Head of Children and Family Services

GatenbySanderson

Wales

Hybrid

GBP 65,000 - 90,000

Full time

14 days+

A complete application in a minute

Tailored resume and cover letter, ready to send.

Get past ATS filters

Job summary

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am Bennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i arwain gwasanaethau plant a theuluoedd. Byddwch yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ac ar draws systemau i sicrhau diogelu plant, cefnogi teuluoedd a phartneriaid yng ngwasanaethau addysg, iechyd a chynghorion eraill.

Gellir ystyried gweithlu amlbroffesiynol, gyda rôl arweinyddiaeth strategol, ar gyfer datblygu gwasanaethau rhagorol a chanlyniadau cadarnhaol i blant a theuluoedd yn ein

Qualifications

  • Arweinyddiaeth strategol ar gyfer gwasanaethau plant a theuluoedd.
  • Profiad mewn gweithio mewn tîm amlbroffesiynol ac mewn polisi gweithredu.
  • Dealltwriaeth o fframweithiau cyfreithiol a pholisi sy'n effeithio ar wasanaethau plant.

Responsibilities

  • Rhoi arweinyddiaeth strategol i ofal cymdeithasol plant a gwasanaethau cymorth i deuluoedd.
  • Ysgogi rhagoriaeth mewn ymarfer, trwy dwf tîm a thrawsnewid parhaus.
  • Cydweithio gyda phartneriaid addysg, iechyd, y heddlu, a'r sector gwirfoddol i wella canlyniadau.

Skills

Strategic leadership
People management
Interdisciplinary collaboration

Education

Social work degree

Job description

Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad: Pen-y-bont ar Ogwr / Gweithio Ystwyth

Prin yw'r rolau sy'n cynnig y cyfle i wneud gwahaniaeth mor ddwys i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd. Ym Mpen-y-bont ar Ogwr, rymydym yn ymrwymedig i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, yn ddiogel rhag niwed ac yn cael ei gefnogi i gyflawni ei botensial llawn. Mae ein dull wedi'i wreiddio mewn ymyrraeth gynnar, atal, ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a gweithio ochr yn ochr â theuluoedd i feithrin gwydnwch a chynnal canlyniadau cadarnhaol.

Rydym yn falch o'n gweithlu Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, sy'n gweithio i ddiogelu a chefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws y fwrdeistref sirol. Rydym yn wasanaeth plant a theuluoedd sy'n cael cefnogaeth dda ac sy'n perfformio'n dda ac rydym mewn sefyllfa dda i barhau i wella, ac mae hyn wedi'i gydnabod gan Arolygiaeth Gofal Cymru: 'Mae arweinwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (y Cyngor) wedi blaenoriaethu gwasanaethau plant yn gyson er mwyn cefnogi gwelliannau parhaus ac amserol. Mae hyn wedi gwella ansawdd a chyflawniad swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn sylweddol'.

Fel Cyngor, rymydym yn benderfynol o ddiogelu plant agored i niwed, cefnogi teuluoedd a chymunedau cryf a darparu gwasanaethau rhagorol sy'n gwella canlyniadau a chyfleoedd bywyd. A chithau'n Bennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd newydd i ni, byddwch yn aelod allweddol o'r tîm arwain, gan weithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y Cyngor a chyda phartneriaid ym maes addysg, iechyd, yr heddlu, y trydydd sector, a sefydliadau rhanbarthol a chenedlaethol.

Byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol i ofal cymdeithasol plant a gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gan ysgogi'r gwaith o gyflawni ein blaenoriaethau a sicrhau gwelliant parhaus mewn atal ac ymyrraeth gynnar, diogelu, cynllunio gofal, perfformiad a chanlyniadau. Mae'r rôl hon yn gofyn am arweinydd proffesiynol profiadol sydd â'r gallu i ysbrydoli ein gweithlu, cynnal ymarfer o ansawdd uchel sy'n seiliedig ar gryfderau, ysgogi arloesedd a thrawsnewid a darparu gwasanaethau rhagorol.

Byddwch yn dod â dull cryf sy'n seiliedig ar werthoedd, hanes o gyflawni gwelliant cynaliadwy ac ymrwymiad i roi plant a theuluoedd wrth wraidd y prosess o wneud penderfyniadau. Byddwch yn fedrus iawn wrth arwain gweithlu amrywiol ac amlbroffesiynol, gan adeiladu partneriaethau effeithiol ac arwain cydweithredu ar draws systemau er mwyn ymateb i anghenion plant, pobl ifanc a theuluoedd.

Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig llwyfan cryf i adeiladu arno. Mae gennym weithlu talentog ac ymroddedig, aelodau etholedig cefnogol, partneriaethau cryf a phenderfyniad i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc yn barhaus.

Rhaid i chi allu dangos dealltwriaeth drylwyr o'r dirwedd ddeddfwriaethol, polisi ac ymarfer sy'n effeithio ar wasanaethau plant a theuluoedd. Byddwch yn weithiwr cymdeithasol proffesiynol gyda gwerthfawrogiad dwfn o'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau plant a theuluoedd a gweledigaeth glir ar gyfer sut y gall cymorth cynnar, atal, cymorth i deuluoedd ac ymyrraeth statudol effeithiol weithio gyda’i gilydd i wella canlyniadau.

Rydym eisiau clywed gan unigolion sydd â hanes o ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau, cryfhau rhwydweithiau teuluol o fewn cymunedau, lleihau'r angen am ymyrraeth statudol lle bynnag y bo'n bosibl, gwella profiadau plant mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal, a sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc ym Mpen-y-bont ar Ogwr yn cael ei gefnogi i ffynnu. Drwy eich arweinyddiaeth strategol, byddwch yn ysgogi rhagoriaeth mewn ymarfer, yn meithrin diwylliant o ddysgu a gwella parhaus, ac yn arwain partneriaethau effeithiol sy'n cyflawni newid ystyrlon a pharhaol i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.join-bridgend.gs-attract.com neu siaradwch â'n partneriaid chwilio gweithredol GatenbySanderson: I'w gadarnhau (07….) neu Gary Evans (07809 195593).

Dyddiad Cau: 11.59pm ddydd Sul 22 Tachwedd 2026

Get your free, confidential resume review.

or drag and drop your file here.

Similar jobs

Similar jobs worth comparing

Gweithiwr Cefnogi Anghenion Ychwanegol - Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ, Brynithel (dros gyfnod mamolaeth)
Gweithiwr Cefnogi Anghenion Ychwanegol - Cylch Meithrin Dechrau'n Deg Gwdihŵ, Brynithel (dros gyfnod mamolaeth)

Mudiad Meithrin • Blaina

On-site
GBP 15,000 - 21,000
Swyddog Cymorth Dysgu (Dros dro) - Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd
Swyddog Cymorth Dysgu (Dros dro) - Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd

eTeach UK Limited • Coytrahen

On-site
GBP 20,000 - 26,000
Swyddog Cymorth Dysgu (Cyfnod Mamolaeth) - Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd
Swyddog Cymorth Dysgu (Cyfnod Mamolaeth) - Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd

eTeach UK Limited • Coytrahen

On-site
GBP 21,000 - 26,000
Swyddog Cymorth i Wasanaethau
Swyddog Cymorth i Wasanaethau

Ceredigion County Council • Penmorfa

Hybrid
GBP 25,000 - 32,000
Hybrid working
Competitive annual leave
Generous pension scheme
Receptionist - Ysgol Gyfun Penweddig
Receptionist - Ysgol Gyfun Penweddig

Ceredigion • Aberystwyth

On-site
GBP 18,000 - 23,000
Fostering Social Worker
Fostering Social Worker

Action for Children • Mold

On-site
GBP 35,000 - 43,000
Over 7 weeks paid leave
Wellbeing day
Leadership opportunities
+3
Fostering Social Worker
Fostering Social Worker

Action for Children • Newport

On-site
GBP 35,000 - 43,000
Paid annual leave (7+ weeks) with buy/
Pennaeth Strategaeth, Dysgu Cymunedol a Adnoddau
Pennaeth Strategaeth, Dysgu Cymunedol a Adnoddau

Vale of Glamorgan Council • Barry

On-site
GBP 65,000 - 90,000
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant

Isle of Anglesey County Council • Hermon

On-site
GBP 29,000 - 32,000
Head of Democratic Services / Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
Head of Democratic Services / Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd

Cardiff Council • Cardiff

Hybrid
GBP 60,000 - 80,000
LGPS pension scheme
Generous annual leave 28–33 days
Discounted leisure and travel options
+1