Enable job alerts via email!
Boost your interview chances
Create a job specific, tailored resume for higher success rate.
An innovative organization is seeking a skilled Welder to create and install sets for theatrical productions. This role involves working primarily with steel and occasionally with aluminum, utilizing various welding techniques. The successful candidate will have a strong background in construction and welding, with excellent interpersonal skills and the ability to work under tight deadlines. Join a creative team where your contributions will play a vital role in delivering high-quality performances that resonate with audiences across the UK.
Gwneuthurwr Weldio
Cyfweliadau i'w gynnal ar Dydd Iau 15 o Fai 2025.
Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn lle creadigol ac ysbrydoledig i weithio ynddo ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.
Mae Gwasanaethau Theatraidd Caerdydd (CTS) yn is-gwmni sydd yn eiddo llwyr i Opera Cenedlaethol Cymru. Mae’r adran adeiladu yn cynnwys yr adran Gwaith Coed, yr adran Weldio a Gwneuthuro a'r Swyddfa Luniadu.
Rydym yn awyddus i benodi Gwneuthurwr Weldio i gynhyrchu a gosod golygfeydd i gwrdd â'r safonau sy'n ofynnol gan y cwmni a'r cleient, gweithio'n bennaf o luniadau adeiladu ac yn achlysurol trwy gyfarwyddyd llafar; i ddilyn prosiectau o'r gweithdai hyd at osod ar y llwyfan neu mewn lleoliadau eraill.
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?
Bydd gofyn i chi weithio gyda dur yn bennaf (Gradd 3 yn ddisgwyliedig), ac weithiau gydag Alwminiwm neu ddeunyddiau eraill gan ddefnyddio technegau weldio, plygu, torri a siapio (Graddau 1 a 2 yn ddisgwyliedig). Bydd hefyd gofyn i chi wneud deunyddiau yn ôl yr angen gan ddefnyddio amrywiaeth o offer a chyfarpar a chynhyrchu fframiau, llwyfannau a strwythurau, a gwneud gwaith adnewyddu setiau yn ôl yr angen.
Beth fydd ei angen arnoch chi?
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Cyflog | £24,829-£27,682 y flwyddyn yn dibynnu ar brofiad. |
Pensiwn | Mae'r holl weithwyr yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, dri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol. |
Aelodaeth Campfa | Mae'r holl weithwyr yn gymwys am y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy'n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd. |
Gostyngiadau | Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda Future Inns yng Nghaerdydd. |
Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park | Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC). |
Rhaglen Cymorth i Weithwyr | Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori am ddim a chyfrinachol sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr. |
Gwersi Cymraeg | Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim. |
Os ydych yn chwilio am eich her nesaf, gwnewch gais heddiw. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw geisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na phe baent yn Saesneg.
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â heledd.davies@wno.org.uk