Get a reply from this employer
Your resume and cover letter, tailored to exactly what they’re hiring for.
Cyngor Sir Ynys Môn yn recriwtio Gweithiwr Gofal Preswyl i ddarparu gofal o ansawdd i blant ac i bobl ifanc sy’n derbyn gofal a rhagweithiol i weithio mewn cartref preswyl ar Ynys Môn. Bydd y rôl yn sicrhau amgylchedd diogel, cefnogi anghenion dyddiol, a chydweithio gyda thîm i gyflawni cynlluniau a datblygiad personol, gyda ffocws ar les y cartref a chymunedol.
Mae DBS lefel uwch yn cael ei ofyn ac mae angen gallu siarad Cymraeg neu French?
Bydd y dolenni hyn yn agor tab newydd yn eich porwr.
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Sicrhau bod Plant a Phobl Ifanc sy’n Derbyn Gofal (LAC) gyda Chynllun parhaol i fyw mewn cartref preswyl ar Ynys Môn, yn derbyn y lefelau a’r safonau priodol o ofal a chymorth a chreu amgylchedd hapus, diogel a chefnogol i’r unigolion hynny. Mae hyn yn cynnwys cyflawni pob math o weithgareddau a dyletswyddau dros gyfnod o 24 awr (yn cynnwys cysgu dros nos neu weithio drwy’r nos ac oriau anghymdeithasol).
Wrth i blant/bobl ifanc y Cartrefi Clyd baratoi i fyw’n annibynnol bydd y Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant yn parhau i ddarparu cymorth ymarferol, gofal a chefnogaeth i alluogi’r unigolion, pan fyddant yn barod ac yn ddigon abl i wneud hynny ar ôl troi’n 18 oed, i fyw’n annibynnol yn y gymuned.
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth agofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Mae'r dogfennu atodedig ar gael yn y linciau. Bydd clicio ar linc dogfen yn cychwyn ei lawrlwytho.