Get a reply from this employer
Your resume and cover letter, tailored to exactly what they’re hiring for.
Ysgol Bro Pedr seeks a Data, Information Systems and Examinations Manager. You will ensure accurate and timely management of school data, information systems (MIS Bromcom) and examination processes, with reporting and analyses to support school decisions.
The role requires coordinating collection and validation work, acting as a key liaison between the school, awarding bodies, local authorities and information system providers, ensuring statutory compliance and safeguarding obligations are met.
Prif bwrpas rôl Rheolwr Data, Systemau Gwybodaeth ac Arholiadau ein hysgol bydd sicrhau bod data, systemau gwybodaeth yr ysgol, data perfformiad a threfniadau arholiadau yn cael eu rheoli'n gywir, yn effeithlon ac yn unol â gofynion statudol. Mae'r rôl yn gyfrifol am gynnal uniondeb a dibynadwyedd data'r ysgol, datblygu a rheoli ein systemau gwybodaeth reoli (MIS) sef Bromcom, darparu adroddiadau a dadansoddiadau i gefnogi penderfyniadau ar bob lefel, a sicrhau bod holl brosesau arholiadau mewnol ac allanol yn cael eu gweinyddu'n effeithiol ac yn unol â rheoliadau cenedlaethol. Bydd deiliad y rôl hefyd yn darparu arweiniad technegol ac ymarferol ar ddefnydd systemau data, yn cydlynu prosesau casglu a dilysu gwybodaeth ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol rhwng yr ysgol, cyrff dyfarnu, awdurdodau lleol a darparwyr systemau gwybodaeth. Trwy sicrhau bod gwybodaeth gywir, amserol a hygyrch ar gael, mae'r rôl yn gwneud cyfraniad hanfodol at effeithlonrwydd gweithredol, cydymffurfiaeth statudol a chefnogi blaenoriaethau strategol yr ysgol.
Pecyn Gwybodaeth [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106998.pdf]
Am fwy o wybodaeth neu i drefnu ymweliad cysyllter â’r Pennaeth, Mrs Carys Morgan, drwy ebost ar MorganC506@hwbcymru.net neu drwy ffonio’r ysgol ar 01570 422214
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwchna fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.