Cynorthwyydd Ymchwil
Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd
Swydd yw hon i gynorthwyo gyda'r cyfraniad at ymchwil i gadwyn gyflenwi hydrogen ac integreiddio systemau hydrogen, gan ymgymryd â gwaith cefnogi sy'n helpu i arwain at gyhoeddi ymchwil o safon uchel. Bydd yn ymdrechu i wneud ymchwil o’r safon uchaf ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.
Swydd amser llawn, (35 awr yr wythnos), yw hon sydd ar gael o 1 Hydref 2025, ac mae am gyfnod penodol tan 30 Medi 2028.
Cyflog: £33,482 - £36,130 y flwyddyn (Gradd 5). Nid ydym yn rhagweld y byddwn yn penodi rhywun i’r swydd hon uwchlaw pwynt 5.25, Pwynt Cychwyn cyflog Gradd 5, sef £33,482 y flwyddyn.
Os oes gennych ymholiadau anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Dr Y Zhou drwy e-bostio ZhouY68@caerdydd.ac.uk
I gael rhagor o fanylion am weithio yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, cysylltwch â Karen Baldwin/Chiara Riolo/Bev Jones drwy e-bostio Enginadmin@caerdydd.ac.uk
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 30 Gorffennaf 2025
Dyddiad cau: Dydd Mercher, 27 Awst 2025
Mae gan Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd Wobr Efydd Athena SWAN sy'n cydnabod arferion cyflogi da ac ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod sy’n gweithio ym maes gwyddoniaeth. Cyflogwr cyfle cyfartal yw Prifysgol Caerdydd sy’n annog ceisiadau gan unigolion cymwys heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol neu feichiogrwydd a mamolaeth. Rydym yn annog menywod yn enwedig i ymgeisio am y swydd hon. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer cyfleoedd i rannu swydd neu weithio’n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Prif Ddyletswyddau
Disgrifiad Swydd
- Ymgymryd ag ymchwil i gadwyn gyflenwi hydrogen ac integreiddio systemau hydrogen gan ddefnyddio technolegau gwybodaeth a rheoli logisteg, e.e. trwy gynllunio, paratoi, trefnu, cynnal a chofnodi canlyniadau ymchwil ddesg.
- Bod yn weithgar yn y tîm ymchwil drwy gyfleu a chyflwyno ymchwil mewn cyfarfodydd, mewn cyhoeddiadau ac mewn ffyrdd priodol eraill fel y bo’n briodol, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyfleu’n effeithiol i bartneriaid mewnol ac allanol.
- Cyfrannu at gyflwyniadau a chyhoeddiadau ymchwil a chefnogi’r rhain yn ôl y gofyn.
- Cyfrannu at geisiadau am gyllid ymchwil a chefnogi’r rhain yn ôl y gofyn.
- Dadansoddi a chyfleu syniadau, cysyniadau a data cymhleth gan ddefnyddio dulliau a phecynnau priodol. Datrys problemau a helpu cydweithwyr i ddatblygu’r gweithdrefnau sydd eu hangen i gyflwyno adroddiadau cywir ac amserol.
- Sicrhau cynnyrch ymchwil a chyfrannu at ddatblygu syniadau annibynnol a gwreiddiol fel y bo'n briodol Cefnogi gweithgareddau ymchwil ar gyfer cyrsiau israddedig a rhaglenni ymchwil a rhoi arweiniad i aelodau eraill o staff y tîm ymchwil.
- Cynnal a diweddaru eich gwybodaeth arbenigol, gan ymchwilio i’r llenyddiaeth berthnasol yn y maes a’i hadolygu’n feirniadol
Arall
- Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau'r Ysgol er mwyn hyrwyddo'r Ysgol a'i gwaith ledled y Brifysgol a thu hwnt
- Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn modd priodol a fydd yn gwella perfformiad.
- Sicrhau eich bod yn defnyddio eich dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob un o’ch dyletswyddau.
- Cydymffurfio â pholisïau’r Brifysgol ar iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy'n cyd-fynd â'r swydd.
PWYSIG: Tystiolaeth o Fodloni'r Meini Prawf
Dylai ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni POB UN maen prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol pan fo’n berthnasol.
Yn rhan o’ch cais, gofynnir ichi roi’r dystiolaeth honno ar ffurf datganiad ategol. Wrth gyflwyno'r ddogfen hon neu ei rhoi ynghlwm wrth broffil eich cais, dylech sicrhau mai cyfeirnod y swydd yw enw’r ddogfen. Yn achos y swydd hon, y cyfeirnod yw
20460BR.
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
- Gradd MSc mewn disgyblaeth berthnasol, neu radd israddedig mewn disgyblaeth berthnasol gyda phrofiad diwydiannol ar y gadwyn gyflenwi a rheoli logisteg
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
- Gwybodaeth am ddulliau a thechnegau ymchwil o fewn systemau ynni carbon isel a rheoli logisteg
- Y gallu diamheuol i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth a chrynhoi'n briodol
- Gwybodaeth am gyllid ymchwil cystadleuol a dealltwriaeth ohono er mwyn gallu paratoi ceisiadau i’w cyflwyno i gyrff cyllido
Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
- Sgiliau cyfathrebu diamheuol, gan gynnwys y gallu i gyflwyno i gynulleidfaoedd gwahanol
- Sgiliau trefnu a gwaith tîm ardderchog
Arall
- Y gallu diamheuol i fod yn greadigol, yn arloesol a gweithio mewn tîm yn y gwaith
Meini Prawf Dymunol
- Tystiolaeth o weithio mewn diwydiant neu gydweithio â byd diwydiant
- Tystiolaeth o weithio mewn sefydliad ymchwil
- Y gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth agos
- Gallu diamheuol ar gyfer arloesi.