Enable job alerts via email!

Project Engineer

YGC

Caernarfon

On-site

GBP 38,000 - 41,000

Full time

3 days ago
Be an early applicant

Job summary

Ymgynghoriaeth Gwynedd yn Caernarfon yn chwilio am Beiriannydd Prosiect profiadol i ddatblygu a chynnal prosiectau adeiladu yn unol â'r rheolau iechyd a diogelwch. Mae'r swydd yn gofyn am gradd neu HND yn y maes ac mae'n cynnig cyflog o £38,626 i £40,476 y flwyddyn, gyda dyletswyddau rheoli a chydweithio ag eraill.

Qualifications

  • Gradd neu HND mewn pwnc amgylchedd adeiledig neu brofiad perthnasol mewn diwydiant.
  • Cymwysterau proffesiynol i statws Eng Tech, neu gyfwerth.
  • Profiad perthnasol mewn agweddau o gyflawni rheoli Prosiectau adeiladu.

Responsibilities

  • Datblygu a chynnal perthynas ymarferol a phroffesiynol gyda phrif gleientiaid.
  • Paratoi amcangyfrifon costau a chynnal asesiadau risg.
  • Gweithredu fel Goruchwylydd gwaith ar safleoedd adeiladu pan fo angen.

Skills

Gwybodaeth am ddyletswyddau a chyfrifoldebau CDM
Sgiliau TG
Profiad o reoli prosiectau

Education

Gradd neu HND mewn pwnc amgylchedd adeiledig
Cymwysterau proffesiynol i statws Eng Tech

Job description

Teitl swydd / Job title: Peiriannydd Prosiect / Project Engineer

Adran / Directorate: Priffyrdd, Peirianneg ac YGC / Highways, Engineering and YGC

Gwasanaeth / Service: YGC - Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy

Dyddiad cau / Closing date: 08/08/2025 10:00

Math Swydd /Oriau / Job type/Hours: Parhaol/ Permanent | 37 Hour

Cyflog / Salary: £38,626 - £40,476 y flwyddyn / a year

Lleoliad / Location: Caernarfon

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais ar wefan Cyngor Gwynedd, neu'r ffurflenni cais y gofynnir amdanynt gan y Gwasanaeth Cefnogol. Ni fydd unrhyw geisiadau neu CVs a gyflwynir trwy LinkedIn yn cael eu hasesu.

Applicants must complete the application form on the Cyngor Gwynedd website, or Application forms requested from the Support Services. Any applications or CVs submitted through LinkedIn will not be assessed.

Prif ddyletswyddau

  • Datblygu a chynnal perthynas ymarferol a phroffesiynol gyda phrif gleientiaid.
  • Paratoi amcangyfrifon costau, cynnal asesiadau risg, cynllunio gofynion staff archwilio, cynhyrchu rhaglenni a rhagolygon gwariant. Monitro cynnydd gwirioneddol yn erbyn y rhagolygon a chymryd camau adferol angenrheidiol i gyflawni cyflawniad y prosiect yn unol â'r briff gofynnol ac mewn cydymffuriaeth â'r Gweithdrefnau Rheoli Prosiect.
  • Bod yn weithgar wrth ddatblygu a monitro'r Cynllun Busnes er mwyn sicrhau bod yr uned yn gweithredu hyd eithaf ei gallu a bod targedau allweddol yn cael eu cyflawni.
  • Gweithredu fel Goruchwylydd gwaith ar safleoedd adeiladu pan fo angen ac i ymgymryd â chyfrifoldebau a dyletswyddau dirprwyedig yn unol â gofynion y swydd.
  • Cynorthwyo i ddatblygu a chynnal y ddogfen contract model
  • Ymgymerodra â'r dyletswyddau sy'n ofynnol dan Reoliadau CDM.
  • Rheoli a chynorthwyo i reoli prosiectau Lefel 2+3.
  • Cynnal astudiaethau dichonoldeb, casglu data, ymchwiliadau cychwynnol, asesiadau technegol, a gweithdrefnau dylunio, gweinyddol, ansawdd ac ariannol ar gyfer gwaith fydd yn cael ei wneud ar ran y Cleient.
  • Sicrhau bod prosiectau yn cydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
  • Goruchwylio rheolaeth ariannol, gweinyddol a thechnegol gwaith adeiladu, ymchwilio, asesu neu waith cynnal a chadw a wneir ar ran y Cleient. Cynorthwyo wrth ddatrys materion cytundebol ar ran cleientiaid.
  • Datblygu arbenigedd yn yr holl systemau a meddalwedd cyfrifiadurol perthnasol.
  • Cysylltu â gwasanaethau eraill, cyfadrannau eraill, Aelodau’r Cyngor, ymgymerwyr statudol, awdurdodau eraill, sefydliadau allanol, ac unigolion sy’n ymwneud â holl agweddau’r gwaith.
  • Rheoli, goruchwylio ac arwain gwaith a datblygiad staff fel rhan o dîm prosiect.
  • Adrodd i uwch staff, a derbyn cyfarwyddiadau ganddynt.
  • Dyletswyddau gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n berthnasol, ac yn gymesur ag awdurdod y swydd.
  • Cyfrifol am hunan ddatblygiad.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
  • Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
  • Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
  • Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

........

