Enable job alerts via email!
Generate a tailored resume in minutes
Land an interview and earn more. Learn more
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn chwilio am Gyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau, Polisi ac Ymgysylltu i arwain cyfathrebu a pholisi. Mae'r rôl hon yn cynnig cyflog cystadleuol, diwrnodau gwyliau a chamau gweithredu hyblyg, gyda'r cyfle i wneud gwelliannau a newid strategol yn y sector gofal.
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau, Polisi ac Ymgysylltu
Caerdydd a Chyffordd Llandudno, Cymru (gyda gweithio hybrid)
Amdanom ni
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a'u teuluoedd a'u gofalwyr.
I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, data ac ymchwil i wella gofal.
Rydym nawr yn chwilio am Gyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau, Polisi ac Ymgysylltu i ymuno â ni’n barhaol. Cynigir y rôl hon gydag opsiynau gweithio hyblyg, a byddwn yn ystyried ymgeiswyr fel rhan o rannu swydd.
Y Manteision
Y Rôl
Fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau, Polisi ac Ymgysylltu, byddwch yn arwain ein dulliau strategol o gyfathrebu allanol, ymgysylltu â rhanddeiliaid, rheoli perthynas â chwsmeriaid a’n mewnwelediad i bolisi.
Byddwch yn gweithio gyda'r Tîm Gweithredol a'r grŵp arweinyddiaeth i gyflawni ein gweledigaeth strategol, llywio negeseuon sefydliadol, a datblygu perthnasoedd cydweithredol dibynadwy â rhanddeiliaid allweddol.
Yn benodol, byddwch yn:
- Arwain y gwaith o gyflawni ein strategaeth farchnata a chyfathrebu
- Goruchwylio sut rydym yn ymdrin ag ymgysylltu â rhanddeiliaid, gwasanaeth cwsmeriaid, a chyfathrebu mewnol
- Darparu cyngor a briffiau i'r Prif Weithredwr a'r Tîm Rheoli Gweithredol
- Cydlynu ymatebion i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'r Senedd
- Cynrychioli Gofal Cymdeithasol Cymru mewn fforymau allanol yn ogystal â'r cyfryngau
- Cydweithio ag arweinwyr y sector i godi proffil gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru
Amdanoch Chi
Er mwyn i ni eich ystyried yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau, Polisi ac Ymgysylltu, bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad profedig o ddatblygu strategaethau ymgysylltu a chyfathrebu effeithiol
- Profiad o gynghori uwch arweinwyr a llywio materion polisi cymhleth
- Gwybodaeth strategol am dirwedd wleidyddol a gofal cymdeithasol Cymru
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Y gallu i adeiladu partneriaethau cryf gydag ystod eang o randdeiliaid
- Sgiliau arweinyddiaeth, dylanwadu a chyfathrebu cryf
- Y gallu i arwain timau, rheoli amwysedd a gyrru newid strategol
- Cymhwyster(au) proffesiynol neu brofiad cyfatebol mewn maes perthnasol
Ar hyn o bryd rydym yn ymgysylltu â staff ar ad-drefniant sefydliadol, felly gallai fod rhai newidiadau i feysydd cyfrifoldeb y swydd hon, a byddwn yn cadarnhau unrhyw newidiadau cyn y cyfweliad.
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 6 Gorffennaf 2025.
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu, Pennaeth Materion Allanol, Cyfarwyddwr Polisi, neu Gyfarwyddwr Cynorthwyol Cysylltiadau Allanol.
Gellir gwneud addasiadau rhesymol ar unrhyw gam o'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, er enghraifft sy'n niwro-amrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â'r Tîm AD i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.
Rhaid i chi fod wedi'ch lleoli yn y DU i wneud cais am y rôl hon a gallu ymweld ag un o'r swyddfeydd a nodwyd pan fo angen.
Felly, os ydych chi'n barod i ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau, Polisi ac Ymgysylltu, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Y gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yw gwasanaethau Asiantaeth Gyflogaeth.
Assistant Director of Partnerships, Policy and Engagement
Cardiff and Llandudno Junction, Wales (with hybrid working)
About us
Social Care Wales provides leadership and expertise in social care and early years in Wales.
Our vision is to make a positive difference to care and support for children, adults and their families and carers.
To do this, we lead on developing and regulating the social care workforce, service improvement, data and research to improve care.
We are now looking for an Assistant Director of Partnerships, Policy and Engagement to join us on a permanent basis. This role is offered with flexible working options, and we will consider candidates as part of a job share.
The Benefits
The Role
As the Assistant Director of Partnerships, Policy and Engagement, you will lead our strategic approaches to external communication, stakeholder engagement, customer relationship management and policy insight.
You will work with the Executive Team and leadership group to deliver our strategic vision, shape organisational messaging, and develop trusted, collaborative relationships with key stakeholders.
Specifically, you will:
About You
To be considered as the Assistant Director of Partnerships, Policy and Engagement, you will need:
We are currently engaging with staff on a reorganisation, so there could be some changes to areas of responsibility of this post, and we will confirm any amendments prior to interview.
The closing date for this role is 6 July 2025.
Other organisations may call this role Director of Communications, Head of External Affairs, Policy Director, or Assistant Director of External Relations.
Reasonable adjustments can be made at any stage of the recruitment process for candidates with a disability, impairment or health condition, for example who are neuro-divergent or who use British Sign Language. Please get in touch with the HR Team to discuss adjustments for any part of the process.
You must be based in the UK to apply for this role and be able to visit one of the stated offices when required.
So, if you’re ready to join Social Care Wales as the Assistant Director of Partnerships, Policy and Engagement, please apply via the button shown. This vacancy is being advertised by Webrecruit. The services advertised by Webrecruit are those of an Employment Agency.