Swyddog Ansawdd y Coleg (Tîm Ansawdd a Safonau)
Mae’r tîm Llywodraethu Addysg yn awyddus i recriwtio Swyddog Ansawdd y Coleg a fydd yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol y Brifysgol. Bydd y rôl yn darparu arweiniad a chanlluniau proffesiynol o ansawdd uchel ar bob agwedd ar reoliadau, polisïau a gweithdrefnau ansawdd a safonau, gan hwyluso dealltwriaeth ehangach o\'u pwysigrwydd cyd-destunol, yn ogystal â rheoli gweithgareddau ansawdd a safonau o safbwynt gweithredol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig nifer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 37 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau banc) (pro-rata ar gyfer staff rhan amser), cynllun pensiwn, trefniadau gweithio cyfunol (sy\'n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o\'ch amser), cynllun beicio i\'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau bob blwyddyn o ran y raddfa gyflog, a rhagor. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo, lle byddwch yn wynebu llawer o heriau gwahanol. Mae hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) a phenagored yw hon.
Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6).
I gael rhagor o wybodaeth am gydbwyso bywyd a gwaith, buddion ariannol, datblygiad a lles, a rhai o\'r cyfleusterau a\'r gwasanaethau sydd ar gael i staff Prifysgol Caerdydd, ewch i Yr hyn y gallwn ei gynnig - Swyddi - Prifysgol Caerdydd
Dyddiad hysbysebu: Dydd Mercher, 1 Hydref 2025
Dyddiad cau: Dydd Mercher, 22 Hydref 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddennu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o\'r gymuned beth bynnag fo\’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a\'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio\'n hyblyg.
Cymeradwyir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Prif Ddyletswyddau
- Gweithredu, sefydlu a hwyluso dealltwriaeth gyd-destunol o reoliadau academaidd, polisïau, gweithdrefnau a systemau ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau dyfarniadau\' y Brifysgol mewn Ysgolion.
- Rhoi cyngor, arweiniad a chyfeiriad arbenigol a chyd-destunol ar reoliadau, polisïau a gweithdrefnau sicrhau ansawdd, gan gynnwys diweddariadau rheolaidd ar newidiadau trwy rwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol.
- Gweithio mewn partneriaeth ag Ysgolion i gefnogi ystod eang o brosesau sicrhau ansawdd, gan gynnwys cymeradwyo a chynnal rhaglenni ac ailddilysu yn unol â disgwyliadau\'r sefydliad.
- Bod yn gyfrwng cyfathrebu effeithiol rhwng Ysgolion, Colegau a staff y Gwasanaethau Proffesiynol eraill mewn materion sy\’n ymwneud â\'r dirwedd gyd-destunol y mae Prifysgol Caerdydd yn gweithredu ynddi a sut mae adborth yn cefnogi\’r gwaith o wella polisïau a phrosesau ansawdd a safonau yn barhaus.
- Cymryd cyfrifoldeb am reoli\’n weithredol weithgareddau sicrhau ansawdd fel y cadarnhawyd gan y Pennaeth Ansawdd a Safonau Academaidd.
- Gweithio gyda\'r Pennaeth Llywodraethu Addysg a\'r Pennaeth Ansawdd a Safonau Academaidd i werthuso a datblygu ymhellach drefniadau llywodraethu addysg ar lefel yr Ysgol, y Coleg a\'r Brifysgol.
- Bod yn Ysgrifennydd i bwyllgorau, Grwpiau Gorchymyn a Gorffen a/neu is-bwyllgorau mewn meysydd cymwys, gan gynghori aelodau ar strategaethau, polisïau a gweithdrefnau, cynnal gwaith ymchwil ac ysgrifennu adroddiadau yn ôl yr angen.
- Mynd i gyfarfodydd Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Coleg a chyfarfodydd eraill y Coleg er mwyn cynnig cyngor ac arweiniad arbenigol ar gymhwyso rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau academaidd priodol.
Dyletswyddau Cyffredinol
- Ymwneud â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus gan gynnwys ymgysylltu\'n weithredol â grwpiau priodol yn y sector i sicrhau bod y Brifysgol yn mabwysiadu arfer gorau a\'i bod yn gwybod am arferion a datblygiadau perthnasol ar draws y sector.
- Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd.
- Dilyn polisïau\'r Brifysgol ar iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Cyflawni o bryd i’w gilydd ddyletswyddau eraill sydd heb eu crybwyll uchod ond a fydd yn cyd-fynd â gofynion y swydd.
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
- Gradd/cymhwyster NVQ 4 neu brofiad cyfatebol/aelodaeth o sefydliad proffesiynol priodol
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
- Gwybodaeth arbenigol am sicrhau a gwella ansawdd ym maes addysg uwch a gafwyd mewn rôl gysylltiedig
- Y gallu i arloesi a/neu ddatblygu polisi sefydliadol o ran ansawdd a safonau yn unol â blaenoriaethau\'r Sefydliad
- Y gallu i flaenoriaethu a gwneud penderfyniadau wrth weithio ar draws ffiniau sefydliadol mewn sefydliad cymhleth
- Gwybodaeth a dealltwriaeth helaeth o bolisi cyfredol a\'r hinsawdd ym maes addysg uwch yn genedlaethol ac yn rhyngwladol; ynghyd â dealltwriaeth o\'r problemau o ran rheoleiddio a\'r heriau cyfredol sy\'n berthnasol i addysg uwch
Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio yn rhan o Dîm
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gyda\'r gallu i gyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol gydag ystod eang o bobl ar draws ffiniau sefydliadol
- Gallu profedig i ddatblygu rhwydweithiau er mwyn cyfrannu at ddatblyliadau hirdymor a bod yn gyfranogwr gweithgar, cefnogol ac anogol mewn tîm
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
- Tystiolaeth o allu datrys problemau eang trwy ddefnyddio menter a chreadigrwydd, gan nodi a chynnig atebion ymarferol ac arloesol
- Tystiolaeth o allu rhagorol i drefnu er mwyn blaenoriaethu a rheoli eich llwyth gwaith eich hun.
Meini Prawf Dymunol
- Cymhwyster Ôl-raddedig/Proffesiynol
- Profiad llwyddiannus o reoli contractau gyda phartneriaid/cleientiaid allweddol
- Rhugl yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig