Rheolwr Prosiect 50 Mlynedd o Dreftadaeth

WALLICH-CLIFFORD COMMUNITY

Cardiff

On-site

GBP 33,000 - 52,000

Full time

14 days+

A complete application in a minute

Tailored resume and cover letter, ready to send.

Get past ATS filters

Job summary

The Wallich yn dathlu 50 mlynedd ac mae'r rôl hon yn arwain prosiect treftadaeth i gydweithio gyda phobl ledled Cymru, chymunedau ac academyddion i gasglu a diogelu dogfennau, lluniau ac arteffactau sydd wedi siapio hanes Cymru.

Bydd y gwaith yn arwain at arddangosfa amlgyfrwng a gwaddol cenedlaethol, gan sicrhau bod storïau digartrefedd yn cael eu clywed fel rhan o hanes cenedlaethol a chydnerth cymunedol.

Responsibilities

  • Arwain prosiect treftadaeth a chydweithio gyda chymunedau Cymru i gludo gweledigaeth yn rhaglen ddeinamig a chyflawnadwy.
  • Cydlynu ymchwil, adrodd straeon llafar a chasgliad dogfennau, lluniau ac arteffactau er mwyn creu casgliad llywiedig.
  • Datblygu rhaglen arddangos amlgyfrwng a chynllun gwaddol cenedlaethol i sicrhau cydnabyddiaeth o bobl sydd â phrofiad bywyd.

Job description

50 Mlynedd o The Wallich - Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd
Neges gan Sian Aldridge, Y Prif Weithredwr

Wrth i The Wallich ddathlu ei ben-blwydd yn 50 oed, mae gennym gyfle pwysig i fyfyrio ar ein hanes ar yr un pryd ag edrych yn gadarn tuag at y dyfodol. Ers pum degawd, rydym ni wedi sefyll ochr yn ochr â phobl sy’n ddigartref ledled Cymru, gan herio anghyfiawnder, cynyddu lleisiau a gweithio i greu newid parhaol.

Mae’r rÿl hon yn ganolog i gofnodi’r etifeddiaeth honno. Drwy ddod â’r profiadau, yr atgofion a'r deunyddiau sydd wedi siapio ein sefydliad a stori ehangach digartrefedd yng Nghymru at ei gilydd, bydd y prosiect hwn yn helpu i sicrhau bod lleisiau sy’n cael eu hanwybyddu’n rhy aml yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u cadw am genedlaethau i ddod.

Fel y gwelwch drwy gydol y pecyn hwn, rydym ni’n chwilio am weithiwr treftadaeth proffesiynol profiadol ac arweinydd prosiect medrus sy’n gallu troi gweledigaeth uchelgeisiol yn rhaglen gynhwysol, rymus a chyflawnadwy. Byddwch yn gydweithredol ac yn chwilfrydig, yn gallu meithrin perthnasoedd dibynadwy ar draws cymunedau a sectorau, ac wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl sydd â phrofiad bywyd yn cael eu cydnabod fel awduron a cheidwaid eu hanes eu hunain.

Os ydych chi’n rhannu ein cred y gall treftadaeth herio canfyddiadau, cryfhau dealltwriaeth ac ysbrydoli newid, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Dyma gyfle prin i helpu i siapio casgliad ac arddangosfa o bwys cenedlaethol, ac i greu gwaddol parhaol wrth i The Wallich ddechrau ar ei 50 mlynedd nesaf.

Oriau Gwaith: 37.5 awr yr wythnos, Dydd Llun - Dydd Gwener 09:00-17:00 gyda rhywfaint o hyblygrwydd

Mae The Wallich yn elusen flaenllaw ym maes digartrefedd a chysgu allan yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith arloesol i gefnogi pobl ledled y wlad, ewch i wefan The Wallich. Dysgwch ragor am The Wallich, prif elusen ddigartrefedd Cymru www.thewallich.com/about-us.

Helpwch i greu casgliad cenedlaethol cyntaf Cymru sy’n ymroddedig i dreftadaeth ddigartrefedd.

Ers 50 mlynedd, mae The Wallich wedi sefyll ochr yn ochr â phobl sy’n ddigartref. Bydd y prosiect pwysig hwn yn dwyn ynghyd lleisiau, atgofion a deunyddiau a allai gael eu colli fel arall - a sicrhau bod pobl sydd â phrofiad bywyd yn cael eu cydnabod fel awduron a cheidwaid y rhan bwysig hon o hanes Cymru.

Gan weithio gyda chymunedau ledled Cymru, ochr yn ochr ag ymgyrchwyr arloesol, academyddion ac arbenigwyr treftadaeth, byddwn yn datgelu ac yn diogelu hanesion llafar, ffotograffau, dogfennau ac arteffactau. Gyda’i gilydd, bydd y rhain yn adrodd stori onest a phwerus am sut mae digartrefedd wedi newid dros y pum degawd diwethaf, a beth sydd angen ei newid o hyd i roi diwedd ar ddigartrefedd.

Bydd arddangosfa amlgyfrwng ddwyieithog, wedi’i llunio gan waith ymchwil gan gymheiriaid, adrodd straeon ar y cyd a mynegiant creadigol yn ganolog i’r prosiect. Bydd yn herio canfyddiadau, yn ehangu mynediad at dreftadaeth ac yn ysbrydoli sgyrsiau newydd am ddigartrefedd. Bydd y casgliad yn creu gwaddol cenedlaethol parhaol, gan sicrhau bod y profiadau hyn yn llywio dealltwriaeth y cyhoedd, arferion proffesiynol a newid am genedlaethau i ddod.

Yr effaith y byddwch yn ei chael

Dyma gyfle i siapio prosiect treftadaeth sydd o bwys cenedlaethol, o lawr gwlad i fyny.

Gyda chymorth grant cam datblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu Prosiect 50 Mlynedd o Dreftadaeth The Wallich ac yn helpu i droi gweledigaeth uchelgeisiol yn rhaglen ddiddorol a chyflawnadwy. Bydd eich gwaith yn ganolog i sicrhau cyllid cyfnod cyflenwi a chreu etifeddiaeth barhaol i Gymru.

Byddwch yn dod â phobl sydd â phrofiad bywyd, prifysgolion, sefydliadau treftadaeth, grwpiau cymunedol a chydweithwyr ar draws The Wallich at ei gilydd. Byddwch yn cydlynu gwaith ymchwil ac ymgysylltu, yn datblygu partneriaethau cryf ac yn sicrhau bod pob cam o’r prosiect yn cynhwysol, yn uchelgeisiol ac yn cael ei gyflawni i safon uchel.

Mae hon yn fwy na rÿl rheoli prosiect. Byddwch yn helpu i ddatgelu straeon nad ydynt wedi cael eu clywed yn aml, yn creu cyfleoedd i bobl adrodd eu hanes eu hunain ac yn dylanwadu ar sut mae digartrefedd yn cael ei ddeall yng Nghymru. Bydd y sylfeini rydych chi’n eu hadeiladu yn siapio casgliad cenedlaethol, arddangosfa gyhoeddus a dysgu a all lywio gwaith The Wallich a sgyrsiau ehangach am ddigartrefedd dros 50 mlynedd nesaf.

Os ydych chi’n weithiwr treftadaeth proffesiynol profiadol sy’n cyfuno arweinyddiaeth prosiect medrus âch chwilfrydedd, cydweithio ac ymrwymiad i adrodd straeon cynhwysol, dyma eich cyfle i greu rhywbeth sy’n wirioneddol arloesol.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Safonol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Sylwch: Mae hi’n hanfodol meddu ar drwydded yrru a cherbyd eich hun.

Ni fyddwn yn defnyddio asiantaethau i lenwi’r swydd hon a gofynnwn yn garedig i asiantaethau beidio â chysylltu yn cynnig helpu gyda llenwi’r swydd hon.

Yn The Wallich, rymid ni wedi ymrwymo’n llawn i gefnogi a gwella Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant i sicrhau bod gennym y gymuned orau bosib. Mae lle bob amser i esblygu a gwella ac rymid ni’n ymdrechu i greu amgylchedd lle gall yr holl staff ddod â’u hunain yn ddiffuant i’r gweithle. Rymid ni’n croesawu ac yn annog ceisiadau o bob cefndir ac os hoffech chi gael unrhyw gymorth gyda’ch cais neu i drafod unrhyw addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch chi, cysylltwch â recruitment@thewallich.net neu ffoniwch 02920 668 464.

Get your free, confidential resume review.

or drag and drop your file here.

Similar jobs

Similar jobs worth comparing

Rheolwr Prosiect 50 Mlynedd o Dreftadaeth
Rheolwr Prosiect 50 Mlynedd o Dreftadaeth

The Wallich • Wales

On-site
GBP 40,000 - 60,000
Rheolwr Prosiect Treftadaeth Cymru – Arweinydd Cydweithio
Rheolwr Prosiect Treftadaeth Cymru – Arweinydd Cydweithio

The Wallich • Wales

On-site
GBP 40,000 - 60,000
Partner Busnes Adnoddau Dynol – Projectau, Pob Safle Amgueddfa Cymru
Partner Busnes Adnoddau Dynol – Projectau, Pob Safle Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru – Museum Wales • Wales

On-site
GBP 35,000 - 45,000
Rheolwr Cofrestredig - Cartref Gofal Preswyl Hafan y Waun
Rheolwr Cofrestredig - Cartref Gofal Preswyl Hafan y Waun

Ceredigion County Council • Comins Coch

Hybrid
GBP 60,000 - 75,000
Recruitment bonus
Relocation package
Gweithiwr Cymorth
Gweithiwr Cymorth

Salvation Army USA • Merthyr Tydfil

On-site
GBP 27,000 - 32,000
Project Officer
Project Officer

Cardiff University • Cardiff

On-site
GBP 35,000 - 37,000
RHEOLWR SEILWAITH DDaTh (TGCh)
RHEOLWR SEILWAITH DDaTh (TGCh)

South Wales Fire and Rescue Service • Pontyclun

On-site
GBP 75,000 - 90,000
Rheolwr Cartref Gofal Preswyl - Plas Crigyll
Rheolwr Cartref Gofal Preswyl - Plas Crigyll

Isle of Anglesey County Council • Bryngwran

On-site
GBP 32,000 - 45,000
Rheolwr Cynorthwyol - Tîm Llety Diogel i Blant
Rheolwr Cynorthwyol - Tîm Llety Diogel i Blant

Ceredigion County Council • Penmorfa

On-site
GBP 28,000 - 36,000
Gwyliau blynyddol
Cymorth iechyd a lles
Cynllun pensiwn
Swyddog Datblygu Prosiectau a Busnes
Swyddog Datblygu Prosiectau a Busnes

Ceredigion County Council • Penmorfa

Hybrid
GBP 34,000 - 48,000
Gweithio Hybrid
Lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol
Pensiwn hael