Hyfforddai Graddedig: Adnoddau Dynol

NPTC Group

Cilfrew

On-site

GBP 28,000 - 35,000

Full time

3 days ago
Be an early applicant

Get a reply from this employer

Your resume and cover letter, tailored to exactly what they’re hiring for.

Get past ATS filters

Benefits offered by this job

Cyflog cystadleuol
Pensiwn buddiol gyda buddion
Gwyliau hael

Job summary

Grwp Colegau NPTC yn cyflwyno rôl Graddedig Adnoddau Dynol yng Nghymru. Mae hwn yn gyfle i ymuno â thîm AD a pharatoi sgiliau practis yng nghydweithrediad â myfyrwyr a chymunedau.

Rhowch gynnig ar raddedigaeth gyda thâl o £31,455 y flwyddyn, 37 awr yr wythnos, contract tymor penodol 2 flynedd. Gradd mewn disgyblaeth berthnasol a chytundeb CIPD Lefel 5 neu Lefel 7 (hyfforddiant ar gael) a thâl GCSE Lef 2 mewn Mathemateg/Saesneg.

Qualifications

  • Gradd mewn disgyblaeth berthnasol.
  • Dygwch ar gyfer cymhwyster CIPD Lefel 5 neu Lefel 7 (hyfforddiant ar gael).
  • Dylid bod â thagwyddoldeb Lef 2 mewn Mathemateg a Saesneg (GCSE neu gyfwerth).

Responsibilities

  • Cynorthwyo tîm Adnoddau Dynol gyda gweithgareddau amrywiol.
  • Datblygu gwybodaeth a sgiliau i feithrin gyrfa AD.
  • Ymuno â darpariaeth darlun o waith a datblygu prosesau AD fel rhan o dîm.

Education

Degree mewn disgyblaeth berthnasol
CIPD Lefel 5 neu Lefel 7
Maths a Saesneg (GCSE neu gyfwerth)

Job description

Hyfforddai Graddedig: Adnoddau Dynol

Benefits: Cyflog cystadleuol, cynllun pensiwn â buddion wedi'u diffinio, gwyliau hael

Ydych chi'n barod i ddechrau eich gyrfa mewn Adnoddau Dynol?

Rydym yn chwilio am berson graddedig brwdfrydig a chymhellol i ymuno â'n tîm AD. Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd wedi graddio yn ddiweddar ennill profiad ymarferol ar draws ystod eang o weithgareddau AD wrth ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn Adnoddau Dynol.

Graddfa 4, Pwynt Sefydlog, £31,455 y flwyddyn.

37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).

Contract tymor penodol am 2 flynedd.

Ynglyn â chi: Bydd gennych radd mewn disgyblaeth berthnasol a byddwch yn barod i ymgymryd â chymhwyster CIPD ar Lefel 5 neu Lefel 7, pa un bynnag sy'n briodol (darperir hyfforddiant). Dylech feddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (TGAU neu gyfwerth) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 3.

Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

Pam gweithio i ni?

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu o leiaf £10 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.

Mae'r lwfans gwyliau yn rhagorol o flwyddyn 1. Mae gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn (yn codi i 32 ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth), ac oherwydd ein bod yn cau'r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod ychwanegol o wyliau. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol. Dyma yw cydbwysedd bywyd a gwaith!

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabathol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae'r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant pwrpasol, sy'n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad at amrywiaeth o adnoddau llesiant am ddim.

Mae parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.

Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

Get your free, confidential resume review.

or drag and drop your file here.

Similar jobs

Similar jobs worth comparing

Asesydd: Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant (Dwyieithog)
Asesydd: Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant (Dwyieithog)

NPTC Group • Port Talbot

On-site
GBP 32,000 - 35,000
Pensiwn Leol
Gwyliau pryfoc
Buddugoliaeth iechyd galwedigaethol
Darlithydd: Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant (Cyfnod Mamolaeth)
Darlithydd: Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant (Cyfnod Mamolaeth)

NPTC Group • Newtown

On-site
GBP 26,000 - 48,000
Cyflog cystadleuol
Pensiwn buddiol
Gwyliau hael
Gweithiwr Lletygarwch
Gweithiwr Lletygarwch

NPTC Group • Cilfrew

On-site
GBP 29,000 - 36,000
Gwyliau hael
Cynllun pensiwn buddiol
Hyfforddwr: Gwaith Coed a Gwaith Saer
Hyfforddwr: Gwaith Coed a Gwaith Saer

NPTC Group • Cilfrew

On-site
GBP 32,000 - 35,000
Pensiwn Llywodraeth Leol
Pensiwn Athrawon
41 diwrnod o wyliau blynyddol (yg codi
+1
Hyfforddwr: Gwaith Coed a Gwaith Saer
Hyfforddwr: Gwaith Coed a Gwaith Saer

NPTC Group • Newtown

On-site
GBP 32,000 - 35,000
Pension plan
Generous holidays
Flexible working options
Nyrs Feithrinfa
Nyrs Feithrinfa

NPTC Group • Cilfrew

On-site
GBP 14,000 - 21,000
Pension plan
Holiday entitlement 36 days
Flexible working options
+1
Hyfforddwr Sgiliau Astudio
Hyfforddwr Sgiliau Astudio

NPTC Group • Newtown

On-site
GBP 29,000 - 31,000
Pensiwn buddiol
Gwyliau hael
Hyfforddwr: Bricwaith
Hyfforddwr: Bricwaith

NPTC Group • Newtown

On-site
GBP 32,000 - 35,000
Pension scheme
Mulitple holidays 28...
41-lan gwyliauâ? 32 diwrnod dros 5 mлы
Cynorthwyydd Cymorth Astudio
Cynorthwyydd Cymorth Astudio

NPTC Group • Port Talbot

On-site
GBP 23,000 - 29,000
Cyflog cystadleuol
Cynllun pensiwn â buddion wedi'u diffd
Gwyliau hael
Hyfforddwr Sgiliau Astudio
Hyfforddwr Sgiliau Astudio

NPTC Group • Cilfrew

On-site
GBP 29,000 - 31,000
Competitive salary
Defined benefit pension plan
Generous holidays