Una candidatura completa en un minuto
Currículum y carta de presentación personalizados, listos para enviar.
Isle of Anglesey County Council yn chwilio am bennaeth i oruchwylio a rheoli'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol i gefnogi'r prif swyddog gweithredol archwilio, ac yn unol â safonau perthnasol, trwy gyflawni'r Strategaeth Archwilio Mewnol a darparu gwasanaeth o ansawdd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i sicrhau trefniadau llywodraethu, rheoli risg a rheolaethau mewnol cadarn ac effeithiol ar waith gan y Cyngor er mwyn ei gynorthwyo i gyflawni ei amcanion.
Bydd y dolenni hyn yn agor tab newydd yn eich porwr.
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae'n ymwneud â gwella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy'n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy'n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu'r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy'n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni'n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o'r buddion y gallwn eu cynnig i'n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Goruchwylio a rheoli'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol i cefnogi'r prif swyddog gweithredol archwilio, ac yn unol â'r safonau proffesiynol perthnasol, trwy gyflawni'r Strategaeth Archwilio Mewnol a darparu gwasanaeth o ansawdd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i s icrhau fod trefniadau llywodraethu, rheoli risg a rheolaethau mewnol cadarn ac effeithiol ar waith gan y Cyngor er mwyn ei gynorthwyo i gyflawni ei amcanion.
Dirprwyo yn absenoldeb prif swyddog gweithredol archwilio'r Cyngor, fel y rhagnodir yn y safonau proffesiynol perthnasol.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth agofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn cyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r fanyleb person i'ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Mae'r dogfennu atodedig ar gael yn y linciau. Bydd clicio ar linc dogfen yn cychwyn ei lawrlwytho.