Una candidatura completa en un minuto
Currículum y carta de presentación personalizados, listos para enviar.
Mae NPTC Group yn chwilio am Hyfforddwr Sgiliau Astudio i fod yn rhan o''n teulu cymorth i fyfyrwyr yng Ngholegau Newydd Drenewydd. Mae''r rôl yn rhan-amser, pro rata, gyda threfn gwaith 37.8 awr yr wythnos a dechrau cyfnod tan 31 Gorffennaf 2027.
Rhaid i ymgeiswyr fod â chymhwyster Lefel 4 mewn disgyblaeth berthnasol a chymhwyster Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg, ynghyd â gallu gweithio gyda myfyrwyr, cynllunio a chyflwyno gweithdai.
Benefits: Cyflog cystadleuol, cynllun pensiwn â buddion wedi'u diffnio, gwyliau hael
Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau myfyrwyr? Ymunwch â'n teulu cymorth i fyfyrwyr fel Hyfforddwr Sgiliau Astudio! Rydym yn chwilio am unigolion cyfeillgar, brwdfrydig sy'n awyddus i greu amgylchedd meithringar a chefnogol. Os oes gennych awydd i helpu eraill i lwyddo, mae'r rôl hon yn berffaith i chi!
Graddfa 4, Pwyntiau 21 - 24, £29,209 - £31,455 y flwyddyn (pro rata) (cyfwerth â £19,918 - £21,450 y flwyddyn).
Rhan-amser, rhan o'r flwyddyn, 37.8 wythnos y flwyddyn, cyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2027.
30 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).
Grwp Colegau NPTC (wedi'i leoli i ddechrau yng Yng Drenewydd).
Ynglyn â chi: Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster Lefel 4 mewn disgyblaeth berthnasol, a phrofiad perthnasol. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gymhwyster cyfatebol) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2 (gyda gwybodaeth ymarferol o MS Office). Mae profiad o ddatblygu, cynllunio a chyflwyno gweithdai yn hanfodol yn ogystal â phrofiad o weithio mewn rôl sy'n ymdrin â myfyrwyr. Byddai Sgiliau Sylfaenol 9297 lefel 2 (neu gyfwerth) yn fanteisiol.
Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.
Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.
Yn ychwanegol â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Mae'r rhain yn cael eu gweinyddu trwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac yn darparu pensiynau sy'n cael eu cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu o leiaf £10 i'ch pensiwn, am bob £100 y byddwch yn ei ennill.
Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n bodloni anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth Cymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant ymroddedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.
Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn
Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.
Ar ben hyn oll, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint i ni o fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.
Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!