Get a reply from this employer
Your resume and cover letter, tailored to exactly what they’re hiring for.
Mae Grŵp Cynefin yn chwilio am Bennaeth Cyllid i ddarparu arweinyddiaeth ariannol strategol dros y sefyddiad, lle bydd llywodraethu a therwydd hirdymor yn flaenoriaeth. Bydd y rôl yn arwain datblygiad swyddogaeth gyllid modern a gwella perfformiad busnes.
Rhowch sylw i weithio’n Parhaol yng nghyd-destun lleoliadau Dinbych a Phenygroes, gyda 35 awr yr wythnos a weithgareddau adre. Cynnig cyflog hyd at £75,000 y flwyddyn, DBS, a buddion penodol megis pensiwn SHPS a dysgu ostadwy.
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Gr ŵ p Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.
Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.
Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.
Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.
Gyda dros 300 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn cyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.
Fel Pennaeth Cyllid byddwch yn darparu arweinyddiaeth ariannol strategol, gan sicrhau stiwardiaeth ariannol gadarn, llywodraethu cryf a chynaliadwyedd hirdymor ar draws y sefydliad. Fel aelod allweddol o'r tîm arweinyddiaeth, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth yrru trawsnewid sefydliadol, gan arwain datblygiad swyddogaeth cyllid fodern, berfformiad uchel sy'n cael ei llywio gan fewnwelediad. Trwy arloesi, gwelliant parhaus a gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata, byddwch yn moderneiddio systemau a phrosesau, yn gwella perfformiad busnes ac yn galluogi cyflawni ein huchelgeisiau strategol
Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: Cystadleuol hyd at £75,000 y flwyddyn yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad:Dinbych a Penygroes / Gweithio adre
Oriau Gweithio:35 awr yr wythnos
Gwyliau: 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn ynghyd â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Pensiwn: Mae Grŵ p Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Mae sgiliau Cymraeg sylfaenol, neu barodrwydd acymrwymiad i ddatblygu sgiliau Cymraeg, yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Darperircefnogaeth i helpu deiliad y swydd i ddatblygu ei hyder a’i allu yn y Gymraeg.
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfeinol / Safonol / Manwl / Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Adnoddau - Cyllid
Hyd at £75,000 y flwyddyn yn ddibynnol ar brofiad./Up to £75,000 per annum depending on experience