Get a reply from this employer
Your resume and cover letter, tailored to exactly what they’re hiring for.
Isle of Anglesey County Council yn chwilio am swyddog cyfrifyddu i gefnogi adran gyllideb ac i ddarparu gwasanaethau cyngor mewn amgylchedd dreftadaeth leol.
Bydd y rôl yn cynnwys monitro gyllideb, cefnogi prosiectau ac ymateb i ymholiadau, gyda phartneriaethau mewn timau eraill a darparu cyngor i'r adranau yng Nghyngor Ynys Môn.
Bydd y dolenni hyn yn agor tab newydd yn eich porwr.
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Bydd y swyddog yn gyfrifol i’r Rheolydd Cyllid dynodedig neu Uchel Gyfrifydd, yn goruchwylio gweithgareddau’r Cynorthwywr(wyr) Cyfrifo cysylltiedig, fel rhan o’r tîm ehangach,am ddarparu amrediad eang o :
i'r Gyfadran (Cyfadrannau) dynodedig gyda chyfrifoldeb arbennig am un neu mwy o wasanaethau. Bydd deilydd y swydd yn gyfrannu fel rhan o’r tîm at ddatblygiad gwasanaethau cyfrifeg y Cyngor yn gyffredinol ac at adolygiad critigol a gwelliant parhaus syste mau, prosesau ac arferion gweithio.
Bydd y swyddog yn cyfrannu tuag at sicrhau fod cyfres gadarn o wasanaethau cefnogaeth a chynghori ariannol ar gael i’r Cyfadran(nau) i gwrdd ag anghenion busnes cyfredol y Cyngor a’i anghenion yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau rheolaidd wed i eu rhaglennu megis monitro’r gyllideb, a thasgau penodol fel cefnogi prosiectau penodol unigol a mentrau ac ymateb i ymholiadau a cheisiadau ad hoc.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth agofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Mae'r dogfennu atodedig ar gael yn y linciau. Bydd clicio ar linc dogfen yn cychwyn ei lawrlwytho.