Main duties

  • Develop and maintain a practical and professional relationship with principal clients.
  • To prepare cost estimates, carry out risk assessments, plan project staff requirements, produce programmes and expenditure forecasts. Monitor actual progress against forecasts and take necessary remedial action to fulfill the delivery of the project to the required brief and in compliance with the Project Management Procedures.
  • To be pro-active in the development and monitoring of the Business Plan to ensure optimum performance of the unit and that key targets are achieved
  • To act as the Supervisor for works on construction sites when required and to undertake delegated responsibilities and duties accordingly
  • Assist to develop and maintain the model contract document
  • To undertake the duties required by the CDM Regulations.
  • To manage and assist in the management of Level 2+3 projects.
  • To carry out feasibility studies, data collection, preliminary investigations, technical assessment, design, administrative, quality and financial procedures for works to be carried out on behalf of the Client.
  • Ensure that projects comply with health and safety and environmental legislation and regulations.
  • The supervision of financial, administrative and technical control of works of construction, investigation, assessment or maintenance executed on behalf of the Client. To assist in the resolution of contractual issues on behalf of clients
  • To develop an expertise in all relevant computer systems and software.
  • To liaise with other services, other directorates, Council Members, statutory undertakers, other authorities, external organisations, and individuals concerning all aspects of the works
  • To manage, supervise and guide the work and development of staff as part of a project team.
  • To report to, and receive instructions from senior staff
  • Other relevant administrative and professional duties commensurate with the seniority of the post.
  • Responsibility for self-development.
  • Ensure compliance with Health and Safety rules in the workplace in accordance with the responsibilities noted in the Health and Safety at Work Act 1974 and the Council’s Health and Safety Policy.
  • Operate within the Council’s policies in relation to equal opportunities and equality.
  • Responsible for managing information in accordance with the Council’s information management guidelines. Ensure that personal information is treated in accordance with Data Protection legislation.
  • Commitment to reducing the Council’s carbon emissions in accordance with the Carbon Management Plan, and to encourage others to act positively towards reducing the Council’s Carbon Footprint.
  • Undertake any other reasonable duty which corresponds to the salary level and responsibility level of the job.

.............

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol

  • Gradd neu HND mewn pwnc amgylchedd adeiledig neu brofiad perthnasol mewn diwydiant.
  • Cymwysterau proffesiynol i statws Eng Tech, neu gyfwerth.

Dymunol

  • Yn gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol i statws IEng neu gyfwerth.
  • Profiad perthnasol
  • Hanfodol
  • Profiad mewn agweddau o gyflawni rheoli Prosiectau adeiladu.
  • Profiad o ddatblygu prosiectau dylunio.
  • Profiad o reoli rhan o brosiectau adeiladu, gan gynnwys rheolaeth ariannol.
  • Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
  • Hanfodol
  • Gwybodaeth am ddyletswyddau a chyfrifoldebau CDM.
  • Profiad o weithio o fewn y ddeddfwriaeth berthnasol.
  • Sgiliau TG.
  • Profiad a dealltwriaeth o raglenni prosiectau.

Dymunol

  • Profiad o reoli prosiectau.
  • Profiad o oruchwylio timau prosiect.
  • Gallu adnabod blaenoriaethau o fewn rhaglenni gwaith.
  • Gwybodaeth am NEC/ECC/JCT neu ffurfiau eraill o gontractau.

Anghenion ieithyddol

Gwrando a Siarad - Sylfaen

Gallu cynnal sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yng nghyd-destun pob dydd y swydd gan ddefnyddio geirfa benodol sy'n codi'n rheolaidd er mwyn cyflwyno gwybodaeth. Gallu cyflwyno gwybodaeth syml drwy gyfwng y Gymraeg a’r Saesneg sydd wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i gwestiynau.

Darllen a Deall - Sylfaen

Darllen a deall negeseuon syml a thaflenni gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg sy'n ymwneud â'r swydd, a deall adroddiadau byr a syml ar bwnc cyfarwydd.

Ysgrifennu - Sylfaen

Gallu llenwi ffurflen syml a llunio llythyr neu neges ebost byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg drwy ddefnyddio cyfres o frawddegau allweddol i gyfleu gwybodaeth syml.

Get your free, confidential resume review.
or drag and drop a PDF, DOC, DOCX, ODT, or PAGES file up to 5MB.