
Enable job alerts via email!
Generate a tailored resume in minutes
Land an interview and earn more. Learn more
Cyngor lleol yn Tregaron yn chwilio am Athro/Athrawes effeithiol a brwdfrydig i ddatblygu pob disgybl. Mae'r rôl yn gofyn am sgiliau cydweithio da a disgwyliadau uchel i gynnal safonau. Bydd angen gwiriad DBS Uwch ar gyfer y swydd hon.
Mae Ysgol Gynradd Rhos Helyg yn ysgol 4 – 11 oed, gyda 52 o ddisgyblion ar y gofrestr wedi eu rhannu rhwng dau gampws – Campws Rhos y Wlad, Bronant a Champws Llangeitho. Mae’r ysgol yn darparu cyfle gwych i ymgeiswyr goleuedig gyd-weithio ar draws y ddau gampws gan rannu arbenigeddau a phrofiadau ac ymuno â’n tîm gweithgar ac ymroddedig.
Gellid darganfod mwy o wybodaeth am yr ysgol, gan gynnwys dod o hyd i’n gweledigaeth ar y ddolen isod. Mae’r Llywodraethwyr am benodi Athro/Athrawes effeithiol, ysbrydoledig a brwdfrydig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i ddatblygu pob disgybl hyd eithaf ei (g)allu. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymarferydd ardderchog o fewn y dosbarth gyda disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i gynnal a chodi safonau. Bydd y gallu i gydweithio’n effeithiol fel rhan o dîm ymroddgar mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni, y llywodraethwyr a’r gymuned leol yn hanfodol.
Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â Phennaeth Ysgol Rhos Helyg, Mr Efan Williams ar 01974 251238, 01974 821615 neu williamse1348@hwbcymru.net
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl. Fel rhan o’r ymrwymiadau, mae�r rôl o fewn ein sefyddiad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau�r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.