Turn this role into an interview — a resume and cover letter built around what this employer wants.
Freedom Leisure is recruiting for a Lifeguard (Achubwr Bywyd) to ensure the highest levels of service in our leisure facilities. The role operates 37 hours per week on a rota spanning Monday to Sunday, with full training provided and a supportive team environment.
The position emphasizes safety, customer care and inclusivity across all facilities, with Welsh language skills encouraged. We offer a comprehensive benefits package, a pension plan, cycle-to-work and car leasing schemes, discounted
At Freedom Leisure, we're all about positive vibes, great people and making a real impact. Yes, we run leisure and cultural facilities, gyms, and swimming pools - but at the heart of it all, it's our people who make the difference.
Yn Freedom Leisure, mae popeth yn ymwneud ag awyrgylch cadarnhaol, pobl wych, a chael effaith go iawn. Ydyn, rydyn ni'n rhedeg cyfleusterau hamdden a diwylliannol, campfeydd, a phyllau nofio- ond wrth wraidd y cyfan, ein pobl ni sy'n gwneud y gwahaniaeth.
Fel un o ymddiriedolaethau hamdden elusennol blaenllaw'r DU, rydyn ni'n falch o'n cenhadaeth o Wella Bywydau Trwy Hamdden. Rydyn ni yma i helpu cymunedau i fyw bywydau iachach a hapusach trwy wneud ein canolfannau'n groesawgar, yn gynhwysol, ac yn hygyrch i bawb - oherwydd mae pawb yn haeddu teimlo'n dda. Rydyn ni i gyd am ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid anhygoel gyda gwên-bob dydd. Rydyn ni'n creu mannau lle mae pobl yn teimlo'n gartrefol, wedi'u cefnogi, ac wedi'u hysbrydoli.
Os ydych chi'n angerddol am helpu eraill ac yn caru creu profiadau gwych, byddwch chi'n teimlo'n gartrefol gyda ni. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr i ddechrau - byddwn yn rhoi'r holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi. Gyda dros 130 o ganolfannau ledled Cymru a Lloegr, mae yna lawer o le i dyfu. Mae llawer o'n tîm wedi adeiladu gyrfaoedd anhygoel gan wneud yr hyn maen nhw'n ei garu, gan helpu cwsmeriaid o ddydd i ddydd a gwneud i bobl deimlo'n dda.
Rydyn ni'n falch o fod yn gweithle lle mae croeso i bawb, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a'u cefnogi i ffynnu-oherwydd pan fydd ein tîm yn adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu, rydyn ni i gyd yn tyfu'n gryfach gyda'n gilydd.
Os ydych chi'n hoffi siarad â phobl yna dyma'r rôl i chi yn bendant. Rydyn ni'n deall nad yw meithrin perthynas â chwsmeriaid a chydweithwyr mor hawdd ag y mae'n swnio a gweithiau. Byddwn yn darparu'r holl hyfforddiant angenrheidiol i fod yn Achubwr Bywyd llwyddiannus ond rydyn ni hefyd yn credu fod cyflogi pobl o gymysgedd o gefndiroedd cyflogaeth yn gallu bod yn fwy buddiol i'n tîm, efallai bydd rhai yn eu swydd gyntaf erioed ag angen rhagor o gefnogaeth oddi wrth eu cydweithwyr.
Yn eich rôl fel Achubwr Bywyd, byddwch yn sicrhau bod y lefelau gorau o wasanaeth yn cael eu cyflawni i'n cwsmeriaid drwy gynnig cyfleusterau cyfeillgar, glân a diogel.
Dydyn ni ddim yn chwilio am y Duncan Goodhew nesaf ond bydd yn angenrheidiol eich bod chi'n gallu nofio'n bur dda. Os oes angen hyfforddiant ychwanegol arnoch chi i gyrraedd y lefel angenrheidiol i fod yn achubwr bywyd, peidiwch â phoeni, achos bydd un o'n hathrawon nofio ardderchog yn gallu'ch cefnogi chi i wella.
Os ydych am wneud cynnydd pellach, byddwn yn cefnogi hyn drwy hyfforddiant ychwanegol, yn ffurfiol ac fel rhan o'r swydd. Fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn gwerthfawrogi nad yw pawb am ‘ddringo'r ysgol' ac mae hynny'n hollol iawn gyda ni. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw eich bod chi'n hapus yn eich gwaith.
Dyddiad cau: 2 Hydref 2026 / Closing date: 2nd October 2026
Cyflog: hyd at £24,519 y flwyddyn / Salary: up to £24,519 per annum
Mae Freedom Leisure yn falch o fod yn cyflogwr cyfle cyfartal.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed, ac rydym yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.
Freedom Leisure is proud to be an equal opportunities employer.
We are committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people, and vulnerable adults, and we expect all staff and volunteers to share this commitment.