Get a reply from this employer — a resume and cover letter tailored to exactly what they’re hiring for.
Rheolwr Data a Datblygwr Digidol yng Nghaerdydd mae cyfrifoldeb yng ngwead a datblygu cronfeydd data casgliadau gwyddorau naturiol, gan sicrhau data o safon i ragolygon digido a rhwydweithiau rhyngwladol. Mae'r rôl yn gweithio ar draws timau casgliadau, TGCh ac digidol er mwyn gwella gwyddoniaeth agored a chyson data.
Mae'n rhan o DiSSCo-UK, a chefnogi gwaith wyddonol ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig mewn partneriaeth â GBIF a rhwydweithiau bioamrywiaeth.
Rheolwr Data a Datblygwr Digidol (Gwyddorau Naturiol), Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd / Data Manager & Digital Developer (Natural Sciences), National Museum Cardiff
Math o swydd wag - Tymor Sefydlog / Llawn Amser
Dyddiad Cau: 22 Medi 2026
Helpwch i ddod â chasgliadau gwyddorau naturiol Cymreig o safon fyd-eang i gynulleidfa fyd-eang. A chithau’n Rheolwr Data a Datblygwr Digidol yn Amgueddfa Cymru, byddwch yn rheoli ac yn datblygu'r cronfeydd data casgliadau a'r seilwaith data sy'n sail i'n rhaglen digido yn y gwyddorau naturiol, gan sicrhau bod data enghreifftiol yn cyrraedd llwyfannau bioamrywiaeth cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys GBIF (Global Biodiversity Information Facility) a'r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Gan weithio ar draws timau casgliadau, TGCh a digidol, mae hon yn rôl dechnegol amrywiol ar y groesffordd rhwng rheoli casgliadau, seilwaith data a gwyddoniaeth agored.
Mae'r rôl hon yn rhan o broject DiSSCo-UK, a ariennir gan UKRI. Mae Disco UK (System Ddosbarthedig Casgliadau Gwyddonol) yn rhaglen genedlaethol 10 mlynedd werth £155 miliwn i ddigido a chysylltu casgliadau gwyddorau naturiol y Deyrnas Unedig, a ddarperir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) UKRI mewn partneriaeth â'r Amgueddfa Hanes Natur a mwy na 100 o bartneriaid ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r swydd hon yn gysylltiedig â cham cyntaf y project yn Amgueddfa Cymru, sef Hyb Arweiniol consortiwm Disco UK | Gorllewin, sy'n cynnwys Cymru, de-orllewin Lloegr a Gogledd Iwerddon.