfwriaeth Gymreig berthnasol
  • Profiad fel rheolwr llinell staff a chefnogi datblygiad tîm
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i gyflwyno gwybodaeth gymhleth yn glir
  • Galluoedd profedig i weithio’n annibynnol a rheoli blaenoriaethau cystadleuol
  • Gradd berthnasol neu gymhwyster rheoli prosiect gyda phrofiad sylweddol

Byddai’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn fanteisiol.

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 15 Mai 2025. Gellir gwneud addasiadau yn ystod unrhyw ran o'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, sy'n niwro-wahanol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â’r tîm Adnoddau Dynol i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.

Mae'n rhaid i chi fod wedi eich lleoli yn y DU i wneud cais am y rôl hon ac yn gallu ymweld ag un o'r swyddfeydd datganedig yn ôl yr angen.

Gellir galw'r rôl hon hefyd yn Arweinydd Prosiect, Rheolwr Prosiect Sector Cyhoeddus, Rheolwr Prosiect Gofal Iechyd, Rheolwr Prosiect Gofal, Rheolwr Newid a Chyflawni, neu Reolwr Gweithredu Prosiect.

Mae Webrecruit a Gofal Cymdeithasol Cymru yn gyflogwyr cyfle cyfartal, yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac wedi ymrwymo’n gryf i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth cyfartal i bob gweithiwr a phob ymgeisydd am gyflogaeth.

Get your free, confidential resume review.
or drag and drop a PDF, DOC, DOCX, ODT, or PAGES file up to 5MB.