Enable job alerts via email!

Team Co-ordinator (Arts)

Arts Council of Wales

Cardiff

Hybrid

GBP 27,000 - 32,000

Full time

10 days ago

Boost your interview chances

Create a job specific, tailored resume for higher success rate.

Job summary

Mae'r Cyngor Celfyddydau Cymru yn chwilio am Gydlynydd Tîm i gynnal a chydlynu gweithgareddau gweinyddol. Mae'r rôl hon yn cynnwys sgiliau trefnu, cyfathrebu, a phrofiad mewn amgylchedd cyflym. Mae'r swydd yn cynnig cyfle i weithio mewn amgylchedd hybrid gyda buddion da.

Benefits

30 diwrnod o wyliau blynyddol
2.5 diwrnod braint
Oriau/patrwm gweithio hyblyg
Cynllun beicio i’r gwaith
Pensiwn cyflog terfynol (6%)

Qualifications

  • Profiod o ddarparu gwasanaethau gweinyddol o ansawdd uchel.
  • Gallu i flaenoriaethu a chynllunio eich gwaith.

Responsibilities

  • Cydlynu cyfathrebu, gohebiaeth ac apwyntiadau.
  • Cynllunio, trefnu a gweinyddu cyfarfodydd tîm.

Skills

Trefnu
Cyfathrebu
TG datblygedig

Job description

Cydlynydd Tîm (Y Celfyddydau)

Dyddiad cau: 06/06/2025

Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Cytundeb cyfnod penodol 12 mis

Gradd B: Cyflog cychwynnol o £27,591

Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, cynllun beicio i’r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).

Am y rôl

Mae gan y Cydlynwyr Tîm bortffolio cymysg o gyfrifoldebau unigol a phrosiectau corfforaethol. Maent yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i gynnal a chydlynu’r gweithgarwch yma.

Maent yn sicrhau bod gweithgareddau’r Cyngor yn cael eu cyflawni’n effeithiol trwy ddarparu gwasanaeth gweinyddol o safon uchel, gan gynnwys cydlynu cyfathrebu, gohebiaeth ac apwyntiadau. Mae hefyd yn cynnwys cynllunio, trefnu a gweinyddu cyfarfodydd tîm.

Amdanoch chi

Os oes gennych sgiliau trefnu a chyfathrebu da, gallai’r rôl hon fod ar eich cyfer. Byddwch â phrofiad perthnasol o ddarparu gwasanaethau gweinyddol o ansawdd uchel mewn amgylchedd cyflym, ynghyd â sgiliau TG datblygedig. Mae’r gallu i flaenoriaethu a chynllunio eich gwaith eich hun yn hanfodol, ynghyd â’r gallu i gyfathrebu’n glir â rhanddeiliaid gyda doethineb a diplomyddiaeth.

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn gweithio yn Saesneg a Chymraeg. Mae rhuglder yn y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Disgwylir i chi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ar ôl eich penodi, ac rydym yn cynnig cefnogaeth i ddatblygu eich sgiliau iaith.

Amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o amrywiol gefndiroedd diwylliannol ac ethnig, yn ogystal â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg, ac ni fydd cais yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd yr iaith a ddewisir. Ein nod yw sicrhau dewis ar sail cymhwysedd yn unig.

Bydd y Cyngor yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyfforddus yn ymuno â’r sefydliad, gyda hyfforddiant neu Mentora os angen.

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni’r holl feini prawf hanfodol.

Dyddiad cau:

5pm, Dydd Gwener 6 Mehefin 2025

Cyfweliadau:

Wythnos 16eg - 20fed Mehefin 2025

Gweithio hyblyg

Byddwn yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd er mwyn cefnogi cydbwysedd gwaith a bywydau personol.

Get your free, confidential resume review.
or drag and drop a PDF, DOC, DOCX, ODT, or PAGES file up to 5MB.