Get a reply from this employer
Your resume and cover letter, tailored to exactly what they’re hiring for.
Ceredigion County Council invites applications for a full-time Corporate Support Team role within the Growth and Assets Directorate. The post focuses on administrative support, data integrity, and document production for land and property matters, with strong reliance on Civica systems and Microsoft 365 tools.
The successful candidate will have at least 3 years’ experience in a local government or administrative setting, and possess 5 GCSEs or equivalent.
Mae cyfle llawn amser wedi dod ar gael yn y Tîm Cymorth Corfforaethol i Wasanaethau. Mae’r Gwasanaeth Cefnogi Corfforaethol yn darparu cefnogaeth weinyddiol i bob rhan o\'r Cyngor, ond bydd y rôl hon yn bennaf yn darparu cefnogaeth i\'r gwasanaeth Rheoli a Datblygu Asedau, o fewn Uned Twf a Menter y Cyngor Sir, sy\'n ymwneud â defnydd tir ac adeiladau sy\'n eiddo i\'r Cyngor. Bydd hefyd gyfle i gynorthwyo\'r gwasanaeth Twf a Menter ehangach pan fo angen.
Am y rôl:
Mae\'r rôl yn gofyn am ddefnydd rheolaidd o systemau meddalwedd, gan gynnwys Civica Financials, Civica Purchasing, Asset Manager a Microsoft 365, yn benodol Excel, Outlook a Microsoft Teams. Bydd cynnal cofnodion a chronfeydd data electronig cywir, echdynnu gwybodaeth o daenlenni a systemau CRM, a chynhyrchu dogfennau o safon broffesiynol uchel gyda chywirdeb a sylw i fanylion yn hanfodol i\'r swydd. Bydd gwybodaeth ymarferol dda o Excel ar gyfer creu, fformatio a hidlo taenlenni yn hanfodol.
Mae\'r rôl yn cefnogi ceisiadau i ddefnyddio tir ac eiddo\'r Cyngor, gan wirio bod y ddogfennaeth yn gyflawn ac yn cyrraedd y safon ofynnol cyn iddi gael ei hadolygu. Yn dilyn cymeradwyaeth, bydd deiliad y swydd yn paratoi ac yn cyhoeddi trwyddedau ac yn diweddaru\'r cofnodion perthnasol.
Fel pwynt cyswllt cyntaf, bydd deiliad y swydd yn monitro ac yn ymateb i gyfathrebiadau drwy Outlook a system Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor, CLIC, yn cydnabod derbyn gohebiaeth, yn cofnodi cyfnewidiadau ac yn cyfeirio ymholiadau at y swyddogion neu wasanaethau perthnasol o fewn y Cyngor.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac uchel ei gymhelliant gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad yn gweithio mewn lleoliad awdurdod lleol neu weinyddol, ynghyd ag o leiaf 5 TGAU neu gymhwyster cyfwerth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhagweithiol, gyda sgiliau gweinyddol, trefnu, cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid cryf. Bydd yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith, trin gwybodaeth gyfrinachol yn briodol, gweithio\'n annibynnol ac mewn partneriaeth ag eraill, cefnogi cydweithwyr, a meithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda chydweithwyr a chwsmeriaid er mwyn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel.
Byddai cefndir mewn eiddo yn fantais amlwg.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i\'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysgydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon, ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â\'ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a\'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion i weithwyr, gan gynnwys gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae rhagor o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar gael yma [https://careers.ceredigion.gov.uk/cy/bywyd-ceredigion/yr-hyn-a-gynigiwn/].
Cynhelir cyfweliadau wythnos ddechrau 04/01/2027.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106843.pdf]
Pecyn Gwybodaeth Tîm Ceredigion [https://pecyn.careers.ceredigion.gov.uk/]
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Keith Dale -keith.dale@ceredigion.gov.uk
Rydym wedi ymrwymo ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn peryglFel rhan o\'r ymrwymiadhom,maerhairolauofewnein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesau addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.