
Enable job alerts via email!
Prifysgol arbenigol yn y DU yn chwilio am gynorthwyydd ymchwil i gyfrannu at brosiect ymchwil iselder a PTSD. Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle i greu arweiniaeth ym maes ymchwil, gyda'r opsiwn i gyflwyno cais am PhD. Mae'r cynnig yn cynnwys cyflog o £33,951 i £36,636 y flwyddyn, pro rata.
Cynorthwyydd Ymchwil (2 swydd)
Ysgol Seicoleg
Rydym yn dymuno penodi Cynorthwyydd Ymchwil i’n helpu i gyflawni prosiect ymchwil 5 mlynedd hynod gyffrous fydd yn datblygu triniaethau newydd ar gyfer iselder ac Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) drwy drin y cof yn ystod cwsg. Yn ystod y swydd hon efallai y cewch y cyfle i wneud cais i ddilyn PhD.
Ariennir y prosiect gan Ymddiriedolaeth Wellcome sy’n rhan o grant gan sawl canolfan o dan arweiniad Penny Lewis sy’n arbenigo yn yr hyn a wna cwsg i’n hatgofion, a lleolir y prosiect yng Nghanolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC). Bydd deiliad y swydd yn ymuno â thîm o ymchwilwyr gan gynnwys yr ymchwilydd ar Iselder (a Seiciatrydd Ymgynghorol) Neil Harrison, yr arbenigwr PTSD (a Seiciatrydd Ymgynghorol) Jon Bisson yn y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl Cymru (NCMH), a Tim Denison, sy\'n arwain tîm o beirianwyr ymchwil yn Rhydychen. Bydd disgwyl i\'r deiliad swydd gymryd rhan ym mhob agwedd ar yr ymchwil.
Canolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) yw un o’r sefydliadau niwrowyddoniaeth helaethaf eu hoffer yn Ewrop, gan feddu ar 3 sganiwr MRI, gan gynnwys sganiwr 7T a Connectom, MEG, labordai electroenceffalograffeg (EEG), labordy ysgogi’r ymennydd, ac wrth gwrs labordy cwsg o’r radd flaenaf. Mae Canolfan Genedlaethol Iechyd Meddwl Cymru drws nesaf. Mae grŵp Niwrowyddoniaeth a Seicoleg Cwsg (NaPS - https://www.sleepengineering.co.uk/) yn rhan o CUBRIC, gan gynnal ymchwil sy’n arwain y byd ar effeithiau cwsg ar brosesau gwybyddol.
Dinas werdd hardd yw Caerdydd sydd yn agos i’r arfordir (traethau) a’r mynyddoedd (Bannau Brycheiniog a lleoedd tebyg). Mae costau byw yn gymharol isel (prisiau tai rhesymol) ac yn gyffredinol mae pobl o’r farn ei bod yn lle dymunol i fyw.
Cysylltwch â Penny Lewis yn uniongyrchol os oes gennych ddiddordeb: lewisp8@caerdydd.ac.uk (rhowch Swyddi Peirianneg Cwsg) ym mlwch y pwnc.
Swydd ran-amser 70% cyfwerth ag amser llawn (24.5 awr yr wythnos) yw hon, a bydd ar gael am 3 blynedd a 4 mis o 1 Ionawr 2026.
Cyflog: £33,951 i £36,636 y flwyddyn, pro rata (Gradd 5). Ni ddisgwylir penodi\'r ymgeisydd llwyddiannus uwchlaw pwynt cyntaf y raddfa, sef £33,951 y flwyddyn (pro rata).
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 3 Hydref 2025
Dyddiad cau: Dydd Llun, 10 Tachwedd 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff y rhain eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco. Mae hyn yn golygu, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, y byddwn yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil ac nid ar sail metrigau cyhoeddi na\'r cyfnodolyn y mae\'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd
Prif Swyddogaeth
Cyfrannu at ymchwil ym maes arbenigol peirianneg cwsg, gan ymgymryd â gwaith sy\'n helpu i arwain at gyhoeddi ymchwil o safon. Mynnu rhagoriaeth ymchwil ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.
Arall
Meini prawf hanfodol
Cymwysterau ac Addysg
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
Cyfathrebu a Gweithio’n Rhan o Dîm
6 Sgiliau cyfathrebu diamheuol, gan gynnwys cyflwyno i wahanol gynulleidfaoedd
Arall
Meini Prawf Dymunol